Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Flintshire - Temporary Road Closures & Speed Limit Changes

CH7Published 28/08/26
The Leader • 

What is happening?

HYSBYSIAD O ORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

RHYDYMWYN - 7.00PM TAN 5.00AM

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffyrdd canlynol yn Rhydymwyn yn Sir y Fflint:

  1. Yr A541 rhwng ei chyffyrdd â Dolfechlas Road a Blackbrook;
  2. Y B5123, yn union o’i chyffordd â’r A541 am bellter bras o 300 metr.

Y rheswm dros gau’r ffyrdd yw er mwyn hwyluso gwaith i roi wyneb newydd arnynt a gwaith cysylltiedig gan Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint.

Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr ar bob adeg wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Daw’r Gorchymyn i rym ar 2 Medi 2026. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau rhwng 7.00pm a 5.00am am dair wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint

Dyddiedig 28 Awst 2026

RHYBUDD O WNEUD

GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT

(B5123 RHOSESMOR I BERTH DDU) (FFORDD GYFYNGEDIG, TERFYN CYFLYMDER 20MYA A 40MYA) 2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd trwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 25 Awst 2026 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82, 84 a Rhan IV o Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a fydd yn:-

a) Gosod terfyn cyflymder Ffordd Gyfyngedig (20mya) ar y darnau o ffyrdd a nodir yn Atodlen 1 yr hysbysiad hwn;

b) Gosod terfyn cyflymder o 20mya drwy Orchymyn ar y darnau o ffyrdd a nodir yn Atodlen 2 yr hysbysiad hwn;

c) Gosod terfyn cyflymder o 40mya ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 3 yr hysbysiad hwn.

d) Mae Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (B5123 Rhosesmor i Berth Ddu) (Ffordd gyfyngedig a Therfyn Cyflymder 40 mya) (Dirymu) 2015, drwy hyn yn cael ei ddirymu yn gyfan gwbl.

Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 1 Medi 2026, cynlluniau’n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros wneud y Gorchymyn i’w gweld yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell yr Wyddgrug, Earl Road, Yr Wyddgrug CH7 1AP yn ystod oriau agor neu fe allwch eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy e-bostio transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352701234.

ATODLEN 1

Ffordd Gyfyngedig

a. Ffordd y Wern: o’i chyffordd â’r B5123 (Tiger Tim), i bwynt sydd 165 metr tua’r gogledd-orllewin.

b. Ffordd ddienw (U191): o’i chyffordd â’r B5123 (gyferbyn â’r Gofeb Ryfel) mewn cyfeiriad gorllewinol hyd at ei chyffordd â ffordd sy’n arwain at Gwern y Gaer, pellter o 123 metr.

c. Village Road: o’i chyffordd â’r B5123, am bellter o 57 metr i gyfeiriad y dwyrain.

d. Ffordd gyswllt rhwng y B5123 a Village Road ar ei hyd cyfan.

e. B5123 Prif Ffordd: o bwynt sydd 100 metr i’r de o’i chyffordd â Ffordd y Wern, (Tiger Tim) i bwynt sydd 123 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Village Road.

f. Ffordd Gwen y Gaer (O’r B5123 i Ty Gwyn): o’i chyffordd â’r B5123 i bwynt sydd 385 metr tua’r gorllewin.

g. Ffordd Ddienw (O’r B5123 i The Beeches): o’i chyffordd â’r B5123, i bwynt sydd 232 metr tua’r dwyrain.

ATODLEN 2

Terfyn Cyflymder 20mya

a. Ffordd y Wern: o bwynt sydd 165 metr tua’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â’r B5123 (Tiger Tim) i bwynt sydd 369 metr tua’r gogledd-orllewin.

b. Ffordd gyswllt ddienw rhwng y B5123 a’r Ffordd y Wern, (gyferbyn â thafarn y Red Lion): ar ei hyd cyfan, pellter o 60 metr.

c. Ffordd gyswllt ddi-enw rhwng y B5123 a’r Ffordd y Wern, ar ei hyd cyfan, pellter o 325 metr.

d. Ffordd Ddienw (O’r B5123 i The Beeches): o bwynt sydd 232 metr o’i chyffordd â’r B5123 tua’r dwyrain, i bwynt sydd 265 metr yn ddwyrain.

ATODLEN 3

Terfyn Cyflymder 40mya

a. B5123: O bwynt sydd 123 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Village Road, i bwynt sydd 123 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Shone’s Lane.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.

Dyddiedig 28 Awst 2026

*]:pointer-events-auto R6Vx5W_threadScrollVars scroll-mb-[calc(var(--scroll-root-safe-area-inset-bottom,0px)+var(--thread-response-height))] scroll-mt-[calc(var(--header-height)+min(200px,max(70px,20svh)))]" data-turn-id-container="request-WEB:0c606c6e-b56b-4aec-a0bc-5ff637f96b7a-102" data-turn="assistant" data-testid="conversation-turn-4" data-turn-id="request-WEB:0c606c6e-b56b-4aec-a0bc-5ff637f96b7a-102">

RHYBUDD O WNEUD

GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (FFYRDD AMRYWIOL) (TERFYNAU CYFLYMDER

20MYA, 30MYA, 40MYA, 50MYA A THERFYNAU CYFLYMDER CENEDLAETHOL

FFYRDD CYFYNGEDIG A HEB GYFYNGIAD)

(A541, B5121, FFORD D Y PENTRE, WHEELER HILL, SCHOOL LANE A PEN Y FELIN ROAD,

NANNERCH) (FFYRDD CYFYNGEDIG, TERFYN CYFLYMDER 20MYA, 40MYA) (DIWYGIAD RHIF 28) 2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd trwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 25 Awst 2026 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82 a 84 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfyngedig a heb Gyfyngiad) 2023, i gyflwyno:

a) Gosod terfyn cyflymder Ffordd Gyfyngedig (20mya) ar y darnau o ffyrdd a nodir yn Atodlen 1 yr hysbysiad hwn;

b) Gosod terfyn cyflymder o 20mya drwy Orchymyn ar y darnau o ffyrdd a nodir yn Atodlen 2 yr hysbysiad hwn;

c) Gosod terfyn cyflymder o 40mya drwy Orchymyn ar y darnau o ffyrdd a nodir yn Atodlen 3 yr hysbysiad hwn;

Y Gorchymyn yn diddymu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Village Road, School Lane a Wheeler Hill, Nannerch) (Terfyn Cyflymder 20mya) 2023 a Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (A541 Nannerch a B5121 Licswm i Nannerch) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2015, yn ei gyfanrwydd ac yn cael ei ymgorffori mewn i Orchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (Terfynau Cyflymder 20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol Ffyrdd Cyfyngedig a Heb Gyfyngiad) 2023.

Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 10 Medi 2026, cynlluniau’n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros wneud y Gorchymyn Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell yr Wyddgrug, Heol yr Iâl, Yr Wyddgrug CH7 1AP yn ystod oriau agor neu fe allwch eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy e-bostio transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352701234.

ATODLEN 1

Ffordd Cyfyngedig

Pen y Felin Road, Nannerch:

O’r gyffordd gyda Ffordd y Pentre am bellter o 115 metr i gyfeiriad y gorllewin.

ATODLEN 2

Terfyn Cyflymder 20mya

Pen y Felin Road, Nannerch:

O bwynt 115 metr i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Ffordd y Pentre am bellter o 190 metr i gyfeiriad y gorllewin.

Wheeler Hill, Nannerch, o bwynt 291 metr i’r de o’i chyffordd â’r A541 am bellter o 276 metr i gyfeiriad y de.

Ffordd y Pentre, Nannerch, o bwynt 25 metr i’r de o’r gyffordd â Phen y Coed, am bellter o 156 metr i gyfeiriad y de.

Lôn yr Ysgol, Nannerch, ei chyffordd â Ffordd y Pentre ar ei hyd.

ATODLEN 3

Terfyn Cyflymder 40mya

A541 Nannerch, o bwynt 190 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd gyda’r B5121 am bellter o 900 metr, i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

B5121 Licswm, o bwynt 61 metr i’r de o’i chyffordd gyda Ffordd Y Graig, Licswm i’w chyffordd gyda’r A541, Nannerch.

Wheeler Hill, Nannerch, o’i chyffordd gyda’r A541 am bellter o 291 metr i gyfeiriad y de.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug,

Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.

Dyddiedig 28 Awst 2026

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at:

classifiednwne@localiq.co.uk

01925 596444

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association