Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Lôn Brwynog, Llanfechell - Temporary Prohibition Of Traffic For New Service Connection
What is happening?
RHYBUDD O FWRIAD
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD, 1984 ADRAN 14(1)
FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH FFYRDD
(CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO)
(LÔN BRWYNOG, LLANFECHELL) 2026
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro pob cerbyd, ac eithrio cerbydau argyfwng, rhag teithio mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd Lôn Brwynog, Llanfechell.
Mae angen y Gorchymyn er mwyn galluogi gwaith Dŵr Cymru - cysylltiad gwasanaeth newydd.
Y ffordd arall fydd o ben gogleddol y ffordd sydd ar gau. Teithiwch i gyfeiriad y gorllewin at yr A5205 a throwch i’r chwith. Ewch ar hyd yr A5025 i gyffordd y Black Lion yn Llanfaethlu a throwch i’r chwith i Lôn Mynydd Adda. Yna, ewch i gyfeiriad y de-ddwyrain ar hyd Lôn Mynydd Adda i Landdeusant a throwch i’r chwith i Lôn Plas Newydd.
Wedyn, ewch i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd Lôn Plas Newydd at y gyffordd â Lôn Brwynog a throwch i’r chwith.
Ewch ar hyd Lôn Brwynog i ben arall y ffordd sydd ar gau. Mae’r un peth yn berthnasol i draffig sy’n teithio o’r cyfeiriad arall.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 22ain Medi 2026 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd yn fwy na 6 wythnos neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar 22ain Medi 2026.
NOTICE OF INTENTION
ROAD TRAFFIC REGULATION ACT, 1984 SECTION 14(1)
AS AMENDED BY THE ROAD TRAFFIC
(TEMPORARY RESTRICTIONS) ACT, 1991
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(TEMPORARY PROHIBITION OF THROUGH TRAFFIC)
(LÔN BRWYNOG, LLANFECHELL) ORDER 2026
NOTICE IS HEREBY GIVEN that Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council intend not less than seven days from the date hereof to make an Order, the effect of which will temporarily prohibit all vehicles, except for emergency vehicles, from travelling in either direction along Lôn Brwynog, Llanfechell.
The Order is necessary to enable Dŵr Cymru works - new service connection.
The alternative route will be from the northern point of the road closure. Travel in a westerly direction to the A5205 and turn left. Proceed along the A5025 to the Black Lion junction in Llanfaethlu and turn left onto Lôn Mynydd Adda.
Then proceed in a south easterly direction along Lôn Mynydd Adda to Llanddeusant and turn left onto Lôn Plas Newydd. Then proceed in a north easterly direction along Lôn Plas Newydd to the junction with Lôn Brwynog and turn left.
Proceed along Lôn Brwynog to the opposite end of the road closure. Vice versa for traffic travelling from the opposite direction.
The Order comes into effect on 22nd September 2026 and will continue in force for a period not exceeding 6 weeks or until the work which it is proposed to carry out on the road is completed, whichever is the earlier. At this stage it is anticipated that the works will be completed on 22nd September 2026.
DYDDIEDIG 02/09/2026 DATED
...................................................
LYNN BALL
CYFARWYDDWR SWYDDOGAETH (BUSNES Y CYNGOR)/SWYDDOG MONITRO
DIRECTOR OF FUNCTION (COUNCIL BUSINESS)/MONITORING OFFICER
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
SWYDDFA’R SIR/COUNTY OFFICES, LLANGEFNI, YNYS MÔN LL77 7TW
AM FWY O WYBODAETH YNGLYN Â’R UCHOD CYSYLLTWCH Â’R
ADRAN GYFREITHIOL AR / FOR FURTHER INFORMATION REGARDING
THE ABOVE PLEASE TELEPHONE THE LEGAL SECTION ON
LLANGEFNI 01248 752389 HT-027863-SMJ.
Croeso i chi ddelio gyda’r Cyngor yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Cewch yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.
You are welcome to deal with the Council in Welsh or English.
You will receive the same standard of service in both languages.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Bangor & Holyhead Mail directly at: