Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Flintshire - Multiple Traffic Notices, Temporary Closure
What is happening?
DEDD F GYNULLUNIO (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) 1990
DEDD F YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL (CYMRU) 2023
RHEOLIADAU ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH (GWEITHDREFN A CHYFRADD LLOG) (CYMRU) 2024
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/ceisiadau a ganlyn wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y ddeddfwriaeth uchod.
FUL/651/26 – Newid Defnydd: Dosbarth A1 i Ddosbarth A3 (Caffi). Mae’r eiddo gwag, a oedd yn arfer bod yn siop garpedi, yn destun cais i newid y defnydd o Ddosbarth A1 (Manwerthu) i Ddosbarth A3 (Caffi) yn 6A, Stryd Fawr, Caergwrle. (Mae’r datblygiad hwn yn effeithio ar gymeriad neu ymddangosiad Ardal Gadwraeth).
Gall aelodau o’r cyhoedd archwilio copi o’r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 11 Medi 2026 ar ein gwefan sef https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau ynglyn â’r cais uchod wneud hynny’n rhwydd ar-lein, trwy e-bost at planning.consultation@flintshire.gov.uk neu yn ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF gan nodi’r cyfeirnod perthnasol erbyn 11 Medi 2026.
David Fitzsimmon, Prif Swyddog (Lle a Phobl) ar ran Cyngor Sir y Fflint
Dyddiedig 21 Awst 2026
HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWYODD DROS DRO
DEDD F RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
CAERWYS
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, heb fod yn gynt na saith diwrnod ar ôl 21 Awst 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Pen-y-Cefn Lane, rhwng ei chyffordd â chroesffordd Croes-wian a Drovers Lane yn Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd er mwyn gosod sgaffaldiau i atgyweirio eiddo preifat. Mae’r cais wedi’i gyflwyno gan Rent a Pump Traffic Management.
Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bo’r cyfyngiad mewn grym.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu pythefnos, oni chwbwlheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
AB/3944028
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDD F RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
YR HÔB
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, ddim cynt na 7 diwrnod o 21 Awst 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Willow Avenue, rhwng ei chyffordd â Queensway, Yr Hôb, yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros y cyfyngiad yw er mwyn i Wales and West Utilities osod prif gyflenwad nwy newydd a gwaith cysylltiedig.
Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bo’r cyfyngiad mewn grym.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu 11 wythnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
AB/3943300
HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDD F RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
PENARLÂG
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, heb fod yn gynt na saith diwrnod ar ôl 21 Awst 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Cottage Lane, rhwng ei chyffordd â’r A550 Gladstone Way a Mancot Lane, Penarlâg yn Sir y Fflint.
Mae angen cau’r ffordd er mwyn i PN Daly Ltd allu gosod pibellau nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig ar gyfer datblygiad Gladstone Way.
Bydd arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bo’r cyfyngiad mewn grym.
Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu 3 wythnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
AB/3947012
RHYBUDD O YMESTYN GORCHYMYN GWAHARDD CERDDWYR DROS DRO
DEDD F RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (LLWYBR CYHOEDDUS 27 YNG NGHYMUNED LLANASA) (GWAHARDD CERDDWYR DROS DRO) 2026
Daeth y Gorchymyn uchod i rym ar 6 Mawrth 2026 am gyfnod o 6 mis, hyd at 9 Medi 2026, gan gynnwys y dyddiad hwnnw, ac mae’r Gorchymyn wedi’i ymestyn gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru hyd 5 Medi 2028, gan gynnwys y dyddiad hwnnw.
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod y Gorchymyn uchod a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint ar 6 Mawrth 2026 wedi’i ymestyn gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a bydd yn dal mewn grym tan 4 Mawrth 2027, gan gynnwys y dyddiad hwnnw, neu hyd nes y cwblheir y gwaith, pa bynnag un sydd gyntaf.
Mae’r Gorchymyn yn gwahardd cerddwyr rhag defnyddio’r rhan honno o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 27 yng Nghymuned Llanasa o bwynt yn NGR 312530 383950 am bellter o tua 640 metr i gyfeiriad y de ac yna’n troi i gyfeiriad y gorllewin i’r gyffordd gyda Llwybr Troed Cyhoeddus rhif 48 yn NGR 312070 383770.
Mae angen cau’r llwybr er mwyn parhau i hwyluso ardal adeiladu sy’n gysylltiedig ag ailddatblygiad terfynell ENI y Parlwr Du fel rhan o Gynllun Dal Carbon Bae Lerpwl. Mae llwybr amgen ar gael.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint
AB/FCC3418276
RHYBUDD O WNEUD
GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (FFYRDD AMRYWIOL) (TERFYN CYFLYMDER 20MYA, 30MYA, 40MYA, 50MYA A THERFYNAU CYFLYMDER CENEDLAETHOL-FFYRDD CYFYNGEDIG A HEB GYFYNGIAD)
(WEPRE LANE, CEI CONNAH)
(TERFYN CYFLYMDER 30MYA) (DIWYGIAD RHIF 26) 2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd drwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 18 Awst 2026 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82 (2) (a), a 84 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol-ffyrdd Cyfyngedig a heb Gyfyngiad) 2023, i gyflwyno:
a) Terfyn cyflymder o 30mya ar:
Wepre Lane: o bwynt 115 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Maes Uchaf at bwynt 32 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Mountain View Close.
Bydd y Gorchymyn, caiff ei wneud yn ddiddymu Cyngor Sir y Fflint (Wepre Lane, Cei Connah) (Terfyn Cyflymder 30mya) (Gorchymyn) 2019 yn ei gyfanrwydd a bydd yn cael ei gydgrynhoi yng Ngorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol Ffyrdd Cyfyngedig a Heb eu Cyfyngu) 2023.
Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a’r Terfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfyngedig a Heb Gyfyngiad) 2023 yn parhau mewn grym.
Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 04 Medi 2026, cynlluniau’n dangos y ffordd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros wneud y Gorchymyn, yn ystod oriau agor arferol yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah CH5 4HA. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar ein gwefan ar www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 701234.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.
HYSBYSIAD O GWNEUD
WEPRE LANE, PARC FIELD, CEI CONNAH
GWAHARDDIAD AR AROS AR UNRHYW ADEG
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn ar 18 Awst 2026 drwy arfer ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Deddf Rheoli Traffig 2004, Rhan IV o Atodlen 9, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio) (Gorchodaeth Sifil ac Atgyfnerthu) 2013, i:-
- Gyflwyno cyfyngiadau ‘Dim Aros ar Unrhyw Adeg’:-
a. Yng nghyffordd Parc Field gyda Wepre Lane, Cei Connah.
b. Mewn lleoliadau amrywiol ar ddwy ochr Wepre Lane, Cei Connah.
Ym mhob ffordd arall, bydd darpariaethau presennol ‘Gorchymyn (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Gorfodaeth Sifil a Chydgrynhoi) Cyngor Sir y Fflint 2013’ yn parhau mewn grym.
Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 04 Medi 2026, cynlluniau’n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros wneud y Gorchymyn, gellir eu harchwilio yn ystod oriau agor arferol Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HA. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar-lein ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 701234.
Os ydych chi’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaethpwyd dan o ran y Gorchymyn, fe allwch, o fewn chwe wythnos o ddyddiad y Gorchymyn, wneud cais i’r Uchel Lys, i’r pwrpas hwn.
Dyddiedig 21 Awst 2026
Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: