Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Menai Suspension Bridge, Gwynedd & Anglesey - Temporary Prohibition of Vehicles
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A5 (PONT MENAI, GWYNEDD AC YNYS MÔN) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 16A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn cynnal digwyddiad i ddathlu pen-blwydd 200 mlwydd oed Pont Menai ar gefnffordd yr A5, neu gerllaw iddi, rhwng Bangor, Gwynedd a Phorthaethwy, Ynys Môn.
Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y digwyddiad, rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A5 sy’n ymestyn o’i chyffordd â Chylchfan Ffordd Caergybi (Tafarn yr Antelope), Bangor hyd at ei chyffordd ag ochr ddeheuol Cylchfan Ffordd Caergybi/ Dale Street/ Ffordd Pentraeth (B5420) (a elwir yn lleol fel Cylchfan Britannia), Porthaethwy, gan gynnwys y gilfan y tu allan i Amgueddfa Pontydd y Fenai.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin o Fangor yw mynd ar yr A487 tua’r de-orllewin i Gyffordd 9 yr A55 (Cyfnewidfa Treborth), yr A55 tua’r gorllewin i Gyffordd 8A (Carreg Brân) a’r A5 tua’r dwyrain i Borthaethwy: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain o Borthaethwy.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 8 Awst 2026 a bydd yn para am 1 diwrnod ar y mwyaf.
Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol rhwng 09:30 a 17:00 o’r gloch ar y dyddiad hwnnw. Er hynny, disgwylir mai dim ond am gyfnod y parêd y bydd y darn o’r gefnffordd a elwir Ffordd Mona ar gau (30 munud i 1 awr).
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A5 TRUNK ROAD (MENAI SUSPENSION BRIDGE, GWYNEDD & ANGLESEY) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 16A of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to hold an event to celebrate the 200th Anniversary of the Menai Suspension Bridge on, or near, the A5 trunk road between Bangor, Gwynedd and Menai Bridge, Anglesey.
The effect of the Order is to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services or for the event, from proceeding on the length of the A5 trunk road that extends from its junction with Holyhead Road Roundabout (Antelope Inn), Bangor to its junction with the southern side of the Ffordd Caergybi/Dale Street/ Pentraeth Road (B5420) Roundabout (known locally as Britannia Roundabout), Menai Bridge, including the lay-by outside the Menai Bridges Museum.
The alternative route for westbound traffic from Bangor is via the south-westbound A487 to the A55 Junction 9 (Treborth Interchange), westbound A55 to Junction 8A (Carreg Brân) and eastbound A5 to Menai Bridge: vice versa for eastbound traffic from Menai Bridge.
The Order comes into force on 8 August 2026 and has a maximum duration of 1 day.
The temporary prohibition is expected to operate from 09:30 – 17:00 hours on that date. However, the length of trunk road known as Mona Road is only expected to be closed for the duration of the parade (30 minutes to 1 hour).
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: