Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Llys Cadwyn - Revoking, Varying, No Stopping on 'School – Keep Clear' Markings: Waiting and Loading Restrictions

CF37 4TH•Published 20/11/26
Western Mail • 

What is happening?

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF (LLEOLIADAU AMRYWIOL, RHONDDA CYNON TAF) GORCHYMYN (DIRYMU, AMRYWIO, DIM STOPIO AR FARCIAU ‘YSGOL – CADWCH YN GLIR’: CYFYNGIADAU AROS A LLWYTHO) 2026

DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gwneud amrywiol Gorchmynion o dan Adrannau 1, 2 a 4 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“y Ddeddf”) a phob pŵer galluogi arall, a’i effaith fydd:

1. Amrywio’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sy’n cael eu nodi yn Rhan 1 Atodlen 1, Rhan 1 Atodlen 2 a Rhan 1

Atodlen 4
2. Cael gwared ar y Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ yn y lleoliadau sydd wedi’u nodi yn Rhan 2 Atodlen 1.

3. Cyflwyno Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn Rhan 2 Atodlen 2, a Rhan 1

Atodlen 3.

4. Cyflwyno cyfyngiadau aros yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn Rhan 3 Atodlen 2, Rhan 2 Atodlen 3 a Rhan 2

Atodlen 4.
5. Cyflwyno cyfyngiadau llwytho yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn Rhannau 4,5 a 6 Atodlen 2.

Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2026 neu pan fydd y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol wedi’u cwblhau.

Chaiff unrhyw berson sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed o dani mewn perthynas â’r Gorchymyn, wneud cais o fewn chwe wythnos i 23 Tachwedd 2026 i’r Uchel Lys at y diben hwn.

ATODLEN 1

Dirymu Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ mewn amrywiol leoliadau yn sgil cau / adleoli ysgolion. Mae cael gwared ar gilfach bysiau ysgol yn rhan o hyn hefyd, fel y mae cael gwared ar ran Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg sydd wedi’i lleoli y tu cefn i Ysgol Glynrhedynog

Rhan 1 – Amrywiadau

1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio yn unol â’r newidiadau canlynol:-

1. Bydd “Gorchymyn (Dim Aros Ar Unrhyw Adeg a Dim Stopio ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir) (Stryd Ann, Stryd Williams a Stryd y Groes, Cilfynydd) Rhondda Cynon Taf 2007” yn cael eu hamrywio drwy gael gwared ar Ran 2 yr Atodlen.

2. Bydd “Gorchymyn (Dirymu, Amrywio, 20mya, 30mya, Terfyn Cyflymder 60mya a Dim Stopio ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’) (Heol-y-Graig, Heol Pendarren a Stryd y Mynydd, Rhigos) Rhondda Cynon Taf 2009” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar Ran 6 yr Atodlen.

3. Bydd “(Terfyn Cyflymder 20mya a Chyfyngiadau Aros) (Strydoedd Amrywiol, Glynrhedynog) Rhondda Cynon Taf 2011” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar Ran 3 a Rhan 4 yr Atodlen.

2. Bydd “Gorchymyn (Dim Stopio ar Farciau Ysgol – Cadwch yn Glir) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr eitemau c anlynol:-

Ardal Cwm Rhondda
Eitem 10. Teras Grovefield, Pen-y-graig
Eitem 19, Heol y Ficerdy, Pen-y-graig

3. Bydd “Gorchymyn Rhif 2 (Dim Stopio ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2013” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr e itemau canlynol:-
Ardal Cwm Rhondda
Eitem 5 Teras y Darren, Glynrhedynog
Eitem 11, Cilgant y Llyn, Glynrhedynog
Eitem 15, Waun Wen, Trebanog

Rhan 2 – Cael Gwared ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’
1 . Hen Ysgol Iau Porth
a. Teras y Briallu, Porth – gerllaw Rhif 1 a 3 Y Rhodfa / Teras Leslie, Porth – o Rhif.17 Y Rhodfa i Rif 2

Teras Leslie
b. Y Rhodfa / Teras Leslie, Porth – o Rif.17 Y Rhodfa i Rif 2 Teras Leslie
c. Heol Penrhiwgwynt, Porth – gerllaw Rhif 8 a Brywenlee House

2. Ysgol Iau a Babanod Carnetown, Abercynon
a. Heol Caerdydd, Carnetown, Abercynon – ar ochr orllewinol y ffordd sydd gyferbyn ag Eglwys Saint Dunwyd a Rhifau 85 hyd at 87
b. Heol Caersallog, Carnetown, Abercynon – ger Hen Dŷ’r Ysgol a Rhif 1

ATODLEN 2
Ar gyfer y Datblygiad Ysgol Newydd ar Lôn y Cefn a’r newidiadau i’r cyfyngiadau ar Lôn y Cefn, Y B4273 Teras G lyn-coch / Heol Ynys-y-bwl Road a Choedlan Cae-Glas, Glyn-coch, Pontypridd

Rhan 1 – Amrywiadau
1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar y Gorchymyn canlynol o’r ‘Atodlen Gorchmynion’:-

a. Bydd “Gorchymyn (Gwahardd Aros) (Lôn y Cefn, Glyn-coch) Rhondda Cynon Taf 1990” yn cael ei ddirymu’n gyfan gwbl

2. Bydd “Gorchymyn (Dim Stopio ar Farciau Ysgol – Cadwch yn Glir) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr eitemau canlynol:

Ardal Taf-elái
Eitem 4, Lôn y Cefn, Glyn-coch
Eitem 9, Coedlan Cae-glas, Glyn-coch
Rhan 2 – Dim Stopio ar y marciau ffordd ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ rhwng 8am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau yma)

1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyrain, o bwynt sydd 18 metr tua’r gorllewin o’i llinell ganol â Chlos y Ddôl-las, tua’r gorllewin am bellter o 43.56 metr

Rhan 3 – Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 62 metr i’r gorllewin o’i chyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôllas, am bellter o oddeutu 17 metr.
b. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd gyferbyn â’i chyffordd llinell ganol a Chlos y Ddôl-las, tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 18 metr.
c. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o’i chyffordd â’r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi’r tro yn y brif ffordd tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 165 metr.
d. Yr ochr de-ddwyreiniol, o’i chyffordd â’r B4273, Heol Ynys-y-Bwl, am bellter o oddeutu 43 metr.
e. Yr ochr de-ddwyreiniol, o bwynt sydd 5 metr tua’r gorllewin o’r ffin gyffredin rhwng rhifau 43 a 44, Lôn y Cefn, tua’r de-ddwyrain am 20 metr

2. Clos y Ddôl-las

a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o’i gyffordd â Lôn y Cefn tua’r de-ddwyrain am bellter o oddeutu 8 metr

3. Y B4273, Heol Ynys-y-bwl (y rhan sydd gerllaw Teras Glyn-coch)

a. Dwy ochr y B4273, Heol Ynys-y-bwl o bwynt sydd 4 metr i’r de o’r ffin gyffredin rhwng rhifau 33 a 34 Teras Glyn-coch, tua’r gogledd am bellter o oddeutu 78 metr

Rhan 4 – Gwahardd Llwytho dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 9.30am a 2.30pm tan 4pm (Cynhwysol)

1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch

a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 62 metr i’r gorllewin o’i chyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôllas, tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 17 metr.

b. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd gyferbyn â’r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl-las, tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 18 metr.

c. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 19 metr tua’r dwyrain o’r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl las, tua’r de-ddwyrain am bellter o oddeutu 110 metr.

Rhan 5 – Gwahardd Llwytho 8:00am tan 6:00pm Dydd Llun – Dydd Gwener (Cynhwysol)

1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o’i chyffordd â’r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi’r tro yn y gyffordd, i gyfeiriad y gorllewin am bellter o oddeutu 55 metr.

b. Yr ochr de-ddwyreiniol, o’i chyffordd a’r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi’r tro yn y gyffordd tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 43 metr.

2. Y B4273, Heol Ynys-y-bwl
a. Yr ochr dde-orllewinol, o bwynt sydd 4 metr i’r de o’r ffin gyffredin rhwng rhifau 33 a 34, Teras Glyn-coch, tua’r gogledd am bellter o 78 metr

Rhan 6 – Gwahardd Llwytho Ar Unrhyw Adeg
1. Y B4273, Heol Ynys-y-bwl

a. Yr ochr ddwyreiniol, o bwynt sydd 4 metr i’r de i ffin gyffredin rhwng rhifau 34 a 33, tua’r gogledd am bellter o oddeutu 78 metr

ATODLEN 3
Ysgol Bro Taf (Ysgol Uwchradd Pontypridd) yng Nghilfynydd – Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ a Chyfyngiadau Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, newydd. Mae’r marciau yma yn Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa’r Albion eisoes ar y ffordd sy’n arwain at fynedfa’r ysgol a’r ardaloedd â gatiau ar gyfer parcio bysiau ysgol

Rhan 1 – Dim Stopio ar y marciau ffordd ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ rhwng 8am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (Cynhwysol)

1. Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa’r Albion (Y ffordd yn union y tu allan i’r ysgol)

a. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 4 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o 25.56 metr

b. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 42 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o 31.56 metr

c. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 100 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o 25.56 metr

d. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 126.5 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o 25.56 metr

Rhan 2 – Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg

1. Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa’r Albion (Y ffordd yn union y tu allan i’r ysgol)

a. Yr ochr ogleddol, o linell cwrb ddeheuol y gyffordd ag Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa’r Albion, tua’r deorllewin am bellter o oddeutu 229 metr

b. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 30 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol, tua’r de-orllewin am bellter o oddeutu 12.5 metr

c. Yr ochr ddeheuol o bwynt sydd 71.5 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 25.5 metr

d. Yr ochr ddeheuol o bwynt sydd 152 metr i’r gorllewin o fynedfa’r ysgol tua’r gorllewin am bellter o oddeutu 47 metr

e. Yr ochr de-ddwyreiniol, o bwynt sydd 5 metr i’r dwyrain o fynedfa’r ysgol tua’r dwyrain yna’r gogledd gan ddilyn y tro yn y ffordd, am bellter o oddeutu 35 metr

f. Yr ochr ddeheuol, o’r cyffyrdd (4 i gyd) sy’n arwain at gatiau’r ardaloedd gollwng a chodi ar gyfer y bysiau ysgol, am bellter o oddeutu 2.5 metr, ar ddwy ochr y 4 cyffordd

ATODLEN 4
Heol Pont Siôn Norton, Cilfynydd – cael gwared ar y Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ a’r gilfach Bysiau Ysgol yn unig, a chyflwyno cyfyngiad Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, newydd, yn y gyffordd â’r ffordd ddi-enw sy’n arwain at Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton (mae’r ysgol wedi cau)

Rhan 1 – Amrywiad
1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar y Gorchymyn canlyn ol o’r ‘Atodlen Gorchmynion’

a. ‘Gorchymyn (Lleoedd Parcio Ar y Stryd) (Heol Pont Siôn Norton, (Trywydd yr A4054) Pont Siôn Norton, Pontypridd, Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1996’ yn cael ei ddirymu’n gyfan gwbl.

2. Bydd “Gorchymyn Rhif 2 (Dim Stopio ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2013” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr eitem a ganlyn:-

Ardal Taf-elái
Eitem 6, Heol Pont Siôn Norton, Pontypridd
Rhan 2 – Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg

1. Heol Pont Siôn Norton, Cilfynydd
a. Yr ochr ddwyreiniol, o’i chyffordd â’r ffordd ddienw wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton, tua’r gogledd-ddwyrain am bellter o 10 metr
b. Yr ochr ddwyreiniol, o’i chyffordd â’r heol ddienw sydd wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton, tua’r de-orllewin am bellter o 10 metr

2. Y Ffordd Ddienw wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton
a. Y ddwy ochr, o’i chyffordd â Heol Pont Siôn Norton, tua’r de-ddwyrain am bellter o 10 metr

Dyddiad: 20 Tachwedd 2026

Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association