Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Conwy - Proposed Disabled Parking Places and Revocation of Existing Restrictions
What is happening?
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bobl Anabl) (Rhif 1) 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a fydd yn dynodi’r darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1 fel Mannau Parcio i Bobl Anabl i’w defnyddio gan gerbydau sy’n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig; dynodi’r darn o ffordd a nodir yn Atodlen 2 fel Man Parcio i Bobl Anabl i’w ddefnyddio gan gerbydau sy’n arddangos Bathodyn Anabl dilys yn unig; a dirymu’r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 3.
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn cynnwys eithriadau a fydd yn caniatáu aros er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwaith trwsio ac ati. Gellir archwilio copi o’r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darnau ffordd y mae’r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau’r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig, yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn, yn Llyfrgelloedd Llandudno, Bae Cinmel, Abergele a Conwy, ac ar wefan y Cyngor.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â’r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, Yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 0GG neu mewn neges e-bost at grt@conwy.gov.uk erbyn 11 Rhagfyr 2026.
Atodlen 1
(Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig)
Lleoliad | Cyfyngiad |
|---|---|
76 Park Road, Bae Colwyn | Ochr ddeheuol: O bwynt 46m i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Highfield Road am bellter o 6.6m tua’r gogledd-orllewin |
72 Elwy Road, Llandrillo-yn-Rhos | Ochr ogleddol: O bwynt 18m i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Bryn Menai am bellter o 6.6m tua’r de-ddwyrain |
62 Ffordd Llanelian, Hen Golwyn | Ochr dde-orllewinol: O bwynt 15m i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Sandhills Road am bellter o 6.6m tua’r de-ddwyrain |
37 Bro Gethin, Betws-y-coed | Ochr ogleddol: O bwynt 14m i’r gorllewin o derfyn Bro Gethin am bellter o 3m tua’r gorllewin |
32 Maes Derw, Cyffordd Llandudno | Ochr ddeheuol: O bwynt 26m i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Dol Dderw am bellter o 6.6m tua’r de-ddwyrain |
20 Ffordd Top Llan, Glan Conwy | Ochr orllewinol: O bwynt 80m i’r de o’r gyffordd â Church Street am bellter o 6.6m tua’r de |
5 Morris St (Bryn Hyfryd), Llanfair Talhaearn | Ochr ogleddol: O derfyn Bryn Hyfryd am bellter o 6.6m tua’r de |
1 Ddol Ddu Isaf, Hen Golwyn | Ochr ddwyreiniol: O bwynt 2.5m i’r de o derfyn Ddol Ddu Isaf am bellter o 3m tua’r de |
10 Rosebery Avenue, Craig y Don | Ochr ogleddol: O bwynt 52m i’r gorllewin o’r gyffordd â Carmen Sylva Road am bellter o 6.6m tua’r gorllewin |
Fflat 2 Rosebery Court, Rosebery Avenue, Craig y Don | Ochr ogleddol: O bwynt 20m i’r dwyrain o’r gyffordd â Queen’s Road am bellter o 6.6m tua’r dwyrain |
219 Station Road, Deganwy | Ochr ogleddol: O bwynt 79m i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Deganwy Quay am bellter o 6.6m tua’r gogledd-orllewin |
(Deiliaid Bathodyn Anabledd yn unig)
Lleoliad | Cyfyngiad |
|---|---|
Y Sgwâr (De-orllewin), Bae Cinmel | Ochr ogleddol: O bwynt 8m i’r gorllewin o’r gyffordd â St Asaph Avenue am bellter o 9m tua’r gorllewin |
(Dirymiadau)
Lleoliad | Cyfyngiad |
|---|---|
10 Ffordd Elisabeth, Llandudno | Ochr ddwyreiniol: gyferbyn ag eiddo rhif 10 |
11 Ffordd Glan y Môr, Cyffordd Llandudno | Ochr dde-orllewinol: O bwynt 58m i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Ferry Farm Road am bellter o 6.6m tua’r de-ddwyrain |
49 Stryd Fawr, Penmaenmawr | Ochr ddeheuol: o bwynt 11m i’r gorllewin o’r gyffordd â Derwen Lane am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain |
4 Agnes Grove, Bae Colwyn | Ochr ddwyreiniol: o bwynt 26.3m i’r gogledd ddwyrain o’r gyffordd â Grove Park am bellter o 6.6m tua’r gogledd-ddwyrain |
M Georgiou
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
The County Borough of Conwy
(Disabled Person’s Parking Places) (No 1) Order 2026
The Conwy County Borough Council proposes to make an Order under Sections 1, 2 and 4 and Part IV of Schedule 9, of the Road Traffic Regulation Act 1984, the effect of which will be to designate the lengths of road specified in Schedule 1 as a Disabled Person’s Parking Place for the exclusive use of vehicles displaying a valid Disabled Person’s Badge and a Residents Permit; to designate the length of road specified in Schedule 2 as a Disabled Person’s Parking Place for the exclusive use of vehicles displaying a valid Disabled Person’s Badge and to revoke the restrictions specified in Schedule 3.
Exceptions will be provided in the Order to permit waiting for the purposes of works of maintenance, repair and the like. A copy of the proposed Order together with a map showing the lengths of road to which the Order relates and a statement of the Council’s reasons for proposing to make the Order may be examined at the Council Offices Coed Pella Colwyn Bay; Llandudno, Kinmel Bay, Abergele and Conwy Libraries and on the Council website.
Objections to the proposed Order, together with the grounds on which they are made should be sent in writing to the Traffic Section, Environment Roads and Facilities, PO Box 1 Colwyn Bay LL29 0GG or to tro@conwy.gov.uk by 11 December 2026.
Schedule 1
(Disabled resident permit holders only)
Location | Description |
|---|---|
76 Park Road, Colwyn Bay | South side: From a point 46m north west of its junction with Highfield Road for a distance of 6.6m in a north westerly direction |
72 Elwy Road, Rhos on Sea | North side: From a point 18m south east of its junction with Bryn Menai for a distance of 6.6m in a south easterly direction |
62 Llanelian Road, Old Colwyn | South west side: From a point 15m south east of its junction with Sandhills Road for a distance of 6.6m in a south easterly direction |
37 Bro Gethin, Betws y Coed | North side: From a point 14m west of the end of Bro Gethin for a distance of 3m in a westerly direction |
32 Maes Derw, Llandudno Junction | South side: From a point 26m south east of its junction with Dol Dderw for a distance of 6.6m in a south easterly direction |
20 Top Llan Road, Glan Conwy | West side: From a point 80m south of its junction with Church Street for a distance of 6.6m in a southerly direction |
5 Morris St (Bryn Hyfryd), Llanfairtalhaiarn | North side: From the end of Bryn Hyfryd for a distance of 6.6m in a southerly direction |
1 Ddol Ddu Isaf, Old Colwyn | East side: From a point 2.5m south of the end of Ddol Ddu Isaf for a distance of 3m in a southerly direction |
10 Rosebery Avenue, Craig y Don | North side: From a point 52m west of its junction with Carmen Sylva Road for a distance of 6.6m in a westerly direction |
Flat 2 Rosebery Court, Rosebery Avenue, Craig y Don | North side: From a point 20 east of its junction with Queen’s Road for a distance of 6.6m in an easterly direction |
219 Station Road, Deganwy | North side: From a point 79m north west of its junction with Deganwy Quay for a distance of 6.6m in a north westerly direction |
(Disabled Badge holders only)
Location | Description |
|---|---|
The Square (South West), Kinmel Bay | North side: from a point 8m west is junction with St Asaph Avenue for a distance of 9m in a westerly direction |
(Revocations)
Location | Description |
|---|---|
10 Ffordd Elisabeth, Llandudno | East side: opposite property number 10 |
11 Glan y Mor Road, Llandudno Junction | South-west side: From a point 58m south east of its junction with Ferry Farm Road for a distance of 6.6m in a south easterly direction |
49 High Street, Penmaenmawr | Southern side; from a point 11m west of its junction with Derwen Lane for a distance of 6.6m in an easterly direction |
4 Agnes Grove, Colwyn Bay | East side: from a point 26.3m north east of its junction with Grove Park for a distance of 6.6m in a north easterly direction |
M Georgiou
Head of Law and Governance
Blwch Post 1 / PO Box 1 Bae Colwyn Bay LL29 0GG
Cyf/Ref: CCBC – 051001
Open to feedback
From
18-Nov-2026
To
11-Dec-2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Rhyl Journal directly at: