Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
M4 Motorway - Temporary Prohibition Of Vehicles For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN TRAFFORDD YR M4 (CYFFORDD 34 (MEISGYN), RHONDDA CYNON TAF I GYFFORDD 49 (PONT ABRAHAM), SIR GAERFYRDDIN) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn am fod gwaith yn cael ei wneud ar draffordd yr M4, neu gerllaw iddi, rhwng Cyffordd 34 (Meisgyn), Rhondda Cynon Taf a Chyffordd 49 (Pont Abraham), Sir Gaerfyrddin.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar ddarnau penodedig o draffordd yr M4 o fewn y darnau cyfan a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn pan fydd angen gwneud gwaith mewn safle penodol. Disgrifir y llwybrau eraill yn yr Atodlen hefyd.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 27 Gorffennaf 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol yn ysbeidiol dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) o’r dyddiad hwnnw am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Pan fo’n bosibl, bydd hysbysiad ynghylch gwaharddiad yn cael ei arddangos wythnos cyn cau darn penodedig o’r draffordd. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd/dyddiadau yn cael ei arddangos hefyd cyn dechrau unrhyw waith a ailamserlennir.
P HUISH, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
Gwahardd cerbydau dros dro
Y darnau o’r cerbytffyrdd tua’r gorllewin a thua’r dwyrain o draffordd yr M4 wrth a rhwng Cyffordd 34 (Meisgyn), Rhondda Cynon Taf a Chyffordd 49 (Pont Abraham), Sir Gaerfyrddin gan gynnwys yr holl ffyrdd ymadael ac ymuno tua’r gorllewin a thua’r dwyrain wrth y cyffyrdd hyn a rhyngddynt.
Trefniadau llwybrau eraill
Codir arwyddion priodol i nodi’r gwyriad ar gyfer y llwybrau eraill a byddant yn amrywio gan ddibynnu ar ben y daith a phryd y bydd darn penodol o’r M4 ar gau dros dro i draffig.
Bydd llwybrau eraill ar gael drwy fynd ar y brif M4 (y ddwy gerbytffordd), yr A4232, yr A48, yr A473, yr A4229, yr A4241, y B4286, yr A4107, yr A474, yr A465, yr A4230, yr A4067, yr A483, yr A484 a’r A4138, fel y bo’n briodol.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE M4 MOTORWAY (JUNCTION 34 (MISKIN), RHONDDA CYNON TAF TO JUNCTION 49 (PONT ABRAHAM), CARMARTHENSHIRE) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the M4 motorway between Junction 34 (Miskin), Rhondda Cynon Taf and Junction 49 (Pont Abraham), Carmarthenshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services and for the works, from proceeding on specified lengths of the M4 motorway within the overall lengths described in the Schedule to this Notice when work is required at a particular site. The alternative route arrangements are also described in the Schedule.
The Order will come into force on 27 July 2026. The temporary prohibition is expected to operate intermittently overnight (20:00 hours – 06:00 hours), from that date for a maximum period of 18 months.
Whenever possible, notice of a prohibition will be displayed one week before the closure of a specified length of the motorway. Notice of any changes to times/dates will also be displayed before any rescheduled work begins.
P HUISH, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
Temporary prohibition of vehicles
The lengths of the westbound and eastbound carriageways of the M4 motorway at and between Junction 34 (Miskin), Rhondda Cynon Taf and Junction 49 (Pont Abraham), Carmarthenshire including all westbound and eastbound exit and entry slip roads at and between these junctions.
Alternative route arrangements
The alternative routes will be indicated with appropriate diversion signs and will vary depending on destination and when a particular length of the M4 is temporarily closed to traffic.
Alternative routes will be available via the main M4 (both carriageways), A4232, A48, A473, A4229, A4241, B4286, A4107, A474, A465, A4230, A4067, A483, A484 and A4138, as appropriate.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: