Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
A465 Trunk Road - Temporary Prohibition Of Vehicles For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465 (GLANBAIDEN, SIR FYNWY I FRYN-MAWR, BLAENAU GWENT) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A465, neu gerllaw iddi, rhwng Glanbaiden, Sir Fynwy a Bryn-mawr, Blaenau Gwent.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darnau o’r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn yr Atodlen honno hefyd.
Sylwch na chaniateir i gerbydau sy’n 2.9 metr o led neu fwy ddefnyddio’r llwybr arall. Os oes angen iddynt deithio yn ystod y cyfnod pan fydd y gefnffordd ar gau, dylent barcio mewn lleoliad addas hyd nes y gellir eu hebrwng drwy’r safle gwaith.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 9 Tachwedd 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol dros nos (20:00 o’r gloch hyd 06:00 o’r gloch) o’r dyddiad hwnnw hyd 6 Rhagfyr 2026, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
1. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gylchfan Glanbaiden, Sir Fynwy hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyfnewidfa Bryn-mawr, Blaenau Gwent.
2. Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gylchfan Glanbaiden, Sir Fynwy.
3. Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyffordd Saleyard, Sir Fynwy.
Y llwybr arall
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yr effeithir arnynt gan gau’r darn o’r gerbytffordd a’r darn o’r ffordd ymuno ym mharagraffau 1 a 2 fydd gadael yr A465 tua’r gorllewin wrth Glanbaiden ac ymuno â’r A465 tua’r dwyrain i Lan-ffwyst, gadael yr A465 a mynd ar yr A4143 tua’r gogledd i Gylchfan Union Road, y Fenni, yr A40 tua’r gorllewin i Gylchfan Tarrell, Aberhonddu, yr A470 tua’r de i Gylchfan Cefn Coed, Merthyr Tudful a’r A465 tua’r dwyrain tuag at Gilwern.
Dylai cerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yr effeithir arnynt gan gau’r darn o’r ffordd ymuno ym mharagraff 3 ymuno â’r A465 tua’r dwyrain wrth Gyffordd Saleyard ac yna dilyn y llwybr a ddisgrifir uchod.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A465 TRUNK ROAD (GLANBAIDEN, MONMOUTHSHIRE TO BRYNMAWR, BLAENAU GWENT) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A465 trunk road between Glanbaiden, Monmouthshire and Brynmawr, Blaenau Gwent.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the works, from proceeding on the lengths of the trunk road specified in the Schedule to this Notice. The alternative route is also described therein.
Please note that vehicles of, or over, 2.9 metres wide are not authorised to use the alternative route. Should they need to travel during the hours of closure, they should park up in a suitable location until such time that they can be escorted through the works site.
The Order will come into force on 9 November 2026. The temporary prohibition is expected to operate overnight (20:00 – 06:00 hours) from that date until 6 December 2026, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to operate during the period specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
1. The length of the westbound carriageway of the trunk road that extends from the nosing of the westbound exit slip road at Glanbaiden Roundabout, Monmouthshire to the nosing of the westbound entry slip road at Brynmawr Interchange, Blaenau Gwent.
2. The length of the westbound entry slip road at Glanbaiden Roundabout, Monmouthshire.
3. The length of the westbound entry slip road at Saleyard Junction, Monmouthshire.
Alternative route
The alternative route for westbound vehicles affected by the closures at paragraphs 1 and 2 will be to leave the westbound A465 at Glanbaiden and join the eastbound A465 to Llanfoist, exit the A465 and take the northbound A4143 to Union Road Roundabout, Abergavenny, westbound A40 to Tarrell Roundabout, Brecon, southbound A470 to Cefn Coed Roundabout, Merthyr Tydfil and eastbound A465 towards Gilwern.
Westbound vehicles affected by the closure at paragraph 3 should join the eastbound A465 at Saleyard Junction then follow the route described above.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: