Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Flintshire - Temporary Road Closures Due To Utility Works & Proposed Pedestrian Crossing
What is happening?
CYNGOR SIR Y FFLINT
Hysbysiad O Orchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14
Ewloe Green
MAE CYNGOR SIR Y FFLINT wedi gwneud Gorchymyn sy’n gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Green Lane, rhwng ei chyffyrdd â’r B5127 Ffordd yr Wyddgrug a Pinfold Lane, Ewloe Green yn Sir y Fflint.
Mae angen cyflwyno’r cyfyngiad er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol gan O’Connor Utilities Ltd ar ran Scottish Power.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am bythefnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens Prif Swyddog (Llywodraethu),
Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 20 Tachwedd 2026
LC/FCC (TTRO) 4123168
Hysbysiad O Orchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14
Shotton
MAE CYNGOR SIR Y FFLINT wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Aston Park Road, rhwng ei chyffyrdd â Shotton Lane a Plough Lane yn Shotton yn Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd fel y gall Wales and West Utilities osod prif bibell nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am bythefnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens Prif Swyddog (Llywodraethu),
Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 20 Tachwedd 2026
LC/FCC (TTRO) 4123764
Hysbysiad O Orchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14
Helygain
MAE CYNGOR SIR Y FFLINT wedi gwneud Gorchymyn sy’n gwahardd unrhyw gerbyd rhag teithio ar hyd ffordd ddienw rhwng ei chyffyrdd â Fferm Plas Newydd i Middle Mill, Helygain yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros gau’r ffordd yw gosod ac uwchraddio pibellau yn y ffordd ar gyfer MJ Quinn Integrated Services Ltd.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am bythefnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens Prif Swyddog (Llywodraethu),
Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 20 Tachwedd 2026
LC/FCC (TTRO) 4121184
Rhybudd O Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro - Cyngor Sir Y Fflint - Gorchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14
Gronant
MAE CYNGOR SIR Y FFLINT drwy hyn, ddim cynt na 7 diwrnod o 20 Tachwedd 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Gronant Hill, rhwng ei chyffyrdd â’r A549 Mostyn Road a Ffordd Llansaa, Gronant, Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd fel y gall Wales and West Utilities osod prif bibell nwy newydd a gwneud gwaith cysylltiedig.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Rhagfyr 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am 8, oni chwbhleir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens Prif Swyddog (Llywodraethu),
Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 20 Tachwedd 2026
LC/FCC (TTRO) 4173884
Cyngor Sir Y Fflint - Adran 23 O Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Croesfan Araethebid I Gerddwyr Ar Yr A550, Ffordd Penarlâg, Yr Hôb
Rhoddir RHYBUDD drwy hyn fod Cyngor Sir y Fflint, wrth arfer ei bwerau o dan Adran 23 yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a’r holl bwerau galluogi eraill, yn cynnig:-
a) Gosod Croesfan Pâl i Gerddwyr yn y lleoliad a ddisgrifir yn Atodlen y Rhybudd hwn.
Rheswm dros y cynnig:
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid i osod cyfleuster croesfan barhaol.
Mae’r Awdurdod wedi nodi’r A550, Ffordd Penarlâg, Yr Hôb fel lleoliad addas ar gyfer cyfleuster croesfan Pâl.
Cynigir gosod y groesfan yn y lleoliad hwn i roi cyfleuster croesi diogel ac wedi’i reoli i gerddwyr sy’n teithio rhwng ardaloedd preswyl cyfagos, siopau lleol a’r ysgol uwchradd leol. Mae’r cyfleuster croesi presennol yn gyfyngedig ac, ar hyn o bryd, mae gofyn i gerddwyr, yn cynnwys plant ysgol, rhieni, trigolion oedrannus a’r rhai sydd ag amhariad symudedd, groesi rhan brysur o’r briffordd heb y budd o gael cyfleuster croesi pwrpasol.
Felly bwriedir i’r cynnig:
Wella diogelwch cerddwyr drwy ddarparu man croesi wedi’i reoli.
Hwyluso mynediad mwy diogel at siopau lleol, cyfleusterau cymunedol a’r ysgol.
Annog cerdded fel dull teithio cynaliadwy.
Lleihau gwrthdrawiadau rhwng cerddwyr a cherbydau.
Gwella hygyrchedd i’r holl ddefnyddwyr, yn cynnwys y rhai ag anableddau, amhariad symudedd a rhieni sy’n gwthio pramiau.
Cefnogi plant sy’n teithio i ac o’r ysgol i symud yn ddiogel.
Mae’r Groesfan Pâl wedi’i ddewis fel y dull mwyaf priodol o gyfleuster croesi ar gyfer y lleoliad, gan roi technoleg canfod i gerddwyr a all addasu amseroedd croesi i gyd-fynd â galw’r cerddwyr a gwella diogelwch.
Felly ystyrir y bydd gosod Croesfan Pâl yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddiogelwch y ffordd, hygyrchedd a chysylltedd cymunedol, a dylid rhoi’r cynnig ar waith er budd holl ddefnyddwyr y briffordd.
Bydd y gwaharddiad arferol yn berthnasol i atal cerbydau rhag parcio, aros, llwytho a dadlwytho ar y briffordd, o fewn yr ardaloedd sydd wedi eu marcio â llinellau igam-ogam ar bob ochr i’r groesfan.
Gellir gweld copi o’r Rhybudd hwn, a chynllun sy’n dangos y ffordd y mae’r cynnig yn effeithio arni, yn ystod oriau agor arferol yng Nghanolfan Gyswllt Bwcle, Llyfrgell Bwcle, The Precinct, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2EF.
Bydd y dogfennau hefyd ar gael i’w gweld ar-lein ar ein gwefan, sef www.siryfflint.gov.uk, > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i’r cynnig, yn ogystal â’r sail dros wrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod yn y cyfeiriad isod erbyn dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2026, neu drwy anfon e-bost at: transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, gan ddyfynnu Cyfeirnod: - SS/TRO/JB/A550/Puffin.
ATODLEN
Gosod Croesfan Pâl Newydd I Gerddwyr
Yr A550, Ffordd Penarlâg, Yr Hôb – rhwng cyffordd Fagl Lane a chyffordd Kiln Lane.
Katie Wilby Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth),
Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Yr Wyddgrug, CH7 6LG
Dyddiedig 20 Tachwedd 2026
Open to feedback
From
20-Nov-2026
To
11-Dec-2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: