Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
A483 Newtown Bypass to south of the Llaethddu Junction - Temporary restrictions due to works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A483
(FFORDD OSGOI’R DRENEWYDD I’R DE O GYFFORDD LLAETHDDU, POWYS)
(GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig tra bo gwaith yn cael ei wneud ar gefnffordd yr A483, o Ffordd Osgoi’r Drenewydd i’r de o Gyffordd Llaethddu yn Sir Powys.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys) rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A483 sy’n ymestyn o gyffordd tua’r de Cylchfan Laura Ashley ar Ffordd Osgoi’r Drenewydd i gyfeiriad y de hyd at bwynt 868 o fetrau i’r de o Gyffordd Llaethddu yr C1203.
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gogledd fydd mynd ar yr A483 tua’r de i Gylchfan y Groes, yr A44 tua’r gorllewin i Raeadr Gwy, yr A470 tua’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain i Gaersŵs ac yna ar yr A489 tua’r dwyrain i ailymuno â’r A483 yn y Drenewydd. I’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r de.
Disgwylir y bydd y gwaharddiad, y codir arwyddion priodol yn ei gylch, yn weithredol yn ysbeidiol rhwng 00:01 o’r gloch a 15:00 o’r gloch o’r 16 Rhagfyr 2026 tan 18 Rhagfyr 2026 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Bydd mynediad ar gyfer cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, bysiau ysgol ac at eiddo ar hyd y darn yr effeithir arno yn cael ei gynnal ond efallai y bydd oedi tra bo cerbydau’n cael eu rheoli’n ddiogel drwy unrhyw safleoedd gwaith.
Dim ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A483 TRUNK ROAD
(NEWTOWN BYPASS TO SOUTH OF LLAETHDDU JUNCTION, POWYS) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary whilst works are undertaken on or near the A483 trunk road from Newtown Bypass to the south of Llaethddu Junction, in the County of Powys.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services) from proceeding on the length of the A483 trunk road that extends from the southbound junction of the Laura Ashley Roundabout on Newtown Bypass, in a southerly direction, to a point 868 metres south of the C1203 Llaethddu Junction.
The alternative route for northbound vehicles will be via the southbound A483 to Crossgates Roundabout, westbound A44 to Rhayader, north and north-eastbound A470 to Caersws and then the A489 eastbound to re-join the A483 at Newtown. Vice versa for southbound vehicles.
The prohibition, which will be signed accordingly, is expected to operate intermittently between 00:01 hours and 15:00 hours from 16 December 2026 until 18 December 2026 or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Access for public service vehicles, school buses and to properties along the affected length will be maintained but there may be delays whilst vehicles are safely managed through any work sites.
Although the proposed Order is only expected to operate during the times and dates specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months as a contingency, should the work need to be rescheduled, or consequential or other work is required. Advance notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: