Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Cardiff - Multiple Traffic Notices

CF10Published 10/09/26
Western Mail • 

What is happening?

GORCHMYNION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD

Rhoddir Hysbysiad drwy hyn ar 4 Medi 2026 y gwnaeth Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), a’r holl bwerau galluogi eraill, orchmynion rheoli traffig fydd yn diwygio Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwahardd a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 i osod cyfyngiadau traffig fel y disgrifir ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.

Daw’r Gorchmynion i rym ar 11 Medi 2026 neu ar y dyddiad y caiff y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol eu gosod ar y safle, pa bynnag un sydd hwyraf.

Mae copi o’r gorchmynion a’r cynlluniau sy’n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.

Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

Os ydych am gwestiynu darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a ddyfarnwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, mewn perthynas â’r Gorchymyn, gallwch, o fewn chwe wythnos i 4 Medi 2026 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.

ATODLEN
1) Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Amryw Ffyrdd, Caerdydd) (Rheoli Traffig) 2026 yn cynnig dirymu a diwygio Gorchmynion presennol a gweithredu cyfyngiadau newydd i:
1. Atal gwneud tro pedol i mewn i:
a) Sgwâr Callaghan (wrth y gyffordd â Stryd Bute) o’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain i’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin b) Sgwâr Callaghan (wrth y gyffordd â Heol Eglwys Fair) o’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin i’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain c) Stryd Herbert (wrth y gyffordd â Stryd Bute) o’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin i’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain d) Ffordd Tresilian (wrth y gyffordd â Heol Eglwys Fair) o’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain i’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin e) Stryd Herbert (wrth y gyffordd â Rhodfa Lloyd George) i) o’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain i’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin ac ii) o’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin i’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain f) Heol Penarth (wrth y gyffordd â Theras Tresilian a Ffordd Tresilian o’r ffordd gerbydau tua’r gorllewin i’r ffordd gerbydau tua’r dwyrain

2. Atal unrhyw gerbyd (ac eithrio Bysus, Tacsis, Cerbydau Llogi Preifat, a Cherbydau Awdurdodedig) rhag mynd i unrhyw gyfeiriad arall heblaw yn syth ymlaen yn Heol Eglwys Fair (tua’r de-ddwyrain) wrth y gyffordd â Lôn y Felin/Heol y Tollty/Heol Saunders

3. Cyflwyno troi i’r chwith gorfodol o a) Heol Eglwys Fair (tua’r de) i Sgwâr Callaghan, a b) Stryd Bute (tua’r de) i Stryd Herbert

4. Atal unrhyw gerbyd rhag mynd i unrhyw gyfeiriad heblaw:
a) tua’r de yn Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r gyffordd â Ffordd Tresilian a Theras Tresilian.
b) Tua’r de-ddwyrain yn Stryd Bute o bwynt 12 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd John i’r gyffordd â Stryd Herbert

5. Atal unrhyw gerbyd (ac eithrio Tram) rhag mynd ar hyd y Tramffyrdd yn:
a) Stryd Bute ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Sgwâr Callaghan am 160 metr i’r de (hyd at derfynau’r briffordd),
a b) Sgwâr Callaghan ar ochr y de-ddwyrain rhwng y cyffyrdd â Heol Eglwys Fair a Stryd Bute, c) Heol Penarth ar ochr y gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol Penarth am 35 metr i’r gorllewin (hyd at derfynau’r briffordd), a d) Ffordd Tresilian ar ochr y gogledd-orllewin rhwng y cyffyrdd â Heol Penarth a Heol Eglwys Fair

6. Atal cerddwyr rhag cerdded ar:
a) Ffordd Tresillian ar ochr y gogledd-orllewin o fewn y Dramffordd o’r gyffordd â Heol Penarth i’r cyffyrdd â Sgwâr Callaghan a Heol Eglwys Fair, b) Stryd Bute o fewn y Dramffordd ar ochr y dwyrain o’r gyffordd â Stryd Herbert am 50 metr i’r de-ddwyrain, ac o bwynt 55 metr i’r de-ddwyrain o’r un gyffordd hyd at derfynau’r briffordd

7. Sefydlu Traciau Beicio i’r Ddau Gyfeiriad ac atal unrhyw gerbyd heblaw beic pedal nad yw’n cael ei yrru’n fecanyddol rhag mynd ar hyd y Traciau Beicio yn:

a) Stryd Bute ar ochr y de-orllewin o’r gyffordd â Sgwâr Callaghan am 40 metr i’r de-ddwyrain, b) Sgwâr Callaghan ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair i’r gyffordd â Stryd Bute, c) Rhodfa Lloyd George ar ochr y gorllewin o bwynt 5 metr i’r de o’r gyffordd â Stryd Herbert am 50 metr i’r de, d) Heol Eglwys Fair ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol y Tollty i’r gyffordd â Sgwâr Callaghan, ac e) Ffordd Tresilian ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Sgwâr Callaghan hyd at y gyffordd â Theras Tresilian

8. Atal unrhyw gerbyd (ac eithrio Bysus, Tacsis, Cerbydau Llogi Preifat, Deiliaid Trwyddedau a cherbydau sydd angen mynediad i Safle Oddi ar y Stryd) rhag mynd ar hyd Heol y Tollty ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Stryd Bute a Theras Bute am 100 metr i’r gorllewin

9. Sefydlu Gât Fysus ac atal unrhyw gerbyd modur (ac eithrio Bysus, Tacsis, Cerbydau Llogi Preifat a Cherbydau Awdurdodedig) rhag mynd ar hyd Heol y Tollty ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair am 64 metr i’r dwyrain 2) Mae GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (LLEOEDD PARCIO ODDI AR Y STRYD) 2025 (DIWYGIAD RHIF 1) GORCHYMYN 2026 yn diwygio Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Lleoedd Parcio oddi ar y Stryd) 2025 i gyflwyno arhosiad hyd at 4 awr ym Meysydd Parcio Caeau Llandaf, Severn Road a Stryd Wellington a chyflwyno newidiadau tariff i Faes Parcio Stryd Wellington fel y nodir yn atodlen 2 isod.

Atodlen 2

Maes Parcio
a Ward
Oriau
Gweithredol
Oriau ac amodau
Codi Tâl
Band Tariff C Tocynnau Tymor
Stryd
Wellington
(Glan-yrafon)
Ar bob adeg 9am – 6pm

Dydd Llun i Ddydd Sul

(parcio am 4 awr
ar y mwyaf, dim
dychwelyd o fewn
2 awr)
Dydd Llun i Ddydd

Sadwrn:
30 mun – Am ddim
1 awr – £1.00
2 awr – £2.00
3 awr – £3.50
4 awr – £5.00
Mwy na 4 awr - £6.50

Dydd Sul:
30 mun – Am ddim
4 awr – £1.50
Mwy na 4 awr - £2.50
Dydd Llun i Ddydd Gwener:
1 mis – £100.00
3 mis – £280.00
6 mis – £560.00
12 mis – £1,120.00
Dydd Llun i Ddydd Sul:
1 mis – £125.00
3 mis – £350.00
6 mis – £680.00
12 mis – £1,300.00
Ar y penwythnos yn unig:
1 mis – £10.00
3 mis – £20.00
6 mis – £30.00
12 mis – £40.00
Dydd Sul yn Unig:
1 mis – £5.00
3 mis – £10.00
6 mis – £15.00
12 mis – £20.00
Maes
Parcio
Trwydded/Tocyn
Tymor Arbennig
a Math
Tâl Cyfeiriadau Cymwys Uchafswm
nifer (os yw’n
berthnasol)
Stryd
Wellington
(Glan-yrafon)
Trwydded -
Busnes
£100 fesul trwydded
cerbyd-benodol y
flwyddyn
£150 fesul trwydded
hyblyg y flwyddyn
Stryd Wellington - y cyfan 3 fesul eiddo
cymwys
Tocyn Tymor
Arbennig -
Cymuned
£10 y tocyn tymor y
flwyddyn
Eglwys Unedig Treganna,
Heol Ddwyreiniol y Bontfaen,
Treganna Salem
Egwlys Bresbyteraidd
Cymru, Stryd y Farchnad,
Eglwys y Bedyddwyr
Calfaria Treganna, 134
Heol Ddwyreiniol y Bontfaen,
Glan-yr-afon
3 fesul eiddo
cymwys

Dyddiedig 10 Medi 2026 Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW

NEW TRAFFIC ORDERS FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF

Notice is hereby given that on the 4th September 2026 the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) and of all other enabling powers, made traffic regulation orders, the general effect of which to impose traffic restrictions in the lengths of road set out in the Schedule below. The title and nature of the Orders is also described in the said Schedule.

The Orders will come into operation on the 11th September 2026 or on the date that the necessary lines and signs are placed on site, whichever is the later.

A copy of the orders and plans showing the location and extent of the restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/ trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@ cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.

The Council welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay. This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg.

If you wish to question the Order provisions or validity on the grounds that it is not within the powers conferred by the Road Traffic Regulation Act 1984, or on the ground that any requirement of, or any instrument made under the Act, has not been complied with in relation to the Order, you may, within six weeks from the 4th September 2026 apply to the High Court for this purpose.

SCHEDULE
1) The County Council of The City and County of Cardiff (Various Roads, Cardiff) (Traffic Regulation) Order 2026 proposes to revoke and amend existing Orders and implement new restrictions to:

1. Prevent the making of a U turn in:
a) Callaghan Square (at its junction with Bute Street) from its eastbound carriageway into its westbound carriageway b) Callaghan Square (at its junction with St Mary Street) from its westbound carriageway into its eastbound carriageway c) Herbert Street (at its junction with Bute Street) from its westbound carriageway into its eastbound carriageway d) Tresillian Way (at its junction with St Mary Street) from its eastbound carriageway into its westbound carriageway e) Herbert Street (at its junction with Lloyd George Avenue) i) from its eastbound carriageway into its westbound carriageway and ii) from its westbound carriageway into its eastbound carriageway f) Penarth Road (at its junction with Tresillian Terrace and Tresillian Way) from its westbound carriageway into its eastbound carriageway

2. Prevent any vehicle (other than Buses, Taxis, Private Hire Vehicles, and Authorised Vehicles) from proceeding in any other direction than straight ahead in St Marys Street (southeast bound) at its junction with Mill Lane/Custom House Street/ Saunders Road

3. Introduce a compulsory left hand turn from a) St Mary Street (southbound) into Callaghan Square, and b) Bute Street (southbound) into Herbert Street

4. Prevent any vehicle from proceeding in any direction other than:
a) southbound in Penarth Road from its junction with Saunders Road to its junction with Tresillian Way and Tresillian Terrace
b) South-east bound in Bute Street from a point 12 metres south-east of its junction with John Street to its junction with Herbert Street

5. Prevent any vehicle (other than a Tramcar) from proceeding along the Tramways in:
a) Bute Street on its northeast side from its junction with Callaghan Square for a distance of 160 metres south (to the limits of the highway), and b) Callaghan Square on its southeast side between its junctions with St Mary Street and Bute Street c) Penarth Road on its northwest side from its junction with Penarth Road for a distance of 35 metres west (to the limits of the highway), and d) Tresillian Way on its northwest side between its junctions with Penarth Road and St Mary Street

6. Prevent pedestrians from proceeding along:
a) Tresillian Way on its northwest side within the Tramway from its junction with Penarth Road to its junctions with Callaghan Square and St Mary Street, b) Bute Street within the Tramway on its east side from its junction with Herbert Street for a distance of 50 metres southeast, and from a point 55 metres southeast of the same junction to the limits of the highway

7. Establish Bi-directional Cycle Tracks and prevent any vehicle other than a non-mechanically propelled pedal cycle to proceed along the Cycle Tracks in:
a) Bute Street on its southwest side from its junction with Callaghan Square for a distance of 40 metres southeast, b) Callaghan Square on its southeast side from its junction with St Mary Street to its junction with Bute Street, c) Lloyd George Avenue on its west side from a point 5 metres south of its junction with Herbert Street for a distance of 50 metres south, d) St Mary Street on its northeast side from a point 10 metres southeast of its junction with Custom House Street to its junction with Callaghan Square, and e) Tresillian Way on its southeast side from its junction with Callaghan Square to its junction with Tresillian Terrace

8. Prevent any vehicle (other than Buses, Taxis, Private Hire Vehicles, Permit Holders and vehicles requiring access to Off-Street Premises) from proceeding along Custom House Street on both sides from its junction with Bute Street and Bute Terrace for a distance of 100 metres west

9. Establish a Bus Gate and prevent any motor vehicle (other than Buses, Taxis, Private Hire Vehicles and Authorised Vehicles) from proceeding along Custom House Street on both sides from its junction with St Marys Street for a distance of 64 metres east

2) THE COUNTY COUNCIL OF THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF (OFF-STREET PARKING PLACES) ORDER 2025 (AMENDMENT NO.1) ORDER 2026 will amend the County Council of the City and County of Cardiff (Off-Street Parking Places) Order 2025 to introduce a maximum stay of 4 hours in Llandaff Fields, Severn Road, and Wellington Street Car Parks and introduce tariff charges for Wellington Street Car Park as set out in schedule 2 below.

Schedule 2

Car Park &
Ward
Hours of
Operation
Charging Hours and
Conditions
Tariff Band C Season Tickets
Wellington
Street
(Riverside)
At all times 9am – 6pm
Monday to Sunday
(4 hours maximum stay, no
return within 2 hours)
Monday to Saturday:
30 mins – Free
1 hour - £1.00
2 hours – £2.00
3 hours - £3.50
4 hours - £5.00
Over 4 hours - £6.50
Sundays:
30 mins – Free
4 hours - £1.50
Over 4 hours – £2.50
Monday to Friday:
1 month – £100.00
3 months – £280.00
6 months – £560.00
12 months – £1,120.00
Monday to Sunday:
1 month – £125.00
3 months – £350.00
6 months – £680.00
12 months – £1,300.00
Weekends Only:
1 month – £10.00
3 months – £20.00
6 months – £30.00
12 months – £40.00
Sundays Only:
1 month – £5.00
3 months – £10.00
6 months – £15.00
12 months – £20.00

Car Park Permit/Special
Season Ticket &
Type
Charge Eligible Addresses Maximum
Number (if
applicable
Wellington
Street
(Riverside)
Permit - Business £100 per vehiclespecific
permit per
year
£150 per flexi
permit per year
Wellington Street - all 3 per eligible
property
Special Season Ticket
- Community
£10 per season
ticket per year
Canton Uniting Church,
Cowbridge Road East,
Canton Salem Egwlys
Bresbyteraidd Cymru,
Market Road, Canton
Calvary Baptist Church,
134 Cowbridge Road East,
Riverside
3 per eligible
property

10 September 2026 Director of Governance & Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association