Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Flintshire - Temporary Road Closures & Experimental Traffic & Parking Changes

CH5Published 11/09/26
The Leader • 

What is happening?

*]:pointer-events-auto R6Vx5W_threadScrollVars scroll-mb-[calc(var(--scroll-root-safe-area-inset-bottom,0px)+var(--thread-response-height))] scroll-mt-(--sticky-padding-top)" data-turn-id-container="c12b9a81-9174-4439-881d-19073c2ff9a6" data-turn="user" data-testid="conversation-turn-1" data-turn-id="c12b9a81-9174-4439-881d-19073c2ff9a6">

*]:pointer-events-auto R6Vx5W_threadScrollVars scroll-mb-[calc(var(--scroll-root-safe-area-inset-bottom,0px)+var(--thread-response-height))] scroll-mt-[calc(var(--header-height)+min(200px,max(70px,20svh)))]" data-turn-id-container="request-WEB:397eda23-3e0d-4f96-b95d-31637b4aa32b-28" data-turn="assistant" data-testid="conversation-turn-2" data-turn-id="request-WEB:397eda23-3e0d-4f96-b95d-31637b4aa32b-28">

HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

Y FFLINT

Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, ddim cynt na saith diwrnod o 11 Medi 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffordd ganlynol:

Maes Gwyn o’i gyffordd â Prince of Wales Avenue, y Fflint, yn Sir y Fflint.

Mae angen cyflwyno’r cyfyngiad er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio gan O’Connor Utilities ar ran Scottish Power.

Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ynghau.

Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 28 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu 10 wythnos, oni chwbheir y gwaith yn gynt, ac ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint DMC

Dyddiedig 11 Medi 2026

HYSBYSIAD O ORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

PENARLÂG

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffordd ganlynol:

Cottage Lane, rhwng ei chyffyrdd â’r A550 Gladstone Way a Mancot Lane, Penarlâg, yn Sir y Fflint.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn i PN Daly Ltd allu gosod pibellau nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig ar gyfer datblygiad Gladstone Way.

Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ynghau.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026 neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny a bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos, oni chwbheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

AB3947012

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint

Dyddiedig 11 Medi 2026

HYSBYSIAD O ORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

CAERWYS

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffordd ganlynol:

Pen y Cefn Lane, rhwng ei chyffyrdd â Chroesffordd Croes-wian a Drovers Lane, Caerwys, yn Sir y Fflint.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn gosod sgaffaldiau i atgyweirio eiddo preifat. Mae’r cais wedi’i gyflwyno gan Rent a Pump Traffic Management.

Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr ar bob adeg wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am bythefnos, oni chwbheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

AB3944028

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint

Dyddiedig 11 Medi 2026

HYSBYSIAD O ORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

YR HÔB

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffordd ganlynol:

Willow Avenue, rhwng ei chyffyrdd â Queensway, yr Hôb, yn Sir Fflint.

Y rheswm dros gau’r ffordd yw er mwyn hwyluso gwaith Wales and West Utilities i osod prif bibell gyflenwad nwy newydd a gwaith cysylltiedig.

Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr ar bob adeg wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026 a bydd y ffordd ar gau am 11 wythnos, oni chwbheir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

AB3943300

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint

Dyddiedig 11 Medi 2026

HYSBYSIAD O WNEUD

GORCHYMYN ARBROFOL (BRUNSWICK ROAD, BWCLE) (BAEAU GYDA CHYFYNGIAD AROS) CYNGOR SIR Y FFLINT 2026

Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir y Fflint, ar 8 Medi 2026, wrth arfer ei bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, o dan Adrannau 9 a 10 a’r holl bwerau galluogi eraill, wedi gwneud Gorchymyn Arbrofol sydd yn:

  1. Cyflwyno ‘Lleoedd gyda chyfyngiad ar aros i 20 munud, Dim dychwelyd o fewn 1 awr’ ar sail Arbrofol ar hyd y darn canlynol o ffordd:

(a) ar ran o’r ddwy ochr i Brunswick Road, Bwcle.

Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol ‘Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio) (Gorchfodaeth Sifil ac Atgyfnerthu) 2013’ yn parhau mewn grym.

Bydd y Gorchymyn Arbrofol yn dod i rym ar 21 Medi 2026 am gyfnod o 18 mis. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn, cynlluniau’n dangos y ffordd y mae’r cynnig yn effeithio arni, ynghyd â datganiad o resymau’r Cyngor dros wneud y Gorchymyn, yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell Bwcle, y Ganolfan Siopa, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2EF yn ystod oriau agor neu fe allwch eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy e-bostio transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352701234.

Bydd y Cyngor yn ystyried, maes o law, a ddylai darpariaethau’r Gorchymyn barhau mewn grym am gyfnod amhenodol. O fewn cyfnod o 6 mis wedi i’r Gorchymyn ddod i rym, neu os yw’r Gorchymyn yn cael ei addasu neu ei amrywio wedi hynny, ers i’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw ddod i rym (pa un bynnag yw’r hwyraf), gall unrhyw un wrthwynebu gwneud y Gorchymyn at bwrpas parhad amhenodol o’r fath.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn, a’r sail ar gyfer gwrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod o fewn chwe mis i’r dyddiad y bydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym, neu’r dyddiad y bydd unrhyw amrywiad neu addasiad neu’r amrywiad neu’r addasiad diweddaraf wedi dod i rym, gan nodi cyfeirnod SS/TRO/JB/76/2026.

Os yw’n ymddangos os yn hanfodol i’r Cyngor ei bod yn angenrheidiol er budd symud traffig mewn modd cyflym, cyfleus neu ddiogel, neu i ddarparu cyfleusterau parcio addas a digonol ar y briffordd neu ar gyfer cadw neu wella amwynderau’r ardal mae unrhyw ddarn o ffordd yr effeithir arno gan y Gorchymyn yn rhedeg drwyddi, yna gall swyddog enwebedig y Cyngor, isod, addasu neu atal y Gorchymyn neu ei ddarpariaethau.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn Arbrofol (a wnaed ar 8 Medi 2026) neu unrhyw ddarpariaethau sydd ynddo, ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a roddwyd gan y ddeddfwriaeth berthnasol, neu ar y sail na chydymffurfiwyd â gofynion y fath ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn, wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos o 8 Medi 2026 i’r diben hwnnw.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.

Dyddiedig 11 Medi 2026

HYSBYSIAD O WNEUD

GORCHYMYN ARBROFOL CYNGOR SIR Y FFLINT

(BRUNSWICK ROAD, BWCLE) 2026

Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir y Fflint (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”), ar 8 Medi 2026, wrth arfer ei bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “Deddf 1984”), o dan Adrannau 9 a 10 a’r holl bwerau galluogi eraill, wedi gwneud Gorchymyn Arbrofol sydd yn:-

  1. Caniatáu i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y rhan o’r ffordd a nodir yn Atodlen o’r Hysbysiad hwn.

Caiff Erthyglau 2 a 3 Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Cyngor Sir y Fflint (Brunswick Road, Bwcle) 2000 eu hatal drwy hyn dros gyfnod y Gorchymyn Arbrofol.

Effaith y Gorchymyn Arbrofol yw caniatáu i gerbydau gael mynediad at Brunswick Road i roi hwb i fasnach leol.

ATODLEN

Brunswick Road, Bwcle

O’i chyffordd â’r B5127 Mill Lane/Padeswood Road gogledd, yn y groesffordd i’r gyffordd â Precinct Way.

Bydd y Gorchymyn Arbrofol yn dod i rym ar 21 Medi 2026 am gyfnod o 18 mis. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn, cynlluniau’n dangos y ffordd y mae’r cynnig yn effeithio arni, ynghyd â datganiad o resymau’r Cyngor dros wneud y Gorchymyn, yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell Bwcle, y Ganolfan Siopa, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2EF yn ystod oriau agor neu fe allwch eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy e-bostio transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352701234.

Bydd y Cyngor yn ystyried, maes o law, a ddylai darpariaethau’r Gorchymyn barhau mewn grym am gyfnod amhenodol. O fewn cyfnod o 6 mis wedi i’r Gorchymyn ddod i rym, neu os yw’r Gorchymyn yn cael ei addasu neu ei amrywio wedi hynny, ers i’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw ddod i rym (pa un bynnag yw’r hwyraf), gall unrhyw un wrthwynebu gwneud y Gorchymyn at bwrpas parhad amhenodol o’r fath.

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn, a’r sail ar gyfer gwrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod o fewn chwe mis i’r dyddiad y bydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym, neu’r dyddiad y bydd unrhyw amrywiad neu addasiad neu’r amrywiad neu’r addasiad diweddaraf wedi dod i rym, gan nodi cyfeirnod SS/TRO/JB/76/2026.

Os yw’n ymddangos os yn hanfodol i’r Cyngor ei bod yn angenrheidiol er budd symud traffig mewn modd cyflym, cyfleus neu ddiogel, neu i ddarparu cyfleusterau parcio addas a digonol ar y briffordd neu ar gyfer cadw neu wella amwynderau’r ardal mae unrhyw ddarn o ffordd yr effeithir arno gan y Gorchymyn yn rhedeg drwyddi, yna gall swyddog enwebedig y Cyngor, isod, addasu neu atal y Gorchymyn neu ei ddarpariaethau.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn Arbrofol (a wnaed ar 8 Medi 2026) neu unrhyw ddarpariaethau sydd ynddo, ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a roddwyd gan y ddeddfwriaeth berthnasol, neu ar y sail na chydymffurfiwyd â gofynion y fath ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn, wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos o 8 Medi 2026 i’r diben hwnnw.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.

Dyddiedig 11 Medi 2026

www.siryfflint.gov.uk

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at:

classifiednwne@localiq.co.uk

01925 596444

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association