Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Bethesda, Gwynedd - Prohibition And Restriction Of Waiting
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A5 (BETHESDA, GWYNEDD) (GWAHARDD A CHYFYNGU AR AROS) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 1(1), 2(1) a (2), 4(2) a 124(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd a chyfyngu ar aros ar ochrau’r darnau o gefnffordd yr A5 Llundain i Gaergybi o’r enw Ffordd Bangor, Stryd Fawr, Rhes Ogwen, Rhes Douglas a Phont-y-pant Isaf ym Methesda, yn sir Gwynedd, fel y’u pennir yn yr Atodlenni i’r Hysbysiad hwn, y dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Gorchymyn arfaethedig. Bydd gwahanol esemptiadau i’r gwaharddiad, gan gynnwys un ar gyfer deiliaid bathodyn person anabl.
Yn ystod cyfnod o 21 o ddiwrnodau o 22 Hydref 2026 ymlaen, gellir edrych ar gopi o’r Gorchymyn arfaethedig, y plan, y Datganiad o’r Rhesymau dros wneud y Gorchymyn a’r Gorchmynion sy’n cael eu dirymu, yn rhad ac am ddim, yn ystod oriau agor arferol yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor LL57 3DP. Gellir gweld copïau hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd, neu gellir eu cael yn rhad ac am ddim drwy e-bostio Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru, neu drwy ysgrifennu at Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2343775.
Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau, gan nodi ar ba sail y’u gwneir, drwy e-bost i Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2343775, neu’n ysgrifenedig i: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ erbyn 11 Tachwedd 2026.
Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau, efallai y bydd arnom angen ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ag eraill caniateir i ni roi gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni a’ch data personol. Ni fyddwn, fodd bynnag, yn datgelu eich manylion personol ond pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd. Os nad ydych yn dymuno i ddata personol penodol gael eu hanfon ymlaen at drydydd parti, dylech nodi pam pan fyddwch yn cyflwyno eich gohebiaeth a bydd Gweinidogion Cymru yn copïo’r sylwadau i’r trydydd parti priodol gyda’r enw a’r cyfeiriad wedi eu dileu. Os bydd Ymchwiliad Cyhoeddus lleol yn cael ei gynnal, bydd yr Arolygydd yn gweld y sylwadau ond efallai y bydd yn rhoi llai o sylw iddynt o ganlyniad i hyn.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd aros ar unrhyw adeg ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 7(1)
1. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Ffordd Bangor sy’n ymestyn o bwynt 18 metr i’r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd â Lôn Newydd Coetmor i gyfeiriad y de-ddwyrain, hyd at bwynt 39 o fetrau i’r de o ganolbwynt y gyffordd honno.
2. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Ffordd Bangor sy’n ymestyn o’i chyffordd ag Allt Caffi i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 9 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Rhes Victoria.
3. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 25 o fetrau i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Rhes Victoria i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 12 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â mynedfa Capel Jerusalem.
4. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 10 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Llain Deg i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 10 metr i’r de o ganolbwynt y gyffordd honno.
5. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 25 o fetrau i’r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd â’r fynedfa i’r safle ffatri i’r gogledd o Gae’r Berllan, i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 28 o fetrau i’r de o ganolbwynt y gyffordd honno.
6. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o ben mwyaf gogleddol y gilfan y tu allan i’r safle ffatri i’r gogledd o Gae’r Berllan, i gyfeiriad y de-ddwyrain am bellter o 15 metr.
7. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Ffordd Bangor a Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 9 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd dde-ddwyreiniol â Rhes Gordon hyd at y ffin rhwng yr eiddo o’r enw 1 a 3 a 5 a 7 Stryd Fawr.
8. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 10 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Glanafon i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 20 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt y gyffordd honno.
9. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 31 o fetrau i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Glanafon i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 60 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd dde-ddwyreiniol â Chae Star.
10. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o’r ffin rhwng yr eiddo o’r enw rhif 11 a 12 Rhes Ogwen am bellter o 259 o fetrau i gyfeiriad y de-ddwyrain, hyd at bwynt 36 o fetrau i’r de-ddwyrain o rif 8 Rhes Douglas.
11. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd ag Adwy’r Nant i gyfeiriad y de am bellter o 51 o fetrau.
12. Y darn hwnnw o ochr ddwyreiniol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 23 o fetrau i’r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd ag Adwy’r Nant hyd at bwynt 54 o fetrau i’r gogledd o’r un gyffordd.
ATODLEN 2
Dim aros rhwng 09:00 o’r gloch a 18:00 o’r gloch ar unrhyw ddiwrnod
Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Ffordd Bangor sy’n ymestyn o bwynt 65 o fetrau i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd ag Allt Caffi i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 45 o fetrau i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt y gyffordd honno.
ATODLEN 3
Cyfyngu ar aros i 90 o funudau a dim dychwelyd o fewn 2 awr rhwng 09:00 o’r gloch a 18:00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
1. Y darn hwnnw o ochr ogleddol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 9 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Rhes Victoria i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 25 o fetrau i’r de-ddwyrain o ganolbwynt y gyffordd honno.
2. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o’r ffin rhwng yr eiddo o’r enw 1 a 3 a 5 a 7 Stryd Fawr i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 26 o fetrau i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Glanafon.
3. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd â Glanafon i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at bwynt 31 o fetrau i’r de-ddwyrain o ganolbwynt y gyffordd honno.
4. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 60 metr i’r de-ddwyrain o ganolbwynt ei chyffordd dde-ddwyreiniol â Chae Star i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at y ffin rhwng yr eiddo o’r enw rhif 2 a 3 Rhes Ogwen.
5. Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o’r ffin rhwng yr eiddo o’r enw rhif 7 ac 8 Rhes Ogwen i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at y ffin rhwng yr eiddo o’r enw rhif 11 a 12 Rhes Ogwen.
ATODLEN 4
Gwahardd aros ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 7(3) (y tu allan i Orsaf Heddlu Bethesda)
Y darn hwnnw o ochr ddeheuol y gefnffordd o’r enw Stryd Fawr sy’n ymestyn o bwynt 20 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Glanafon hyd at bwynt 26 o fetrau i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd honno y tu allan i’r eiddo o’r enw Gorsaf Heddlu Bethesda.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A5 TRUNK ROAD (BETHESDA, GWYNEDD) (PROHIBITION AND RESTRICTION OF WAITING) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose to make an Order in exercise of their powers under sections 1(1), 2(1) and (2), 4(2) and 124(3) of the Road Traffic Regulation Act 1984.
The effect of the proposed Order will be to prohibit and restrict waiting on the sides of the lengths of the A5 London to Holyhead trunk road known as Bangor Road, High Street, Ogwen Terrace, Douglas Terrace and Pont-y-Pant Isaf at Bethesda, in the county of Gwynedd, as specified in the Schedules to this Notice, which should be read along with the proposed Order. There will be various exemptions to the prohibition, including one for disabled person’s badge holders.
During a period of 21 days from 22 October 2026, a copy of the proposed Order, plan, the Statement of Reasons for making the Order and the Orders being revoked may be inspected, free of charge, during normal opening hours at Dyffryn Ogwen Community Library, Coetmor Road, Bethesda, Bangor LL57 3DP. Copies may also be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders, or may be obtained free of charge by emailing TransportOrdersBranch@gov.wales, or by writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ, quoting reference number qA2343775.
Objections, specifying the grounds on which they are made, must be sent by e-mail to Transportordersbranch@gov.wales quoting reference number qA2343775, or in writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ by 11 November 2026.
Should you wish to object, support or make representations, we may need to consult with people and organisations outside of the Welsh Government. As part of the process of consulting with others we may pass information to them, including information you have given us and your personal data. We will, however, only disclose your personal details where it is necessary to do so to address the issues raised. If you do not wish for certain personal data to be forwarded to third parties, you should state why when submitting your correspondence and the Welsh Ministers will copy the representations to the appropriate third parties with the name and address removed and if there is to be a local Public Inquiry, the representations will be seen by the Inspector who may give them less weight as a result.
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Prohibition of waiting at any time except as provided in article 7(1)
1. That length of the northern side of the trunk road known as Bangor Road which extends from a point 18 metres north from the centre point of its junction with Coetmor New Road in a south easterly direction, to a point 39 metres south of the centre point of the said junction.
2. That length of the northern side of the trunk road known as Bangor Road which extends from its junction with Allt Caffi in a south easterly direction to a point 9 metres southeast of the centre point of its junction with Victoria Place.
3. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 25 metres southeast of the centre point of its junction with Victoria Place in a south easterly direction to a point 12 metres southeast from the centre point of its junction with the access to Capel Jerusalem.
4. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 10 metres northwest from the centre point of its junction with Llain Deg in a south easterly direction to a point 10 metres south of the centre point of the said junction.
5. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 25 metres north from the centre point of its junction with the access to the factory site north of Cae’r-berllan, in a south easterly direction to a point 28 metres south of the centre point of the said junction.
6. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from the northernmost end of the layby outside the factory site north of Cae’r-berllan, in a south easterly direction for a distance of 15 metres.
7. That length of the southern side of the trunk road known as Bangor Road and High Street which extends from a point 9 metres northwest from the centre point of its southeastern junction with Gordon Terrace to the boundary between the properties known as 1 & 3 and 5 & 7 High Street.
8. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 10 metres northwest from the centre point of its junction with Glanafon Street in a south easterly direction to a point 20 metres northwest of the centre point of the said junction.
9. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 31 metres southeast from the centre point of its junction with Glanafon Street in a south easterly direction to a point 60 metres southeast of the centre point of its southeastern junction with Cae Star.
10. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from the boundary between the properties known as number 11 and 12 Ogwen Terrace for a distance of 259 metres in a south easterly direction, to a point 36 metres south east of number 8 Douglas Terrace.
11. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from the centre point of its junction with Adwy’r Nant in a southerly direction for a distance of 51 metres.
12. That length of the eastern side of the trunk road known as High Street that extends from a point 23 metres north of the centre point of its junction with Adwy’r Nant to a point 54 metres to the north of the same junction.
SCHEDULE 2
No waiting between 09:00 hours and 18:00 hours on any day
That length of the northern side of the trunk road known as Bangor Road which extends from a point 65 metres northwest from the centre point of its junction with Allt Caffi in a south easterly direction to a point 45 metres northwest of the centre point of the said junction.
SCHEDULE 3
Waiting restricted to 90 minutes no return within 2 hours between 09:00 hours and 18:00 hours Monday to Saturday
1. That length of the northern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 9 metres southeast of the centre point of its junction with Victoria Place in a south easterly direction to a point 25 metres southeast of the centre point of the said junction.
2. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from the boundary between the properties known as 1& 3 and 5 & 7 High Street in a south easterly direction to a point 26 metres northwest of the centre point of its junction with Glanafon Street.
3. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 10 metres southeast of the centre point of its junction with Glanafon Street in a south easterly direction to a point 31 metres southeast of the centre point of the said junction.
4. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 60 metres southeast of the centre point of its southeastern junction with Cae Star in a south easterly direction to the boundary between the properties known as number 2 and 3 Ogwen Terrace.
5. That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from the boundary between the properties known as number 7 and 8 Ogwen Terrace in a south easterly direction to the boundary between the properties known as number 11 and 12 Ogwen Terrace.
SCHEDULE 4
Prohibition of waiting except as provided in article 7(3) (Outside Bethesda Police Station)
That length of the southern side of the trunk road known as High Street which extends from a point 20 metres northwest of the centre point of its junction with Glanafon Street to a point 26 metres northwest of the said junction outside the property known as Bethesda Police Station.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: