Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Cardiff - Multiple Traffic Notices

CF14Published 08/07/26
Western Mail • 

What is happening?

CYNIGION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984 (fel y’i diwygiwyd), Rhan 6 Deddf Rheoli Traffig 2004 fel y’i diwygiwyd a Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010, Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013, Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2013 a’r holl bwerau galluogi eraill, yn bwriadu gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Mae natur y cyfyngiadau a theitlau’r gorchmynion arfaethedig hefyd wedi eu disgrifio yn yr Atodlen honno.

Bydd y canlynol yn berthnasol i breswylwyr cymwys sy’n dymuno gwneud cais am Drwyddedau Parcio Preswylwyr.

Bydd cost trwyddedau o’r fath yn unol ag Atodlen 4 Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 sydd am y tro fel a ganlyn:

MATH

HYD

FFIOEDD

UCHAFSWM NIFER (OS YW'N BERTHNASOL)

Trwydded i Breswylwyr (Ardal Barcio R5)

12 mis

Trwydded 1af - £25.00 2il drwydded - £70.00

Dau fesul Eiddo

Trwydded Ymwelwyr i Breswylwyr (Ardal Barcio R5)

850 awr (bwndel)

£35.00

3 bwndel y flwyddyn fesul Eiddo

Trwydded Ymwelwyr Hy-gyrch (Ardal Barcio R5)

12 mis

£35.00

1 fesul Eiddo (yn lle Trwydded Ymwelwyr i Breswylwyr)

Trwydded Busnes (Ardal Barcio R5)

12 mis

Fesul Trwydded - £100.00

1 fesul Eiddo

Trwydded Gymunedol (Ardal Barcio R5)

12 mis

£35.00

4 fesul Eiddo

Bydd meddianwyr yr eiddo canlynol yn gymwys i wneud cais am drwydded o'r math a bennir yn y tabl isod (yn amodol ar feini prawf cymhwyso eraill) ar gyfer Parth Rheoli Parcio R5:

CYFEIRIADAU

MATHAU O DRWYDDED

EIDDO WEDI'U HEITHRIO

Heol y Deri – Rhifau 29 i 47 (odrifau) [gan gynnwys 33A]

Lôn y Dail – 12 i 18 (eilrifau yn unig) Pen y Dre – 1 i 26 (odrifau ac eilrifau) Y Groes – Pob Un

Preswylydd, Ymwelydd, Cymuned, Busnes

Ni fyddai datblygiadau newydd sy'n derbyn caniatâd cynllunio o 1 Medi 2025 yn gymwys i gael trwyddedau.

Mae manylion y cynigion a’r cynlluniau sy’n dangos y lleoliadau a graddau’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gorchmynion-Traffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.

Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau eraill sy’n ymwneud â’r gorchymyn yn ysgrifenedig ar neu cyn 29 Gorffennaf 2026 neu drwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk a rhaid nodi eich rhesymau dros wrthwynebu. Gellir datgelu gohebiaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.

Atodlen

GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU STOPIO, AROS, LLWYTHO A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (CYDGRYNHOI) 2024 (DIWYGIAD RHIF 60) GORCHYMYN 2026

1) Sefydlu Ardal Parcio â Thrwydded (PRhP R5) yn Y Groes sy’n weithredol rhwng 8am a 6:30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (gan gynnwys y diwrnodau hynny) ar ei hyd cyfan

2) Sefydlu man parcio defnydd a rennir ar gyfer Deiliaid Trwydded (PRhP R5) ac Aros Cyfyngedig (uchafswm aros o 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr rhwng Oriau Parth 8am a 6:30pm) yn

a) Pen-y-Dre ar ochr y gogledd o bwynt 10 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dail am 11 metr i’r dwyrain, ac o bwynt 28 metr i’r dwyrain o’r un gyffordd am 16 metr i’r dwyrain, ac ar ochr y de o bwynt 16 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôny- Dail am 19 metr i’r dwyrain, ac o bwynt 58 metr i’r dwyrain o’r un gyffordd am bellter o 12 metr i’r dwyrain, ac ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 79 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dail am 54 metr i’r gogledd-ddwyrain

b) Heol Pant-bach ar ochr y de-orllewin o bwynt 13 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol-y-Bont am 53 metr i’r deddwyrain

c) Heol-y-Deri ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 55 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol Beulah am 30 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar ochr y de-orllewin o bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn Isa am 103 metr i’r deddwyrain, ac o bwynt 9 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Lôn Isa am 39 metr i’r gogledd-orllewin.

3) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg yn:

a) Pen-y-Dre ar ochr y gogledd o bwynt 21 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dail am 7 metr i’r dwyrain, ac o bwynt 44 metr i’r dwyrain o’r un gyffordd am 35 metr i’r dwyrain, ac ar ochr y de o bwynt 70 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Lôny- Dail am 9 metr i’r dwyrain

b) Lôn Ganol ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Dail am 9 metr i’r gogledd-ddwyrain

c) Lôn-y-Dail ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn Ganol am 8 metr i’r gogledd-orllewin ac 8 metr i’r deddwyrain.

d) Maes-y-Deri ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Deri am 65 metr i’r de-orllewin, ac o’r gyffordd â Lôn-y-Deri am 78 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r gyffordd â Glanrhyd am 41 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y gogledd- orllewin o’r gyffordd â Lon-y-Deri am 11 metr i’r de-orllewin ac 8 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o bwynt 44 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 9 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 11 metr i’r gogledd-ddwyrain a 7 metr i’r de-orllewin, ac ar ochr y dwyrain o bwynt 41 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Glanrhyd am 4 metr i’r gogledd

e) Lôn-y-Deri ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Maes-y-Deri am 12 metr i’r gogledd-orllewin a 13 metr i’r de-ddwyrain, ac ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Rhyd am 11 metr i’r de-ddwyrain

f) Glanrhyd ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Maes-y-Deri am 14 metr i’r de-ddwyrain

g) Lôn-y-Dderwen ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Maes-y-Deri am 12 metr i’r gogledd-orllewin ac ar ochr y gogledd- ddwyrain o’r gyffordd â Min-y-Nant am 8 metr i’r de-ddwyrain ac 8 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Rhyd am 10 metr i’r de-ddwyrain

h) Min-y-Nant ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 8 metr i’r gogledd-ddwyrain

i) Lôn-y-Rhyd ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Deri am 12 metr i’r de-orllewin ac 11 metr i’r gogledd-ddwyrain,
ac o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 12 metr i’r de-orllewin a 14 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o bwynt 91 metr i’r
gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 6 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y dwyrain o bwynt 97 metr
i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Lôn-y-Dderwen am 4 metr i’r gogledd, ac ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 79 metr
i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Derlwyn am 7 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r gyffordd â Groes Lon am 9
metr i’r de-orllewin a 9 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac o’r gyffordd â Heol Derlwyn am 11 metr i’r de-orllewin a 10 metr i’r
gogledd-ddwyrain.
j) Groes Lon ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Rhyd am 9 metr i’r gogledd-orllewin
k) Heol Derlwyn ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Lôn-y-Rhyd am 9 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar ochr y gogledd-ddwyrain
o’r gyffordd ag Erw Wen am 8 metr i’r de-ddwyrain ac 8 metr i’r gogledd-orllewin, ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd
â Heol Llanisien Fach am 14 metr i’r de-ddwyrain ac ar ochr y de-orllewin o’r gyffordd â Heol Llanisien Fach am
12 metr i’r de-ddwyrain
l) Erw Wen ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Derlwyn am 8 metr i’r gogledd-ddwyrain
m) Heol Llanisien Fach ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Derlwyn am 12 metr i’r de-orllewin a 47 metr i’r gogledd-
ddwyrain, ac ar ochr y de o’r gyffordd â Heol Ty’n Y Coed am 7 metr i’r gorllewin a 13 metr i’r dwyrain
n) Heol Ty’n Y Coed ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Llanisien Fach am 9 metr i’r de, ac ar ochr y dwyrain o’r gyffordd
â Clos Yr Hafod am 8 metr i’r gogledd ac 8 metr i’r de, ac o’r gyffordd â Heol Hendre am 7 metr i’r gogledd a 7 metr i’r
de, ac o’r gyffordd â Heol Aer am 7 metr i’r gogledd a 7 metr i’r de
o) Clos Yr Hafod ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Ty’n Y Coed am 8 metr i’r dwyrain
p) Heol Hendre ar ochr y de o’r gyffordd â Heol Y Wern am 7 metr i’r dwyrain a’r gorllewin, ac ar y ddwy ochr o’r gyffordd
â Heol Ty’n Y Coed am 8 metr i’r dwyrain
q) Heol Y Wern ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Hendre am 7 metr i’r de, ac ar ochr y gorllewin o’r gyffordd â Clos Y
Wern am 5 metr i’r de-ddwyrain a 7 metr i’r gogledd-orllewin
r) Heol Aer ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Ty’n Y Coed am 9 metr i’r de-ddwyrain
s) Clos Y Wern ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Y Wern am 8 metr i’r de-orllewin
4) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg heb lwytho rhwng 8am a 10am a rhwng 4pm a 6:30pm o ddydd Llun i ddydd
Sadwrn (gan gynnwys y diwrnodau hynny) yn:
a) Pen-y-Dre ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Pant-bach am 25 metr i’r de-orllewin ac ar ochr y gogledd-orllewin
o’r gyffordd â Heol-y-Deri am 36 metr i’r de-orllewin
b) Heol Pant-bach ar ochr y de-orllewin o’r gyffordd â Pen-y-Dre am 66 metr i’r de-ddwyrain, ac ar ochr y gogledd-
ddwyrain o’r gyffordd â Heol-y-Bont am 10 metr i’r de-ddwyrain ac 20 metr i’r gogledd-orllewin, ac o’r gyffordd â
Heol Beulah am 8 metr i’r de-ddwyrain
c) Heol-y-Bont ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol Pant-bach am 16 metr i’r dwyrain
d) Heol Beulah ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Pant-bach am 36 metr i’r gogledd-ddwyrain, ac ar ochr y
gogledd-orllewin o’r gyffordd â Heol-y-Deri am 25 metr i’r gogledd-ddwyrain
e) Heol-y-Deri ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Beulah am 55 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar ochr y
de-orllewin o’r gyffordd â Pen-y-Dre am 15 metr i’r gogledd-orllewin, ac o’r gyffordd â Lôn Fach am 46 metr i’r gogledd-
orllewin
f) Lôn Fach ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Heol-y-Deri am 8 metr i’r gorllewin

5) Diwygio cyfyngiadau presennol i’ch atal rhag aros rhwng 8am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (gan gynnwys y diwrnodau hynny) yn Heol Pant-bach ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 8 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Heol Beulah am 17 metr i’r de-ddwyrain

6) Diwygio cyfyngiadau presennol i aros cyfyngedig i uchafswm o 1 awr (dim dychwelyd o fewn 1 awr) rhwng 8am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (gan gynnwys y diwrnodau hynny) yn Heol Beulah ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 36 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Heol Pant-Bach am 24 metr i’r gogledd-ddwyrain 

8 Gorffennaf 2026 Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association