Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Cardiff - New Traffic Orders For The City
What is happening?
GORCHMYNION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
Rhoddir Hysbysiad drwy hyn ar 25 Medi 2026 y gwnaeth Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), a’r holl bwerau galluogi eraill, orchmynion rheoli traffig fydd yn diwygio Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwahardd a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 i osod cyfyngiadau traffig fel y disgrifir ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.
Daw’r Gorchmynion i rym ar 1 Hydref 2026 neu ar y dyddiad y caiff y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol eu gosod ar y safle, pa bynnag un sydd hwyraf.
Mae copi o’r gorchmynion a’r cynlluniau sy'n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
Os ydych am gwestiynu darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a ddyfarnwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, mewn perthynas â’r Gorchymyn, gallwch, o fewn chwe wythnos i 25 Medi 2026 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.
ATODLEN
1. Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Pharcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2026 (Diwygiad Rhif 28) Gorchymyn 2026 a hysbysebwyd yn flaenorol fel Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Pharcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 (Diwygiad Rhif 20) Gorchymyn 2026 yn:
a) Eich atal rhag aros a llwytho ar unrhyw adeg yn:
1) Ffordd y Brenin ar ochr y gorllewin o'r gyffordd â Heol y Dug am 238 metr i'r gogledd ac ar ochr y dwyrain o'r gyffordd â Ffordd Fynediad Ffordd y Brenin (ffordd wasanaeth muriau’r dref) hyd at y gyffordd â Ffordd y Gogledd
2) Ffordd y Gogledd ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Boulevard De Nantes ac o bwynt 94 metr i'r de o'r gyffordd â Boulevard De Nantes am 14 metr i'r de (o gwmpas ymyl yr ynys draffig drionglog fechan)
3) Ffordd Fynediad Ffordd y Brenin (ffordd wasanaeth muriau’r dref) ar ochr y gogledd o'r gyffordd â Ffordd y Brenin am 31 metr i'r dwyrain ac ar ochr y de o'r un gyffordd am 21.5 metr i'r dwyrain
4) Heol y Dug ar ochr y gogledd o’r gyffordd â Ffordd y Brenin am 95 metr i’r gorllewin.
5) Stryd y Castell ar ochr ogleddol o'r gyffordd â Heol y Dug am 95 metr i'r gorllewin
6) Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ar ochr y gogledd o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Stryd y Castell ac ar ochr y de o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan Isaf i'r gyffordd â Heol y Porth
7) Heol y Porth ar ochr y de-orllewin o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen am 43 metr i'r de-ddwyrain ac ar ochr y gogledd-ddwyrain o'r gyffordd â Stryd y Castell am 29 metr i'r de-ddwyrain
8) Green Street ar ochr y gogledd-orllewin o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen am 16 metr i'r de-orllewin, ac o'r pen caeëdig am 16 metr i'r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y de-ddwyrain o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bontfaen i'r pen caeëdig, (gan gynnwys pan fydd ar gau)
b) Sefydlu Ardal Llwytho Cerbydau Nwyddau yn Unig yn Ffordd Fynediad Ffordd y Brenin (ffordd wasanaeth muriau’r dref) o'r gyffordd â Ffordd y Brenin, ar ei hyd (ac eithrio lle mae cyfyngiadau aros/llwytho wedi'u marcio)
c) Sefydlu bae defnydd deuol sy'n cyfyngu parcio i Lwytho Cerbydau Nwyddau rhwng 6am a 4:30pm yn unig (uchafswm o 30 munud o arhosiad heb ddychwelyd o fewn 2 awr) ac sy'n gweithredu fel safle tacsis (dim stopio ac eithrio tacsis) rhwng 4:31pm a 5:59am yn:
1) Heol y Dug; ar ochr y de o bwynt 34.5 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Stryd Fawr am 30 metr i’r dwyrain
2) Stryd y Castell ar ochr y de o bwynt 29 metr i'r gorllewin o'r gyffordd â'r Stryd Fawr am 28.5 metr i'r gorllewin
d) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg heb lwytho rhwng 8am a 10pm yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ar ochr y deddwyraino'r gyffordd â Neville Street i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan Isaf ac ar ochr y gogledd-orllewin o'r gyffordd â Chlos Dewi Sant am 99 metr i'r de-orllewin ac o'r gyffordd â Chlos Dewi Sant i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan
2. Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas A Sir Caerdydd (Ffordd Y Brenin, Caerdydd) (Gwahardd Cerbydau Modur) 2026 yn eich atal rhag gyrru neu ganiatáu i unrhyw gerbyd modur fynd i mewn neu ar hyd Ffordd y Brenin’, o’r gyffordd â Heol y Brodyr Llwydion a’r gyffordd â Boulevard De Nantes. Caniateir eithriadau ar gyfer cerbydau sy'n arddangos trwydded ddilys ar gyfer mynediad neu i hwyluso digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor.
30 Medi 2026, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
NEW TRAFFIC ORDERS FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF
Notice is hereby given that on the 25th September 2026 the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) and of all other enabling powers, made traffic regulation orders, the general effect of which to impose traffic restrictions in the lengths of road set out in the Schedule below. The title and nature of the Orders is also described in the said Schedule.
The Orders will come into operation on the 1st October 2026 or on the date that the necessary lines and signs are placed on site, whichever is the later.
A copy of the orders and plans showing the location and extent of the restrictions are available at www. cardiff.gov.uk/trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg.
If you wish to question the Order provisions or validity on the grounds that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984, or on the ground that any requirement of, or any instrument made under the Act, has not been complied with in relation to the Order, you may, within six weeks from the 25th September 2026 apply to the High Court for this purpose.
SCHEDULE
1. The County Council Of The City And County Of Cardiff (Prohibitions And Restrictions Of Stopping, Waiting, Loading And Street Parking Places) (Consolidation) Order 2026 (Amendment No 28) Order 2026 previously advertised as The County Council Of The City And County Of Cardiff (Prohibitions And Restrictions Of Stopping, Waiting, Loading And Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 (Amendment No 20) Order 2026 proposes to:
a) Prevent you from waiting and loading at any time in:
1) Kingsway on its west side from its junction with Duke Street for a distance of 238 metres north and on its east side from its junction with Kingsway Access Road (town wall service road) to its junction with North Road
2) North Road on its north east side from its junction with Kingsway to its junction with Boulevard De Nantes and from a point 94 metres south of its junction with Boulevard De Nantes for a distance of 14 metres south (around the edge of the small triangular traffic island)
3) Kingsway Access Road (town wall service road) on its north side from its junction with Kingsway for a distance of 31 metres east and on its south side from the same junction for a distance of 21.5 metres east
4) Duke Street on its north side from its junction with Kingsway for a distance of 95 metres west
5) Castle Street on its north side from its junction with Duke Street for a distance of 95 metres west
6) Cowbridge Road East on its north side from its junction with Cathedral Road to its junction with Castle Street and on its south side from its junction with Lower Cathedral Road to its junction with Westgate Street
7) Westgate Street on its south west side from its junction with Cowbridge Road East for a distance of 43 metres south east and on its north east side from its junction with Castle Street for a distance of 29 metres south east
8) Green Street on its north west side from its junction with Cowbridge Road East for a distance of 16 metres south west, and from its closed end for a distance of 16 metres north east, and on its south east side from its junction with Cowbridge Road East to its closed end, (including across its closure)
b) Establish a Goods Vehicle Loading Only Area in Kingsway Access Road (town wall service road) from its junction with Kingsway, throughout its length (except where waiting/loading restrictions are marked)
c) Establish a dual use bay that restricts parking to Goods Vehicles Loading only between the hours of 6am – 4:30pm (30 minutes maximum stay with no return within 2 hours) and operates as a Taxi Rank (no stopping except taxis) between the hours of 4:31pm – 5:59am in:
1) Duke Street on its south side from a point 34.5 metres east of its junction with High Street for a distance 30 metres east
2) Castle Street on its south side from a point 29 metres west of its junction with High Street for a distance of 28.5 metres west
d) Prevent you from waiting at any time with no loading between the hours of 8am – 10pm in Cowbridge Road East on its south east side from its junction with Neville Street to its junction with Lower Cathedral Road and on its north west side from its junction with Clos Dewi Sant for a distance of 99 metres south west and from its junction with Clos Dewi Sant to its junction with Cathedral Road
2. The County Council of the City and County of Cardiff (Kingsway, Cardiff) (Prohibition of Motor Vehicles) Order 2026 will prevent you from causing or permitting any motor vehicle to enter and proceed along Kingsway from its junction with Greyfriars Road to its junction with Boulevard De Nantes. Exemptions shall be permitted for vehicles displaying a valid permit for access or to facilitate a Council-supported event.
30 September 2026, Director of Governance & Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: