Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Pandy to Llangua, Monmouthshire - Temporary restrictions to allow works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465 (PANDY I LANGIWA, SIR FYNWY) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn.
Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A465, neu gerllaw iddi, rhwng Pandy a Llangiwa, Sir Fynwy.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r ffordd ddiddosbarth sy’n arwain at Walterstone ym Mhandy hyd at ffin Cymru/Lloegr yn Llangiwa.
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gogledd fydd mynd ar hyd yr A465 tua’r de i Gyfnewidfa Hardwick, y Fenni, yr A40 tua’r de-ddwyrain i Gyfnewidfa Rhaglan, yr A40 tua’r gogledd-ddwyrain i Rosan ar Wy a’r A49 tua’r gogledd-orllewin i ailymuno â’r A465 tua’r de-orllewin yn Henffordd: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r de.
Bydd mynediad lleol ar gael ar hyd yr A465 hyd at y pwyntiau cau. Sicrheir mynediad i eiddo o fewn ardal cau’r ffordd drwy hebrwng cerbydau drwy’r safle gwaith.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Rhagfyr 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) o 7 – 9 Rhagfyr 2026 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf, rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiadau yn cael eu harddangos yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i amseroedd a dyddiadau cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A465 TRUNK ROAD (PANDY TO LLANGUA, MONMOUTHSHIRE) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A465 trunk road between Pandy and Llangua, Monmouthshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the length of the trunk road that extends from its junction with the unclassified road leading to Walterstone at Pandy to the Wales/England border at Llangua.
The alternative route for northbound vehicles will be via the southbound A465 to Hardwick Interchange, Abergavenny, south-eastbound A40 to Raglan Interchange, north-eastbound A40 to Ross-on-Wye and north-westbound A49 to rejoin the southwestbound A465 at Hereford: vice versa for southbound vehicles.
Local access will be available along the A465 up to the points of closure. Access will be maintained to properties within the area of the road closure via escort through the works site.
The Order will come into force on 7 December 2026. The temporary prohibition is expected to operate overnight (20:00 – 06:00 hours) from 7 – 9 December 2026, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the period specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notices will be displayed advising of any changes to times and dates before any rescheduled work begins.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: