Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Cardiff - New Traffic Orders
What is happening?
GORCHMYNION TRAFFIG NEWYDD
AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
Rhoddir hysbysiad drwy hyn ar 16 Hydref 2026 fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), a’r holl bwerau galluogi eraill, wedi gwneud y gorchmynion rheoli traffig a nodir uchod, a fydd yn gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Nodir teitl a natur y Gorchmynion yn yr Atodlen honno hefyd.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 26 Hydref 2026 neu ar y dyddiad y gosodir y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol ar y safle, pa bynnag un sydd hwyraf.
Mae copi o’r gorchmynion a’r cynlluniau sy'n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig.
Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych.
Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English. Os ydych am gwestiynu darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, ynglŷn â’r Gorchmynion, gallwch chi, o fewn chwe wythnos i 16 Hydref 2026 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.
ATODLEN
1. Bydd Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Atal, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2026 (Diwygiad Rhif 13) 2026 yn cynnwys:
a) Atal cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg yn Heol Tŷ Gwyn ar ochr y de-orllewin o bwynt 40 metr i’r gogleddorllewin o’r gyffordd â Heol Pen-y-lan am 19 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar ochr y de-orllewin o bwynt 78 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol Pen-y-lan am 39 metr i’r gogledd-orllewin.
b) Atal cerbydau rhag aros rhwng 8.30am – 4.30pm dydd Llun – dydd Gwener am fwy na 2 awr (dim dychwelyd o fewn 3 awr) yn Heol Tŷ Gwyn ar ochr y de-orllewin o bwynt 59 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol Peny- lan am 19 metr i’r gogledd-orllewin.
2. Bydd Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2026 (Diwygiad Rhif 14) 2026 yn eich atal rhag y canlynol:
a) Aros ar unrhyw adeg a llwytho a dadlwytho rhwng 8:30am a 9:15am a 2:15pm a 3:15pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar y darnau o ffyrdd nodir yn:
i) Ffordd Cyntwell ar ochr y gogledd-orllewin, o'r gyffordd â'r Ffordd Fynediad i Ysgol Gynradd Pencaerau (ger Rhif 31 Ffordd Cyntwell) am 7 metr i'r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y gogledd-orllewin, o'r gyffordd â Ffordd Cyntwell (Ffordd Fynediad y Gogledd-orllewin) hyd at y gyffordd â'r ffordd fynediad i Ysgol Gynradd Pencaerau (ger Rhif 31 Ffordd Cyntwell) ac ar ochr y de-ddwyrain, o bwynt 18 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Cilgant Cyntwell i bwynt 15 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r un gyffordd.
ii) Y Ffordd Fynediad i Ysgol Gynradd Pencaerau (ger Rhif 31 Ffordd Cyntwell) ar y ddwy ochr, o’r gyffordd â Ffordd Cyntwell am 8 metr i'r gogledd-orllewin.
iii) Ffordd Cyntwell (Ffordd Fynediad y Gogledd-orllewin) ar ochr y gogledd-ddwyrain, o'r gyffordd â Ffordd Cyntwell am 7 metr i'r gogledd-orllewin.
iv) Cilgant Cyntwell, Caerau ar y ddwy ochr, o'r gyffordd â Ffordd Cyntwell am 11 metr i'r de-ddwyrain.
b) Stopio rhwng 8:00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Ffordd Cyntwell ar ochr y gogledd-orllewin, o bwynt 7 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r ffordd fynediad i Ysgol Gynradd Pencaerau (ger Rhif 31 Ffordd Cyntwell) am 25.56 metr i'r gogledd-ddwyrain.
3. Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2026 (Diwygiad Rhif 18) 2026 yn:
a) Eich atal rhag aros a llwytho ar unrhyw adeg yn:
i) Heol Ball ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 13.5 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Clos Shaw i bwynt 10.5 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r un gyffordd, ac o’r gyffordd â Rhodfa Burnham am 19 metr i’r de-orllewin, ac ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Rhodfa Burnham am 18 metr i’r de-orllewin
ii) Rhodfa Burnham ar ochr y gorllewin o bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Ball i bwynt 10 metr i’r gogledd-orllewin
b) Eich atal rhag aros a llwytho rhwng 8am a 4:30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn Heol Ball ar ochr y gogledd o bwynt 10.5 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Clos Shaw am 32.5 metr i’r gogledd-ddwyrain c) eich atal rhag aros ar unrhyw adeg a dim llwytho rhwng 8am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Heol Ball ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 13.5 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Clos Shaw am 17 metr i’r de-orllewin
23/10/2026 Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
NEW TRAFFIC ORDERS
FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF
Notice is hereby given that on the 16th October 2026 the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) and of all other enabling powers, made the above-mentioned traffic regulation orders, the general effect of which to impose traffic restrictions in the lengths of road set out in the Schedule below. The title and nature of the Orders is also described in the said Schedule.
The Orders will come into operation on the 26th October 2026 or on the date that the necessary lines and signs are placed on site, whichever is the later.
A copy of the orders and plans showing the location and extent of the restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay. This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg.
If you wish to question the Orders provisions or validity on the grounds that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984, or on the ground that any requirement of, or any instrument made under the Act, has not been complied with in relation to the Orders, you may, within six weeks from the 16th October 2026 apply to the High Court for this purpose.
SCHEDULE
1. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2026 (Amendment No 13) Order 2026 will:
a) Prevent vehicles from waiting at any time in Ty Gwyn Road on its south west side from a point 40 metres north west of its junction with Pen-Y-Lan Road for a distance of 19 metres north west, and from a point 78 metres north west of its junction with Pen-Y-Lan Road for a distance of 39 metres north west.
b)Prevent vehicles from waiting between 8.30am - 4.30pm Monday – Friday for more than 2 hours (no return within 3 hours) in Ty Gwyn Road, Pen-Y-Lan on its south west side from a point 59 metres north west of its junction with Pen- Y-Lan Road, for a distance of 19 metres north west.
2. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2026 (Amendment No 14) Order 2026 will prevent you from:
a) Waiting at any time and loading and unloading between the hours of 8:30am - 9:15am and 2:15pm – 3:15pm
Monday to Friday in:
i) Cyntwell Avenue on its north west side from its junction with the Access Road to Pencaerau Primary School (adjacent to No. 31 Cyntwell Avenue) for a distance of 7 metres north east, and from its junction with Cyntwell Avenue (Northwest Access Road) to its junction with the access road to Pencaerau Primary School (adjacent to No. 31 Cyntwell Avenue) and on its south east side from a point 18 metres south west of its junction with Cyntwell Crescent to a point 15 metres north east of the same junction
ii) Access Road To Pencaerau Primary School (adjacent to No. 31 Cyntwell Avenue) on both sides from its junction with Cyntwell Avenue for a distance of 8 metres north west.
iii) Cyntwell Avenue (Northwest Access Road) on its north east side, from its junction with Cyntwell Avenue for a distance of 7 metres north west.
iv) Cyntwell Crescent on both sides from its junction with Cyntwell Avenue for a distance of 11 metres south east.
b) Stopping between the hours of 8:00am - 4.30pm Monday to Friday in Cyntwell Avenue on its north west side from a point 7 metres north east of its access road to Pencaerau Primary School (adjacent to No. 31 Cyntwell Avenue) for a distance of 25.56 metres north east.
3. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2026 (Amendment No 18) Order 2026 will:
a) Prevent you from waiting and loading at any time in:
i) Ball Road on its north west side from a point 13.5 metres south west of its junction with Shaw Close to a point 10.5 metres north east of the same junction, and from its junction with Burnham Avenue for a distance of 19 metres south west, and on its south east side from its junction with Burnham Avenue for a distance of 18 metres south west
ii) Burnham Avenue on its west side from a point 10 metres south east of its junction with Ball Road to a point 10 metres north west
b) Prevent you from waiting and loading between the hours of 8am – 4:30pm Monday to Friday in Ball Road on its north side from a point 10.5 metres north east of its junction with Shaw Close for a distance of 32.5 metres north east
c) Prevent you from waiting at any time with no loading between the hours of 8am – 4:30pm Monday to Friday in Ball Road on its north west side from a point 13.5 metres south west of its junction with Shaw Close for a distance of 17 metres south west
23/10/2026 Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: