Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Footpath No.28, Cylch Y Garn - Public Path Diversion Order
What is happening?
RHYBUDD CADARNHAU GORCHYMYN LLWYBR CYHOEDDUS
DEDDF PRIFFYRDD 1980
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(LLWYBR TROED RHIF 28 YNG NGHYMUNED CYLCH Y GARN) GWYRO LLWYBR CYHOEDDUS 2026
Ar 13eg Hydref 2026 cadarnhawyd y Gorchymyn uchod a wnaethpwyd dan Adran 119 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980 gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Effaith y Gorchymyn fel y’i cadarnhawyd fydd YN gwyro’r llwybr
cyhoeddus sy’n rhedeg:
O bwynt A yn iard Ty’n y Maen (SH3196091102), mae’r llwybr yn mynd tua’r gorllewin at giât ym mhwynt B, lle mae’n gadael yr iard. Yna mae’n mynd yn gyffredinol tua’r de-orllewin i fyny’r llethr drwy lystyfiant prysglog, gan orffen ger giât ym mhwynt C (SH3188591019). Mae’r cyfanswm hyd tua 138m ac nid oes lled wedi’i gofnodi ar ei gyfer.
i drywydd sy’n rhedeg:
O bwynt A yn iard Ty’n y Maen (SH3196091102), mae’r llwybr yn mynd i gyfeiriad gorllewin-de-orllewin at bwynt D, lle bydd agoriad a grisiau yn cael eu creu yn y wal derfyn. Yna mae’n parhau tua’r de rhwng terfyn cae ac ardal ymarfer ceffylau at bwynt E. Wedyn mae’n troi i gyfeiriad de-orllewin ac yn mynd i fyny tir mwy serth ar dir prysgwydd. Bydd grisiau yn cael eu gosod ar ran 20 metr o hyd rhwng pwyntiau F a G i hwyluso mynediad. Yna mae’n parhau i fyny’r llethr yn agos at derfyn y cae ac yn gorffen ger giât ym mhwynt C (SH3188591019). Mae’r cyfanswm hyd tua 150 metr a’i led fydd 2 fetr.
Mae’n bosib i’r cyhoedd archwilio copi o’r Gorchymyn wedi’i gadarnhau a’r Map yn Swyddfa’r Cyngor, Llangefni drwy apwyntiad neu yn llyfrgell Amlwch. Neu bydd copi o’r dogfennau uchod ar gael ar wefan y Cyngor www.ynysmon.gov.uk/gorchmynion-cyfreithiol. Fe ddanfonir copi caled o’r dogfennau uchod drwy’r post ar gais ac am ddim os cysylltwch â SiwanJones@ynysmon.llyw.cymru neu 01248 752591 (yn ystod oriau swyddfa arferol).
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y dyddiad y mae’r Cyngor yn ardystio fod telerau Erthygl 2 o’r Gorchymyn wedi’u cwblhau, ond os oes person wedi’i dramgwyddo gan y Gorchymyn, ac yn amau ei ddilysrwydd, neu unrhyw ddarpariaethau a gynhwysir ynddo ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980 fel y’i diwygiwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf, fel y’i diwygiwyd, neu reoliadau a wnaed fel canlyniad iddi, mewn perthynas â’r Gorchymyn, fel gall ef neu hi o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf fel ei gymhwyswyd gan baragraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf, o fewn 6 wythnos i ddyddiad y rhybudd hwn wneud cais i’r Uchel Lys i’r perwyl hwnnw.
NOTICE OF CONFIRMATION OF PUBLIC PATH ORDER HIGHWAYS ACT 1980
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(FOOTPATH NO.28 IN THE COMMUNITY OF CYLCH Y GARN)
PUBLIC PATH DIVERSION ORDER 2026
On 13th October 2026 the Isle of Anglesey County Council confirmed the above Order made under Section 119 of the Highways Act 1980. The effect of the Order as confirmed is to divert the Public
Footpath running:
From point A in the yard of Ty’n y Maen (SH3196091102), the path proceeds west to a gate at point B, where it leaves the yard. It then proceeds generally SW upslope through scrub vegetation, ending near a gate at point C (SH3188591019). The total length is approximately 138M and it has no recorded width.
to a line running:
From point A in the yard of Ty’n y Maen (SH3196091102), the path proceeds WSW to point D, where an opening and steps will be made in the boundary wall. It then continues south between a field boundary and a menage area to point E. It then turns SW and proceeds up steeper ground on scrubland. Steps will be placed on a 20M section between points F and G to facilitate access. It then continues upslope close to the field boundary and ends near a gate at point C (SH3188591019). The total length is approximately 150M and its width shall be 2M.
It is possible to inspect a copy of the confirmed Order and Order Map at the Council Offices, Llangefni by appointment or at Amlwch library. Alternatively, copies of the above documents are available on the Council’s website www.anglesey.gov.uk/legal-orders or hard copies of the above documents will be sent in the post free of charge on request if you contact SiwanJones@ynysmon.llyw.cymru or 01248 752591 (during normal office hours).
This Order comes into force on the date on which the Council certify that the terms of Article 2 of the Order have been complied with, but if a person aggrieved by the Order wants to question its validity, or that any provision contained in it, on the grounds that it is not within the powers of the Highways Act, 1980, as amended, or on the ground that any requirement of the Act, as amended, or of any regulation under the Act has not been complied with in relation to the Order he or she may under paragraph 2 of Schedule 2 to the Act as applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the Act, within 6 weeks from the date of this notice make an application to the High Court.
DYDDIEDIG 14/10/2026 DATED
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Bangor & Holyhead Mail directly at: