Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Powys - Proposed Highway Stopping Up, New Canal Bridge & Road Realignment
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
HYSBYSIAD O ORCHMYN ARFAETHEDIG CAU PRIFFYRDD (LÔN CARREGHOFA, LLANYMYNECH, POWYS) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) i awdurdodi cau’r darnau o briffyrdd a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn, i ddarparu ar gyfer y darnau o briffyrdd newydd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn ac i wella’r rhannau o briffyrdd a ddisgrifir yn Atodlen 3 i’r Hysbysiad hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi bodloni bod angen cau’r priffyrdd. Nid awdurdodir cau’r priffyrdd ond er mwyn gwneud y datblygiad yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Sir Powys ar 3 Chwefror 2025 o dan y cyfeirnod 24/0982/FUL ac a ddisgrifir yn Atodlen 4 i’r Hysbysiad hwn.
Bydd Gorchymyn Cau Priffyrdd (Carreghofa Lane, Llanymynech, Powys) 202- (“y Gorchymyn”), os caiff ei wneud, yn peidio â chael effaith os daw’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r datblygiad i ben neu os caiff ei ddirymu.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cadw hawliau ymgymerwyr statudol ar gyfer unrhyw gyfarpar o dan y briffordd, ynddi, arni, drosti, ar ei hyd neu ar ei thraws.
Yn ystod yr 28 o ddiwrnodau o 13 Tachwedd 2026 ymlaen gellir edrych ar gopïau o’r Gorchymyn drafft a’r plan a adneuwyd yn rhad ac am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Neuadd Bentref Llanymynech, Station Road, Llanymynech, Powys SY22 6EE, neu gellir eu cael yn rhad ac am ddim drwy e-bostio Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru neu drwy ysgrifennu at: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2336712.
Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig, gan nodi ar ba sail y’u gwneir, i: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy e-bost i Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru erbyn 11 Rhagfyr 2026, gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2336712.
Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori â phersonau a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses ymgynghori, bydd yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi a’ch data personol yn cael eu trosglwyddo i’r ceisydd/datblygwr ac, os oes angen, i’r awdurdod priffyrdd lleol i’w galluogi hwy i ymateb i chi. Ni fyddwn, fodd bynnag, yn datgelu eich manylion personol ond pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd. Pan na fo gwrthwynebiadau yn gallu cael eu datrys a phan fo’r Gorchymyn yn dod yn destun Ymchwiliad Cyhoeddus (“YC”), caiff pob gohebiaeth ei chopïo i Arolygydd yr YC ac fe’i cedwir yn y Llyfrgell YC lle y bydd ar gael i’r cyhoedd.
Os nad ydych yn dymuno i ddata personol gael eu hanfon ymlaen at drydydd parti, dylech nodi pam pan fyddwch yn cyflwyno eich gohebiaeth a bydd Gweinidogion Cymru yn copïo’r sylwadau i’r trydydd parti priodol gyda’r enw a’r cyfeiriad wedi eu dileu. Os bydd YC yn cael ei gynnal, bydd yr Arolygydd yn gweld y sylwadau ond efallai y bydd yn rhoi llai o sylw iddynt o ganlyniad i hyn.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Y darnau o briffyrdd sydd i’w cau
1. Darn afreolaidd ei siâp o briffordd at bob diben a elwir Carreghofa Lane sy’n cysylltu â’r B4398 yn ei phen dwyreiniol, yn Llanymynech, Powys, sy’n 56 o fetrau o hyd, yn 8 metr o led ac a ddangosir â llinellau sebra ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘A’ iddo ar y plan a adneuwyd.
2. Darn afreolaidd ei siâp o lwybr troed (llwybr tynnu) sy’n gyfagos i Gamlas Trefaldwyn, i’r dwyrain o Carreghofa Lane, yn Llanymynech, Powys, sy’n 40 o fetrau o hyd, yn 2 fetr o led ac a ddangosir â llinellau sebra ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘B’ iddo ar y plan a adneuwyd.
ATODLEN 2
Y darnau o briffyrdd newydd sydd i’w darparu
1. Rhan afreolaidd ei siâp o briffordd at bob diben a elwir Carreghofa Lane ac sy’n ffurfio pont ffordd newydd, a leolir i’r dwyrain o’r darn presennol o Carreghofa Lane sydd i’w gau ac sy’n cysylltu â’r B4398 gyferbyn â’r ffordd a elwir Parc Llwyfen yn Llanymynech, Powys, sy’n 146 o fetrau o hyd, yn 10 metr o led ac a ddangosir â dotwaith ac a rhoddwyd y cyfeirnod ‘C’ iddo ar y plan a adneuwyd.
2. Rhan afreolaidd ei siâp o lwybr troed (llwybr tynnu) a leolir i’r gogledd o’r darn presennol o lwybr troed (llwybr tynnu) sydd i’w gau ac sy’n rhedeg o dan y bont ffordd newydd sy’n cario Carreghofa Lane dros Gamlas Trefaldwyn yn Llanymynech, Powys, sy’n 45 o fetrau o hyd, yn 2 fetr o led ac a ddangosir â llinellau rhesog trwm ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘D’ iddo ar y plan a adneuwyd.
ATODLEN 3
Y darnau o briffyrdd sydd i’w gwella
1. Darn afreolaidd ei siâp o briffordd at bob diben a elwir Carreghofa Lane lle y mae’r darn newydd o Carreghofa Lane yn cysylltu â lôn bresennol Carreghofa Lane yn Llanymynech, Powys, sy’n 35 o fetrau o hyd, yn 8 metr o led ac a ddangosir â chroeslinellau, ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘E’ iddo ar y plan a adneuwyd.
2. Darn afreolaidd ei siâp o briffordd at bob diben a elwir y B4398 sy’n cysylltu â lôn bresennol Carreghofa Lane yn Llanymynech, Powys, sy’n 28 o fetrau o hyd, yn 3.5 metr o led ac a ddangosir â chroeslinellau ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘F’ iddo ar y plan a adneuwyd.
3. Darn afreolaidd ei siâp o lwybr troed (llwybr tynnu) sy’n gyfagos i Gamlas Trefaldwyn i’r gorllewin o’r darn newydd o Carreghofa Lane sy’n cysylltu’r darn newydd o lwybr troed (llwybr tynnu) ar ei ben gorllewinol â’r llwybr troed presennol (llwybr tynnu) yn Llanymynech, Powys, sy’n 62 o fetrau o hyd, yn 1.2 metr o led ac a ddangosir â chroeslinellau ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘G’ iddo ar y plan a adneuwyd.
4. Darn afreolaidd ei siâp o lwybr troed (llwybr tynnu) sy’n gyfagos i Gamlas Trefaldwyn i’r dwyrain o’r darn newydd o Carreghofa Lane sy’n cysylltu’r darn newydd o lwybr troed (llwybr tynnu) yn ei ben dwyreiniol â’r llwybr troed presennol (llwybr tynnu) yn Llanymynech, sy’n 15 o fetrau o hyd, yn 1.5 metr o led ac a ddangosir â chroeslinellau ac y rhoddwyd y cyfeirnod ‘H’ iddo ar y plan a adneuwyd.
ATODLEN 4
Y datblygiad
Adeiladu pont newydd sy’n cario Carreghofa Lane dros Gamlas Trefaldwyn, tynnu’r groesfan lun lefel bresennol, gwaith i ailalinio Carreghofa Lane a gosod cyffordd newydd â’r B4398, ailalinio’r gamlas a’r llwybr tynnu, a gwelliannau i faes parcio’r ardal chwarae a gosod man agored cyhoeddus newydd i’r gogledd o’r gamlas ynghyd â thirlunio cysylltiedig ar dir sy’n gyfagos i Gamlas Trefaldwyn, i’r dwyrain o Walls Bridge, Llanymynech, Powys.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
TOWN AND COUNTRY PLANNING ACT 1990
NOTICE OF PROPOSED STOPPING UP OF HIGHWAYS (CARREGHOFA LANE, LLANYMYNECH, POWYS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose to make an Order under section 247 of the Town and Country Planning Act 1990 (“the 1990 Act”) to authorise the stopping up of the lengths of highway described in Schedule 1 to this Notice, to provide for the lengths of new highway described in Schedule 2 to this Notice and to improve the areas of highway described in Schedule 3 to this Notice. The Welsh Ministers are satisfied that the stopping up is necessary, and they will be authorised only in order to enable the development to be carried out in accordance with planning permission granted under Part 3 of the 1990 Act by Powys County Council on 3 February 2025 with reference number 24/0982/FUL, and described in Schedule 4 to this Notice.
The Stopping Up of Highways (Carreghofa Lane, Llanymynech, Powys) Order 202- (“the Order”), if made, will cease to have effect if planning permission in respect of the development expires or is revoked.
The Order makes provision for the preservation of rights of statutory undertakers for any apparatus under, in, on, over, along or across the highways.
During 28 days from 13 November 2026 copies of the draft Order and the deposited plans may be inspected free of charge during normal opening hours at Llanymynech Village Hall, Station Road, Llanymynech, Powys SY22 6EE, or may be obtained free of charge by email to TransportOrdersBranch@gov.wales or in writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ quoting reference qA2336712.
Objections, specifying the grounds on which they are made, must be sent in writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or by email to TransportOrdersBranch@gov.wales by 11 December 2026, quoting reference qA2336712.
Should you wish to object, support or make representations, the Welsh Government may need to consult with persons and organisations outside the Welsh Government. As part of the consultation process, the information you have provided and your personal data will be passed to the applicant/developer and, if necessary, to the local highway authority to enable them to respond to you. We will, however, only disclose your personal details where it is necessary to do so to address the issues raised. Where objections cannot be resolved and the Order becomes subject to a Public Inquiry (“PI”), all correspondence is copied to the Inspector of the PI and is available in the PI library when it becomes publicly available.
If you do not wish personal data to be forwarded to third parties, you should state why when submitting your correspondence and the Welsh Ministers will copy the representations to the appropriate third parties with the name and address removed and if there is to be a PI, the representations will be seen by the Inspector who may give them less weight as a result.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/stopping-orders.
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Lengths of highway to be stopped up
1. An irregular shaped length of all purpose highway known as Carreghofa Lane that connects with the B4398 at its eastern end, in Llanymynech, Powys, with a length of 56 metres, a width of 8 metres and shown by zebra hatching and given the reference ‘A’ on the deposited plan.
2. An irregular shaped length of footpath (towpath) adjacent to the Montgomery Canal, east of Carreghofa Lane, in Llanymynech, Powys, with a length of 40 metres, a width of 2 metres and shown by zebra hatching and given the reference ‘B’ on the deposited plan.
SCHEDULE 2
Lengths of new highway to be provided
1. An irregular shaped area of all purpose highway to be known as Carreghofa Lane and forming a new road bridge, situated east of the existing length of Carreghofa Lane to be stopped up and connecting with the B4398 opposite the road known as Parc Llwyfen in Llanymynech, Powys, with a length of 146 metres, a width of 10 metres and shown by stipple marking and given the reference ‘C’ on the deposited plan.
2. An irregular shaped area of footpath (towpath) situated north of the existing length of footpath (towpath) to be stopped up and running under the new road bridge carrying Carreghofa Lane over Montgomery Canal in Llanymynech, Powys, with a length of 45 metres, a width of 2 metres and shown by bold striped hatching and given the reference ‘D’ on the deposited plan.
SCHEDULE 3
Lengths of highway to be improved
1. An irregular shaped area of all purpose highway known as Carreghofa Lane where the new length of Carreghofa Lane connects with the existing Carreghofa Lane in Llanymynech, Powys, with a length of 35 metres, a width of 8 metres and shown by cross hatching and given the reference ‘E’ on the deposited plan.
2. An irregular shaped area of all purpose highway known as the B4398 that connects with the existing Carreghofa Lane in Llanymynech, Powys, with a length of 28 metres, a width of 3.5 metres and shown by cross hatching and given the reference ‘F’ on the deposited plan.
3. An irregular shaped length of footpath (towpath) adjacent to the Montgomery Canal west of the new length of Carreghofa Lane that connects the new length of footpath (towpath) at its western end with the existing footpath (towpath) in Llanymynech, Powys, with a length of 62 metres, a width of 1.2 metres and shown by cross hatching and given the reference ‘G’ on the deposited plan.
4. An irregular shaped length of footpath (towpath) adjacent to the Montgomery Canal east of the new length of Carreghofa Lane that connects the new length of footpath (towpath) at its eastern end with the existing footpath (towpath) in Llanymynech, with a length of 15 metres, a width of 1.5 metres and shown by cross hatching and given the reference ‘H’ on the deposited plan.
SCHEDULE 4
The development
Construction of a new bridge carrying Carreghofa Lane over the Montgomery Canal, removal of the existing at-grade crossing, works to re-align Carreghofa Lane and set out a new junction with the B4398, re-alignment of the canal and towpath, and improvements to the play area car park and laying out of new public open space north of the canal together with associated landscaping at land adjoining Montgomery Canal, East Of Walls Bridge, Llanymynech, Powys.
Open to feedback
From
13-Nov-2026
To