Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Rhondda - Cyfyngiadau Aros a Llwytho
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
(LLEOLIADAU AMRYWIOL, RHONDDA CYNON TAF)
GORCHYMYN (DIRYMU, AMRYWIO, DIM STOPIO AR FARCIAU 'YSGOL – CADWCH YN GLIR': CYFYNGIADAU AROS A LLWYTHO) 2026
HYSBYSIAD (SYMUD MESURAU ARAFU TRAFFIG) 2026
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu gwneud amrywiol Gorchmynion o dan Adrannau 1, 2 a 4 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“y Ddeddf”) a phob pŵer galluogi arall, a'i effaith fydd:
1. Amrywio'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sy'n cael eu nodi yn Rhan 1 Atodlen 1, Rhan 1 Atodlen 2 a Rhan 1 Atodlen 4
2. Cael gwared ar y Marciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir' yn y lleoliadau sydd wedi'u nodi yn Rhan 2 Atodlen 1.
3. Cyflwyno Marciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir' yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi yn Rhan 2 Atodlen 2, a Rhan 1 Atodlen 3.
4. Cyflwyno cyfyngiadau aros yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi yn Rhan 3 Atodlen 2, Rhan 2 Atodlen 3 a Rhan 2 Atodlen 4.
5 . Cyflwyno cyfyngiadau llwytho yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi yn Rhannau 4,5 a 6 Atodlen 2.
DYMA HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, o dan Adrannau 90A, 90C a 90G o Ddeddf Priffyrdd 1980, Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999 a Rheoliadau Priffyrdd (Arafu Traffig) 1999, a phob pŵer galluogi, yn cynnig:
6 . Adleoli'r mesurau arafu traffig sydd wedi'u nodi yn Rhan 7 Atodlen 2.
Gellir bwrw golwg ar gopi o'r dogfennau perthnasol drwy drefnu apwyntiad ym Mhrif Swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH, mewn llyfrgelloedd perthnasol neu ar-lein – www.rctcbc.gov.uk.
Rhaid anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion arfaethedig a sylwadau am y cynigion ynghyd â'r rhesymau drostyn nhw, mewn ysgrifen, at y Rheolwr Traffig, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH, neu drwy e-bostio: YmgynghoriadauTraffig@rctcbc.gov.uk erbyn 7 Awst 2026.
ATODLEN 1
Dirymu Marciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir' mewn amrywiol leoliadau yn sgil cau / adleoli ysgolion. Mae cael gwared ar gilfach bysiau ysgol yn rhan o hyn hefyd, fel y mae cael gwared ar ran Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg sydd wedi'i lleoli y tu cefn i Ysgol Glynrhedynog
Rhan 1 – Amrywiadau
1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio yn unol â'r newidiadau canlynol:-
1. Bydd “Gorchymyn (Dim Aros Ar Unrhyw Adeg a Dim Stopio ar Farciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir) (Stryd Ann, Stryd Williams a Stryd y Groes, Cilfynydd) Rhondda Cynon Taf 2007” yn cael eu hamrywio drwy gael gwared ar Ran 2 yr Atodlen.
2. Bydd “Gorchymyn (Dirymu, Amrywio, 20mya, 30mya, Terfyn Cyflymder 60mya a Dim Stopio ar Farciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir') (Heol-y-Graig, Heol Pendarren a Stryd y Mynydd, Rhigos) Rhondda Cynon Taf 2009” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar Ran 6 yr Atodlen.
3. Bydd “(Terfyn Cyflymder 20mya a Chyfyngiadau Aros) (Strydoedd Amrywiol, Glynrhedynog) Rhondda Cynon Taf 2011” yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar Ran 3 a Rhan 4 yr Atodlen.
2. Bydd "Gorchymyn (Dim Stopio ar Farciau Ysgol – Cadwch yn Glir) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012" yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr eitemau c anlynol:-
Ardal Cwm Rhondda
Eitem 10. Teras Grovefield, Pen-y-graig
E item 19, Heol y Ficerdy, Pen-y-graig
3. Bydd "Gorchymyn Rhif 2 (Dim Stopio ar Farciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir') (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2013" yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr e itemau canlynol:-
Ardal Cwm Rhondda
Eitem 5 Teras y Darren, Glynrhedynog
Eitem 11, Cilgant y Llyn, Glynrhedynog
Eitem 15, Waun Wen, Trebanog
Rhan 2 – Cael Gwared ar Farciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir'
1. Hen Ysgol Iau Porth
a. Teras y Briallu, Porth – gerllaw Rhif 1 a 3 Y Rhodfa / Teras Leslie, Porth – o Rhif.17 Y Rhodfa i Rif 2 Teras Leslie
b. Y Rhodfa / Teras Leslie, Porth – o Rif.17 Y Rhodfa i Rif 2 Teras Leslie
c. Heol Penrhiwgwynt, Porth – gerllaw Rhif 8 a Brywenlee House
2 . Ysgol Iau a Babanod Carnetown, Abercynon
a. Heol Caerdydd, Carnetown, Abercynon – ar ochr orllewinol y ffordd sydd gyferbyn ag Eglwys Saint Dunwyd a Rhifau 85 hyd at 87
b. Heol Caersallog, Carnetown, Abercynon – ger Hen Dŷ'r Ysgol a Rhif 1
ATODLEN 2
Ar gyfer y Datblygiad Ysgol Newydd ar Lôn y Cefn a'r newidiadau i'r cyfyngiadau ar Lôn y Cefn, Y B4273 Teras G lyn-coch / Heol Ynys-y-bwl Road a Choedlan Cae-Glas, Glyn-coch, Pontypridd
Rhan 1 – Amrywiadau
1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar y Gorchymyn canlynol o'r 'Atodlen Gorchmynion':-
a. Bydd “Gorchymyn (Gwahardd Aros) (Lôn y Cefn, Glyn-coch) Rhondda Cynon Taf 1990” yn cael ei ddirymu'n gyfan gwbl
2. Bydd "Gorchymyn (Dim Stopio ar Farciau Ysgol – Cadwch yn Glir) (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012" yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr eitemau canlynol:
Ardal Taf-elái
Eitem 4, Lôn y Cefn, Glyn-coch
Eitem 9, Coedlan Cae-glas, Glyn-coch
Rhan 2 – Dim Stopio ar y marciau ffordd 'Ysgol – Cadwch yn Glir’ rhwng 8am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau yma)
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyrain, o bwynt sydd 18 metr tua'r gorllewin o'i llinell ganol â Chlos y Ddôl-las, tua'r gorllewin am bellter o 43.56 metr
R han 3 – Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 62 metr i'r gorllewin o'i chyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôllas, am bellter o oddeutu 17 metr.
b. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd gyferbyn â'i chyffordd llinell ganol a Chlos y Ddôl-las, tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 18 metr.
c. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o'i chyffordd â'r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi'r tro yn y brif ffordd tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 165 metr.
ch. Yr ochr de-ddwyreiniol, o'i chyffordd â'r B4273, Heol Ynys-y-Bwl, am bellter o oddeutu 43 metr.
d. Yr ochr de-ddwyreiniol, o bwynt sydd 5 metr tua'r gorllewin o'r ffin gyffredin rhwng rhifau 43 a 44, Lôn y C efn, tua'r de-ddwyrain am 20 metr
2. Clos y Ddôl-las
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o'i gyffordd â Lôn y Cefn tua'r de-ddwyrain am bellter o oddeutu 8 metr
3 . Y B4273, Heol Ynys-y-bwl (y rhan sydd gerllaw Teras Glyn-coch)
a. Dwy ochr y B4273, Heol Ynys-y-bwl o bwynt sydd 4 metr i'r de o'r ffin gyffredin rhwng rhifau 33 a 34 Teras Glyn-coch, tua'r gogledd am bellter o oddeutu 78 metr
Rhan 4 – Gwahardd Llwytho dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 9.30am a 2.30pm tan 4pm (Cynhwysol)
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 62 metr i'r gorllewin o'i chyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôllas, tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 17 metr.
b. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd gyferbyn â'r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl-las, tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 18 metr.
c. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o bwynt sydd 19 metr tua'r dwyrain o'r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl las, tua'r de-ddwyrain am bellter o oddeutu 110 metr.
Rhan 5 – Gwahardd Llwytho 8:00am tan 6:00pm Dydd Llun – Dydd Gwener (Cynhwysol)
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
a. Yr ochr ogledd-ddwyreiniol, o'i chyffordd â'r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi'r tro yn y gyffordd, i gyfeiriad y gorllewin am bellter o oddeutu 55 metr.
b. Yr ochr de-ddwyreiniol, o'i chyffordd a'r B4273, Heol Ynys-y-bwl, wedi'r tro yn y gyffordd tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 43 metr.
2. Y B4273, Heol Ynys-y-bwl
a. Yr ochr dde-orllewinol, o bwynt sydd 4 metr i'r de o'r ffin gyffredin rhwng rhifau 33 a 34, Teras Glyn-coch, tua'r gogledd am bellter o 78 metr
R han 6 – Gwahardd Llwytho Ar Unrhyw Adeg
1. Y B4273, Heol Ynys-y-bwl
a. Yr ochr ddwyreiniol, o bwynt sydd 4 metr i'r de i ffin gyffredin rhwng rhifau 34 a 33, tua'r gogledd am bellter o oddeutu 78 metr
Rhan 7 – Ail-leoli Mesurau Arafu Traffig
Bydd twmpath Ffordd sydd heb fod dros 100mm o ran uchder, hyd 3700mm, lled sy'n cyd-fynd â'r ffordd fydd yn cael e i adleoli:-
1 . Lôn y Cefn, Glyn-coch
Lleoliad Presennol – oddeutu 35 metr i'r gorllewin o'r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl-las L leoliad Newydd – ar bwynt sydd 62.2 metr i'r gorllewin o'r gyffordd llinell ganol â Chlos y Ddôl-las
ATODLEN 3
Ysgol Bro Taf (Ysgol Uwchradd Pontypridd) yng Nghilfynydd – Marciau ‘Ysgol – Cadwch yn Glir’ a Chyfyngiadau Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, newydd. Mae'r marciau yma yn Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion eisoes ar y f fordd sy'n arwain at fynedfa'r ysgol a'r ardaloedd â gatiau ar gyfer parcio bysiau ysgol
Rhan 1 – Dim Stopio ar y marciau ffordd 'Ysgol – Cadwch yn Glir’ rhwng 8am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (Cynhwysol)
1 . Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion (Y ffordd yn union y tu allan i'r ysgol)
a. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 4 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o 25.56 metr
b. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 42 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o 31.56 metr
c. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 100 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o 25.56 metr
ch. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 126.5 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o 25.56 metr
Rhan 2 – Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg
1 . Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion (Y ffordd yn union y tu allan i'r ysgol)
a. Yr ochr ogleddol, o linell cwrb ddeheuol y gyffordd ag Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion, tua'r deorllewin am bellter o oddeutu 229 metr
b. Yr ochr ddeheuol, o bwynt sydd 30 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol, tua'r de-orllewin am bellter o oddeutu 12.5 metr
c. Yr ochr ddeheuol o bwynt sydd 71.5 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 25.5 metr
ch. Yr ochr ddeheuol o bwynt sydd 152 metr i'r gorllewin o fynedfa'r ysgol tua'r gorllewin am bellter o oddeutu 47 metr
d. Yr ochr de-ddwyreiniol, o bwynt sydd 5 metr i'r dwyrain o fynedfa'r ysgol tua'r dwyrain yna'r gogledd gan ddilyn y tro yn y ffordd, am bellter o oddeutu 35 metr
dd. Yr ochr ddeheuol, o'r cyffyrdd (4 i gyd) sy'n arwain at gatiau'r ardaloedd gollwng a chodi ar gyfer y bysiau ysgol, am bellter o oddeutu 2.5 metr, ar ddwy ochr y 4 cyffordd
ATODLEN 4
Heol Pont Siôn Norton, Cilfynydd – cael gwared ar y Marciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir' a'r gilfach Bysiau Ysgol yn unig, a chyflwyno cyfyngiad Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, newydd, yn y gyffordd â'r ffordd ddi-enw sy'n arwain at Y sgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton (mae'r ysgol wedi cau)
Rhan 1 – Amrywiad
1. Bydd “Gorchymyn Cydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar ochr y Ffordd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2012” yn cael ei amrywio drwy gael gwared ar y Gorchymyn canlyn ol o'r 'Atodlen Gorchmynion'
a. ‘Gorchymyn (Lleoedd Parcio Ar y Stryd) (Heol Pont Siôn Norton, (Trywydd yr A4054) Pont Siôn Norton, Pontypridd, Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1996’ yn cael ei ddirymu'n gyfan gwbl.
2. Bydd "Gorchymyn Rhif 2 (Dim Stopio ar Farciau 'Ysgol – Cadwch yn Glir') (Amryw Leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2013" yn cael ei amrywio trwy gael gwared ar yr e item a ganlyn:-
Ardal Taf-elái
Eitem 6, Heol Pont Siôn Norton, Pontypridd
Rhan 2 – Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg
1. Heol Pont Siôn Norton, Cilfynydd
a. Yr ochr ddwyreiniol, o'i chyffordd â'r ffordd ddienw wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton, tua'r gogledd-ddwyrain am bellter o 10 metr
b. Yr ochr ddwyreiniol, o'i chyffordd â'r heol ddienw sydd wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton, tua'r de-orllewin am bellter o 10 metr
2. Y Ffordd Ddienw wrth ochr Rhif 119 a Rhif 120 Heol Pont Siôn Norton
a. Y ddwy ochr, o'i chyffordd â Heol Pont Siôn Norton, tua'r de-ddwyrain am bellter o 10 metr
Dyddiad: 17 Gorffennaf 2026
Andrew Wilkins
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: