Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Pen-y-bont ar Ogwr - Gorchymyn Gwahardd a Chyfyngu ar Aros, Llwytho a Pharcio

CF31 4WBPublished 09/07/26
Glamorgan Gazette • 

What is happening?

GORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (GWAHARDD A CHYFYNGU AR FANNAU AROS A LLWYTHO A PHARCIO) (CYDGRYNHOI) 2024 (DIWYGIAD RHIF xx) 202-

HYSBYSIR DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”) fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Pencoed, yn bwriadu gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer ei bwerau o dan Adrannau 1(1), 2(1) i (2), 4,124(1) a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (Deddf 1984) fel y’i diwygiwyd, Deddf Rheoli Traffig 2004 a’r holl bwerau galluogi eraill ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu ac yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, gyda’r effaith o ddiwygio’r cyfyngiadau canlynol yng NGORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (GWAHARDD A CHYFYNGU AR FANNAU AROS A LLWYTHO A PHARCIO) (CYDGRYNHOI) 2024 

(“y Gorchymyn Cydgrynhoi”), fel y’u diwygiwyd, drwy ddirymu’r Cynlluniau Gorchymyn AN58, AN59, AO57, AO58, AO59 ac AP58 dyddiedig 29.11.2024 a mewnosod y Cynlluniau Gorchymyn diwygiedig AN58 Diw 1, AN59 Diw 1, AO57 Diw 1, AO58 Diw 1, AO59 Diw 1 ac AP58 Diw 1, gydag effaith hynny yn cael ei nodi yn yr Atodlen isod. Rhaid anfon sylwadau neu wrthwynebiadau i’r cynnig, ynghyd â’r sail dros wneud hynny, yn ysgrifenedig at y llofnodwr isod yn y cyfeiriad isod, neu drwy e-bost i traffictransportation@bridgend.gov.uk, erbyn 07/08/2026. 

Mae copi o’r dogfennau a adneuwyd, gan gynnwys y Gorchymyn, y Cynlluniau a Datganiad o Reswm arfaethedig y Cyngor dros wneud y Gorchymyn, ar gael drwy gysylltu â naill ai traffictransportation@bridgend.gov.uk neu dros y ffôn drwy’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01656 646363 (dyfynnwch y cyfeirnod TRA001-1542) neu maent i’w cael yn rhad ac am ddim yn Llyfrgell Pencoed, Ffordd Pen-y-bont, Pencoed, CF35 5RA yn ystod yr oriau canlynol: Dydd Llun 9.30am - 1pm a 2pm - 6pm, Dydd Mawrth 9.30am -1pm a 2pm - 8pm, Dydd Mercher 9.30am -1pm, Dydd Iau 9.30am -1pm a 2pm - 6pm, Dydd Gwener 9.30am -1pm a 2pm -5pm, Dydd Sadwrn 9.30am - 1pm a 2pm - 5pm neu gellir eu harchwilio ar-lein yn: https://www.penybontarogwr.gov.uk/cyngor/hysbysiadaucyfreithiol-a-gorchmynion/. Yn ychwanegol, gellir gweld copi o'r dogfennau yn rhad ac am ddim yn y Dderbynfa Ddinesig yn y cyfeiriad isod yn ystod oriau swyddfa. 

Os ydych yn cael unrhyw anhawster yn ymateb yn ysgrifenedig, neu os oes angen yr hysbysiad mewn fformat arall, er enghraifft, print bras, sain, braille neu ffacs, cysylltwch â’r Adran Gyfreithiol gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod neu drwy gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01656 643643, cyfeirnod cyfreithiol TRA001-1542. 

Sylwch y gall y Cyngor ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir yn gyhoeddus ac y gallai sylwedd unrhyw sylw (ynghyd ag enw a chyfeiriad y sawl sy’n ei wneud) fod ar gael i’r cyhoedd ei archwilio.

ATODLEN

1. CYFLWYNO CYFYNGIAD DIM AROS, LLWYTHO A DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG

Glossop Terrace, Pencoed - (i) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gorllewin am oddeutu 6 metr (7 llath). (ii) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gogledd am oddeutu 5 metr (6 llath). (iii) Ar yr ochr ogleddol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gogledd-orllewin am oddeutu 15 metr (16 llath). (iv) Ar yr ochr ogleddol, o bwynt 15 metr (16 llath) i’r gogleddorllewin o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gorllewin am oddeutu 4 metr (4 llath). (v) Ar yr ochr ogleddol, o bwynt 19 metr (21 llath) i’r gogledd-orllewin o’i therfyn yn y dwyrain, i’r de-orllewin am oddeutu 9 metr (10 llath). 

Heol Yr Onnen, Pencoed - (i) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y gorllewin, i’r gogledd am oddeutu 17 metr (19 llath). (ii) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y gorllewin, i’r dwyrain am oddeutu 4 metr (4 llath). (iii) Ar yr ochr ddeheuol, o bwynt 4 metr (4 llath) i’r dwyrain o’i therfyn yn y gorllewin, i’r gogledd-ddwyrain am oddeutu 9 metr (10 llath). (iv) Ar yr ochr ogleddol, o’i therfyn yn y gorllewin, i’r dwyrain am oddeutu 5 metr (5 llath). (v)Ar yr ochr ogleddol, o bwynt 5 metr (5 llath) i’r dwyrain o’i therfyn yn y gorllewin, i’r deddwyrain am oddeutu 8 metr (9 llath). 

Heol Llangrallo, Pencoed - (i) Ar yr ochr ddwyreiniol o’r ffin 98/100, Heol Llangrallo am oddeutu 52 metr (57 llath) i’r gogledd, yna 6 metr (7 llath) i’r dwyrain. (ii) Ar yr ochr ddwyreiniol o’r ffin ogleddol 66, Heol Llangrallo am oddeutu 122 metr (133 llath) i’r de, yna 6 metr (7 llath) i’r dwyrain. 

Heol Felindre, Pencoed - (i) Ar yr ochr ddeheuol, o bwynt oddeutu 45 metr (49 llath) i’r dwyrain o’r gyffordd â Heol Llangrallo, am oddeutu 75 metr (82 llath). (ii) Ar yr ochr ddeheuol, o bwynt oddeutu 157 metr (172 llath) i’r dwyrain o’r gyffordd â Heol Llangrallo, am oddeutu 147 metr (161 llath). (iii) Ar yr ochr ddeheuol, o’r gyffordd â’r A473, i’r gogledd-orllewin am oddeutu 145 metr (159 llath). 

A473, Pencoed - (i) Ar yr ochr orllewinol, o’r gyffordd â Heol Felindre, i’r de am oddeutu 30 metr (33 llath).

2. CYFLWYNO CYFYNGIAD DIM AROS AR UNRHYW ADEG
St Johns Drive, Pencoed - (i) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gorllewin, am oddeutu 5 metr (5 llath). (ii) Ar yr ochr ddeheuol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gogledd, am oddeutu 7 metr (8 llath). (iii) Ar yr ochr ogleddol, o’i therfyn yn y dwyrain, i’r gogledd-orllewin am oddeutu 4 metr (4 llath).

Heol Llangrallo, Pencoed - (i) Ar yr ochr orllewinol, o’r ffin 58/60, Heol Llangrallo, i’r gogledd am oddeutu 129 metr (141 llath). (ii) Ar yr ochr ddwyreiniol, o bwynt 21 metr (23 llath) i’r de o’r gyffordd â Glossop Terrace, i’r de am oddeutu 47 metr (51 llath).

Heol Felindre, Pencoed – (i) Ar yr ochr ogleddol, o bwynt 9 metr (10 llath) i’r dwyrain o’r gyffordd â Heol Llangrallo, am oddeutu 63 metr (69 llath). (ii) Ar yr ochr ddeheuol, o bwynt 8 metr (9 llath) i’r dwyrain o’r gyffordd â Heol Llangrallo, am oddeutu 37 metr (40 llath). (iii) Ar yr ochr ddeheuol, o bwynt 10 metr (11 llath) i’r dwyrain o’r gyffordd ag ochr ddwyreiniol Felindre Avenue, i’r gorllewin am oddeutu 79 metr (86 llath). 

Dyddiedig: 09/07/2026

K Watson, Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol Rheoliadol ac Etholiadol – Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Glamorgan Gazette directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association