Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Caerdydd - Gwaharddiadau A Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho A Mannau Parcio Ar Y Stryd Gorchymyn
What is happening?
GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU STOPIO, AROS, LLWYTHO A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (CYDGRYNHOI) 2024 (DIWYGIAD RHIF 23) GORCHYMYN 2026
Rhoddir Hysbysiad drwy hyn ar 20 Awst 2026 y gwnaeth Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), a’r holl bwerau galluogi eraill, orchmynion rheoli traffig fydd yn diwygio Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwahardd a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 i osod cyfyngiadau traffig fel y disgrifir ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.
Daw’r Gorchmynion i rym ar 25 Awst 2026 neu ar y dyddiad y caiff y llinellau a’r arwyddion angenrheidiol eu gosod ar y safle, pa bynnag un sydd hwyraf.
Bydd y canlynol yn berthnasol i breswylwyr cymwys sy’n dymuno gwneud cais am Drwyddedau Parcio Preswylwyr. Ni chaniateir mwy na 3 trwydded i bob eiddo (gydag un ohonynt yn Drwydded Ymwelwyr) a bydd cost trwyddedau o’r fath yn unol â Gorchymyn (Cydgrynhoi) (Gwahardd A Chyfyngu Stopio, Aros, Llwytho A Mannau Parcio Ar Y Stryd) Cyngor A Dinas Caerdydd 2024 Atodlen 4 sydd am y tro fel a ganlyn:
| Math o Drwydded | Ffi a Godir am bob trwydded a roddir | Uchafswm nifer y trwyddedau fesul eiddo cymwys |
|---|---|---|
| Trwydded Preswylydd | Trwydded 1af: £35.00 y flwyddyn 2il Drwydded: £90.00 y flwyddyn |
Dau |
| Trwydded Ymwelwyr i Breswylwyr |
£35.00 am bob 850 o oriau | 5,100 awr |
| Trwydded Ymwelwyr Hygyrch i Breswylwyr |
£35.00 (yn ddilys am 12 mis) | Un (yn lle Trwydded Ymwelwyr i Breswylwyr) |
| Trwydded Fusnes (Penodol i Gerbyd) |
Trwydded 1af - Cerbydau Allyriadau Isel - £90.00 / Cerbydau 2il Drwydded - Cerbydau Allyriadau Isel - £200.00 Gordal ar gyfer injans disel nad ydynt yn cydymffurfio â |
Dwy (yn lle Trwydded Fusnes nad yw’n Benodol i Gerbyd) |
| Trwydded Fusnes (Ddim yn Benodol i Gerbyd) |
Trwydded 1af - £220 2il drwydded - £330 |
Dwy (yn lle Trwydded Fusnes sy’n Benodol i Gerbyd) |
| Trwydded Gymunedol | £35 fesul trwydded | Pedwar |
Bydd y ffioedd canlynol yn berthnasol i barcio mewn mannau parcio Talu ac Aros oni bai bod trwydded ddilys yn cael ei dangos:CF24
| Lleoliad | Cyfnod Tâl | Tariff | Oriau Codi Tâl |
|---|---|---|---|
| Talu ac Aros Bws yn Unig | 1 awr 2 awr 4 awr 24 awr |
£2.00 £4.00 £6.00 £14.00 |
Ar bob adeg |
| Talu ac Aros Bws yn Unig | 1 awr 2 awr 3 awr 4 awr |
£2.00 £4.00 £6.00 £8.00 |
Dydd Llun i ddydd Sul 8am – 10pm |
| Parthau C1, C2, C3, C4 a C5 | 1 awr | £0.00 | Fel y nodwyd yn yr Atodlen |
Mae copi o’r gorchmynion a’r cynlluniau sy’n dangos lleoliad a graddfa’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/gorchmyniontraffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
Os ydych am gwestiynu darpariaethau neu ddilysrwydd y Gorchymyn ar y sail nad ydynt o fewn y pwerau a ddyfarnwyd gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, neu unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, mewn perthynas â’r Gorchymyn, gallwch, o fewn chwe wythnos i 20 Awst 2026 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.
ATODLEN
1. Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg yn:
a) Heol Woodville ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol y Crwys am 19 metr i’r de-orllewin
b) Catherine Street ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 20 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Fanny Street i bwynt 47 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol Woodville
c) Rhymney Terrace ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 66 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Richards Street am 3 metr i’r de-ddwyrain
d) Harriet Street ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 21 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Wyeverne Road am 4 metr i’r gogledd-ddwyrain
e) Heol Salisbury ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Rhymney Street Spur am 8 metr i’r de-ddwyrain
f) Heol y Maendy i) ar ochr y de-orllewin o bwynt 93 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd ymwthiol â Minister Street am 30 metr i’r gogledd-orllewin, ii) ac o bwynt 12 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd ymwthiol â Minister Street am 76 metr i’r deddwyrain, a iii) o bwynt 240 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â’r Lôn tu ôl i 1 Maendy Road i 112 Heol y Gogledd am 26 metr i’r de-ddwyrain, iv) ac ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Minister Street am 26 metr i’r de-ddwyrain
g) Dalton Street ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 6 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Minny Street i bwynt 5 metr i’r gogleddddwyrain o’r un gyffordd
h) Heol y Maendy i) ar ochr y gogledd a’r de i’w hynys draffig o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol Maendy ii) ar ochr y de-orllewin o bwynt 6 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Maindy Lane North am 6 metr i’r gogledd-orllewin
i) Lôn y tu ôl i 85-139 Heol y Maendy drwy gydol y darn o’r briffordd fabwysiedig
j) Gelligaer Street i) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 20 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol yr Eglwys Newydd am 4 metr i’r de-orllewin a ii) o bwynt 148 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Heol y Maendy am 3 metr i’r gogledd-ddwyrain
k) Gerddi Gelli-gaer ar y ddwy ochr o ben gogledd-ddwyreiniol Gerddi Gelli-gaer am 3 metr i’r de-orllewin
l) Lôn i’r tu ôl i 1 i 91 Cosmeston Street i) ar y ddwy ochr or’ fynedfa i lonydd gatiau ger 2 Gerddi Gelli-gaer i’r fynedfa ilôn gatiau ger 1 Gerddi Gelligaer, ii) ar y ddwy ochr o’i fynedfa â gât ger 2 Gerddi Rhigos i’w fynedfa gât ger 1 Gerddi Rhigos, a
m) Gerddi Rhigos i) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 23 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Cosmeston Street hyd at bwynt 11 metr i’r de-orllewin o’r un gyffordd
ii) ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 23 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Cosmeston Road i bwynt 11 metr i’r de-orllewin o’r un
gyffordd
n) Pentyrch Street i) ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 62 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Birthdir Street am 9 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Cwmdare Street am 6 metr i’r de-orllewin ii) ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 61 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Brithdir Street am 9 metr i’r de-orllewin
o) Heol y Dderwen Deg i) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 32 metr i’r gogledd-ddwyrain o linell cwrbyn estynedig gogleddddwyrain Hazeldale Avenue am 28 metr i’r gogledd-ddwyrain, a ii) o bwynt 1 metr i’r gogledd-ddwyrain o fynedfa Mynwent Cathays am 8 metr i’r gogledd-ddwyrain
p) Bruce Street i) ar ochr y de-orllewin o’r gyffordd â Heol y Dderwen Deg am 5 metr i’r de-ddwyrain, a ii) ar ochr y gogleddddwyrain o’r gyffordd â Heol y Dderwen Deg am 13 metr i’r de-ddwyrain
q) Rhymney Street ar ochr y gorllewin o bwynt 45 metr i’r gogledd o’r pen caeëdig am 5 metr i’r gogledd ac ar ochr y dwyrain o bwynt 37 metr i’r de o’r gyffordd â Fitzroy Street am 23 metr i’r de
2. Eich atal rhag aros rhwng 8am a 6pm yn:
a) Heol Woodville i) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 3 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Flora Street hyd at bwynt 3 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Minny Street, ii) ac o bwynt 3 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Minny Street hyd at bwynt 3 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â May Street, a iii) o bwynt 3 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â May Street am 40 metr i’r gogledd-ddwyrain
b) Lôn o Catherine Street i) ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Catherine Street am 25 metr i’r de-orllewin, ii) ac ar ei hyd o gefn rhifau 5 – 19 Heol Woodville, a iii) ar ochr y de-orllewin o gornel gogledd-orllewin man parcio Catherine Street [FB1.1]am 13 metr i’r de-ddwyrain
c) Lôn o Flora Street i Letty Street ar y ddwy ochr ar ei hyd
d) Lôn o Letty Street i Flora Street ar y ddwy ochr ar ei hyd
e) Rhymney Terrace i) ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 42 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Richards Street am 13 metr i’r de-ddwyrain, a ii) ar ochr y de-orllewin o bwynt 43 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Richards Street am 18 metr i’r deddwyrain
f) Merthyr Street ar ochr y de-orllewin o bwynt 18 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Llantrisant Street am 25 metr i’r deddwyrain
g) Heol y Maendy ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 32 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Maindy Mews am 6 metr i’r deddwyrain
h) Maindy Mews ar y ddwy ochr ar hyd y briffordd fabwysiedig
i) Lôn o Dalton Street i Fanny Street ar y ddwy ochr ar ei hyd
j) Fanny Street ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 43 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol y Crwys am 4 metr i’r de-orllewin
k) Dalton Street i) ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 24 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â May Street am 7 metr i’r gogleddddwyrain, a ii) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 22 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Flora Street am 12 metr i’r gogledd-ddwyrain
l) Hirwain Street i) Ar ochr y dwyrain o bwynt 55 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Daran Street am 6 metr i’r de ii) Ar ochr y de o
bwynt 168 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Merthyr Street am 5 metr i’r de
m) Lôn o Hirwain Street i Darren Street ar y ddwy ochr ar ei hyd
n) Lôn o Whitchurch Place ar hyd ei hyd
o) Whitchurch Place ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 20 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol y Crwys am 11 metr i’r deorllewin
p) Gelligaer Street ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 15 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol yr Eglwys Newydd i’r gyffordd â
Gelligaer Lane
q) Gelligaer Lane ar y ddwy ochr drwy gydol y briffordd fabwysiedig
r) Stryd Cwmdâr ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 41 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Pentyrch Street am 28 metr i’r
gogledd-orllewin
s) Lôn y tu ôl i 97 i 143 Heol Allensbank ar y ddwy ochr ar ei hyd
t) Banastre Avenue ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 48 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Heol yr Eglwys Newydd am
38 metr i’r gogledd-ddwyrain
3. Eich atal rhag aros rhwng 8am a 6:30pm yn Miskin Street ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 113.6 metr i’r gogleddddwyrain o’r gyffordd â Heol Senghennydd am 11 metr i’r de-ddwyrain
4. Eich atal rhag aros a llwytho ar unrhyw adeg yn:
a) May Street i) ar ochr y gogledd o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Theras Cathays am 30 metr i’r dwyrain, a ii) ar ochr y de o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Theras Cathays am 13 metr i’r dwyrain
b) Teras Cathays i) ar ochr y dwyrain o’r gyffordd â May Street am 4 metr i’r de a 15 metr i’r gogledd, a ii) ar ochr y gorllewin o bwynt 7 metr i’r gogledd o’r gyffordd â Llantrisant Street am 20 metr i’r gogledd
c) Ffordd Fynediad Gwesty’r Hilton Ffordd y Brenin i) Ar ochr y de o’r gyffordd â Heol Tŷ’r Brodyr am 4 metr i’r gorllewin. ii) ar ochr y de o bwynt 24 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Heol Tŷ’r Brodyr am 11 metr i’r gogledd. iii) Ar ochr y gogledd o’r gyffordd â Heol Tŷ’r Brodyr i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
d) Gelligaer Street i) ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 5 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol yr Eglwys Newydd am 10 metr i’r de-orllewin ac ii) ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 5 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol yr Eglwys Newydd am 8 metr i’r de-orllewin
e) Heol y Porth ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Guildhall Street am 15 metr i’r gogledd-orllewin
f) Stryd Millicent ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Mary Ann am 15 metr i’r de-orllewin
g) Stryd y Gamlas ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 1 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôn y Felin am 14 metr i’r gogleddddwyrain
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: