Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Flintshire - Multiple Temporary Road Closures & Proposed Parking Restrictions Due To Various Works
What is happening?
FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL
Hysbysiad O Orchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14 - Yr Wyddgrug
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Lys Nercwys, rhwng ei chyffordd â Llys Y Nant ac Archway yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Mae angen cyfyngu’r cyfyngiad er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol gan O’Connor Utilities Ltd ar ran Scottish Power.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 11 Tachwedd 2026. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos yn unig, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
LC/FCC (TTRO) 4075868
Gareth Owens, Prif Swyddog,
(Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 6 Tachwedd 2026
Rhybudd O Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro - Gorchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 – Adran 14 – Helygain
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn yn rhoi rhybudd ei fwriad i wneud Gorchymyn nid cynt na saith niwrnod o 6 Tachwedd 2026 a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag teithio ar hyd ffordd ddienw rhwng ei chyffordd â Fferm Plas Newydd i Middle Mill, Helygain yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros gau’r ffordd yw gosod ac uwchraddio pibellau yn y ffordd ar gyfer MJ Quinn Integrated Services Ltd.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026, neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am bythefnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
LC/FCC (TTRO) 4121184
Gareth Owens Prif Swyddog,
(Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 6 Tachwedd 2026
Rhybudd O Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro - Gorchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 – Adran 14 - Ewlo Green
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, nid cynt na saith diwrnod wedi 6 Tachwedd 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Green Lane, rhwng y cyffyrdd â’r B5127 Ffordd yr Wyddgrug a Pinfold Lane, Ewlo Green, Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd er mwyn i O’Connor Utilities Ltd osod cysylltiad gwasanaeth newydd ar ran Scottish Power.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026, neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am bythefnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
LC/FCC (TTRO) 4123168
Gareth Owens Prif Swyddog,
(Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 6 Tachwedd 2026
Rhybudd O Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro - Gorchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro - Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 – Adran 14 – Shotton
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, nid cynt na saith diwrnod wedi 6 Tachwedd 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Aston Park Road, rhwng y cyffyrdd â Shotton Lane a Plough Lane yn Shotton, Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd fel y gall Wales and West Utilities osod prif bibell nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.
Gosodir arwyddion addas i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 23 Tachwedd 2026, neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am bythefnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens Prif Swyddog,
(Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
Dyddiedig 6 Tachwedd 2026
Hysbysiad O Gynnig - Heol Helygain, Halkyn Road, Phlas Yr Wen A Croesffordd, Treffynnon - Cynnig I Dynnu Marciau ‘Ysgol Cadwch Yn Glir’ - Cyfyngiadau Dim Aros 7:00am – 7:00pm Arfaethedig A Dim Aros Ar Unrhyw Adeg Arfaethedig
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gwneud Gorchymyn drwy arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Deddf Rheoli Traffig 2004, Rhan IV o Atodlen 9, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfunol) 2013, i gynnwys:-
1. Tynnu 2 set o farciau ‘Ysgol Cadwch yn Glir’
a. Ar ochr orllewinol Heol Helygain, a Halkyn Road Treffynnon
b. Ar ochr ddeheuol Halkyn Road Treffynnon
2. Cyflwyno cyfyngiadau ‘Dim Aros 7:00am – 7:00pm’:-
a. Ar ochr gorllewinol Heol Helygain, Treffynnon
b. Ar ochr ddeheuol Halkyn Road Treffynnon
3. Cyflwyno cyfyngiadau ‘Dim Aros ar Unrhyw Adeg’:-
a. Ar gyffordd Heol Helygain â Chroesffordd B5432
b. Ar gyffordd Halkyn Road â Phlas yr Wen
Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol ‘Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfunol) 2013’ yn parhau mewn grym.
Gellir gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn arfaethedig, y cynlluniau sy’n dangos y ffyrdd yr effeithir arnynt, a datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig y Gorchymyn, yn ystod oriau agor arferol yng Nghyngor Sir y Fflint yn Cysylltu, Hen Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Treffynnon, CH8 7TD. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar-lein ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk-Preswylwyr-Ffyrdd-Strydoedd-a-Theithio-Gorchymyn, - Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at: transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, neu drwy ffonio 01352 701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i’r Gorchymyn arfaethedig, yn ogystal â’r sail dros wrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn neu e-bost i transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, erbyn dydd Gwener 27 Tachwedd 2026 gan ddyfynnu cyfeirnod SS/TRO/JB/82.
Katie Wilby Prif Swyddog,
(Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug CH7 6LG
Dydd Gwener 06 Tachwedd 2026
Hysbysiad O Gynnig - Ffordd Dewi, Ffordd Eilian, Ffordd Piran, Llys Garmon, Llys Collen A Ffordd Hywyn, Oakenholt - Gwaharddiad Arfaethedig Ar Aros Ar Unrhyw Adeg A Dim Aros Ar Farciau Mynedfa 8:00am – 5:00pm Dydd Llun – Dydd Gwener
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gwneud Gorchymyn drwy arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Deddf Rheoli Traffig 2004, Rhan IV o Atodlen 9, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfunol) 2013, i gynnwys:-
1. Cyflwyno cyfyngiadau ‘Dim Aros ar Unrhyw Adeg’:-
a. Yng nghyffordd Ffordd Dewi a Ffordd Eilian, Oakenholt
b. Yng nghyffordd Ffordd Dewi a Ffordd Piran, Oakenholt
c. Yng nghyffordd Ffordd Dewi a Llys Garmon, Oakenholt
d. Yng nghyffordd Ffordd Dewi a Llys Collen, Oakenholt
e. Ar gychfan Ffordd Dewi, sy’n uno â Ffordd Hywyn
f. Mewn lleoliadau amrywiol ar ddwy ochr Ffordd Dewi, Oakenholt
2. Cyflwyno Marciau Priffordd YSGOL CADWCH YN GLIR. Dim aros ar farciau mynediad rhwng 8:00am – 5:00pm dydd Llun i ddydd Gwener:-
- a. Hyd at 43 metr o hyd ar ochr ddeheuol Ffordd Dewi, Oakenholt, ar y fynedfa i Ysgol Gymraeg Croes Atti.
Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol ‘Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfunol) 2013’ yn parhau mewn grym.
Gellir gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn arfaethedig, y cynlluniau sy’n dangos y ffyrdd yr effeithir arnynt, a datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig y Gorchymyn, yn ystod oriau agor arferol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ty Fflint, Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, y Fflint, CH6 5BD. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar-lein ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk-Preswylwyr-Ffyrdd-Strydoedd-a-Theithio-Gorchymyn, - Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at: transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, neu drwy ffonio 01352 701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i’r Gorchymyn arfaethedig, yn ogystal â’r sail dros wrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn neu e-bost i transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk, erbyn dydd Gwener 27 Tachwedd 2026 gan ddyfynnu cyfeirnod SS/TRO/JB/81.
Katie Wilby Prif Swyddog,
(Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug CH7 6LG
Dydd Gwener 06 Tachwedd 2026
www.siryfflint.gov.uk
CYNGOR SIR Y FFLINT
FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL
Open to feedback
From
6-Nov-2026
To
27-Nov-2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: