Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Cardiff - Prohibitions And Restrictions Of Stopping, Staying, Loading And On-Street Parking
What is happening?
CYNIGION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
GORCHYMYN CYNGOR SIR DINAS A SIR CAERDYDD (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU STOPIO, AROS, LLWYTHO A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (CYDGRYNHOI) 2024
(DIWYGIAD RHIF 88) GORCHYMYN 2026
Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wrth arfer ei berau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984 (fel y’i diwygiwyd), Rhan 6 Deddf Rheoli Traffig 2004 fel y’i diwygiwyd a Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010, Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013, Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) 2013 a’r holl bwerau galluogi eraill, yn bwriadu gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Mae natur y cyfyngiadau gorchmynion arfaethedig hefyd wedi eu disgrifio yn yr Atodlen honno.
Bydd y canlynol yn berthnasol i breswylwyr cymwys sy'n dymuno gwneud cais am Drwyddedau Parcio Preswylwyr. Ni roddir mwy na 3 trwydded i bob eiddo (gydag un ohonynt yn Drwydded Ymwelwyr) a bydd cost trwyddedau o'r fath yn unol â Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 sydd am y tro fel a ganlyn:
| MATH | HYD | FFIOEDD | UCHAFSWM NIFER (OS YW'N BERTHNASOL) |
|---|---|---|---|
| Trwydded Preswylydd (Parth K3) |
12 mis | Trwydded 1af- £35.00 y Drwydded 2il Drwydded - £90.00 y Drwydded |
Dau fesul Eiddo |
| Trwyddedau Ymwelwyr i Breswylwyr (Parth K3) |
Bwndel o drwyddedau awr x850 |
£35.00 fesul bwndel | 6 bwndel fesul Eiddo y flwyddyn |
| Trwydded Ymwelwyr Hygyrch (Parth K3) |
12 mis | £35.00 fesul Trwydded | Un fesul Eiddo (yn lle Trwydded Ymwelwyr i Breswylwyr) |
| Trwyddedau Arhosiad Byr Busnes (Parth K3) |
Bwndel o drwyddedau awr x120 |
£120 y bwndel | Tri bwndel fesul Eiddo y flwyddyn |
| Trwyddedau Arhosiad Byr Asiantaeth Gymunedol (Parth K3) |
Bwndel o drwyddedau undydd x100 (yn dod i ben am hanner nos ar ddiwrnod eu cyflwyno) |
£35.00 fesul bwndel | Chwe bwndel fesul Eiddo y flwyddyn |
| Trwydded Staff Ysgol (Parth K3) |
12 mis | £35 fesul Trwydded | Un fesul person |
Bydd preswylwyr yr eiddo canlynol (ac eithrio unrhyw Eiddo Eithriedig) yn gymwys i wneud cais am Drwydded o'r math a bennir yn y tabl:
| CYFEIRIADAU (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn ac nad ydynt yn Eiddo a Eithriwyd) |
MATHAU O DRWYDDED |
|---|---|
| Stryd Alice - Pob un Stryd Angelina – Pob un Rhodfa Belmont – Pob un Stryd Bute – 133 i 213 (yn unig) Stryd Christina – Pob un Stryd Hannah – Pob unA Hodges Row – Pob un Sgwâr Hodges – Pob un Tŷ Loudoun – Pob un Sgwâr Loudoun – Pob un Maria Court (Parêd y Gamlas) – Pob un Stryd Maria – Pob un Tŷ Nelson – Pob unA Plas Deheuol Loudoun – Pob un Clos y Gorllewin – Pob un |
Preswylydd Ymwelydd â Phreswylydd Busnes Asiantaeth Gymunedol Staff Ysgol |
Tariffau Talu ac Aros Arfaethedig i Barth K3:
| Parth Rheoli Parcio K3 | Yr Awr | £1.50 (30 munud cyntaf am ddim ar ôl cael Tocyn am ddim) |
8am i 10pm, Dydd Llun i Ddydd Sul |
|---|
Mae manylion y cynigion a’r cynlluniau sy’n dangos y lleoliadau a graddau’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www. cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gorchmynion-Traffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod.
Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau eraill sy’n ymwneud â’r gorchymyn yn ysgrifenedig ar neu cyn 10 Gorffennaf 2026 neu drwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk a rhaid nodi eich rhesymau dros wrthwynebu. Gellir datgelu gohebiaeth fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
Atodlen
Eich atal rhag aros rhwng 8am a 10pm yn:
1) Eich atal rhag aros rhwng 8am a 10pm yn:
a) Stryd Alice ar ochr y de-orllewin o bwynt 12 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 34 metr i’r gogledd-orllewin ac ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 23 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Maes Parcio Stryd Alice am 3 metr i’r de-ddwyrain, ac o bwynt 24 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 5 metr i’r gogledd- orllewin, ac o bwynt 35 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 10 metr i’r gogledd-orllewin
b) Stryd Angelina ar ochr y de-orllewin o bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â’r stryd ochr breswyl ddienw a leolir rhwng eiddo 59 ac 81 Stryd Angelina am 38 metr i’r de-ddwyrain, ac o bwynt 10 metr i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â’r stryd ochr breswyl a leolir rhwng eiddo 25 a 43 Stryd Angelina am 15 metr i’r de-ddwyrain
c) Stryd yr Eglwys Roegaidd ar ochr y gogledd o bwynt 13 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Stryd Ogleddol yr Eglwys am 7 metr i’r dwyrain
d) Hannah Street ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 22 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Ffordd Fynediad Steffan Court am 5 metr i’r de-orllewin
e) Sgwâr Loudoun ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 10 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Stryd Angelina am 30 metr i’r de-orllewin
f) Stryd Ogleddol yr Eglwys ar ochr y de-orllewin o’r gyffordd â Stryd yr Eglwys Roegaidd am 6.8 metr i’r de
g) Clos y Gorllewin ar ochr y de o bwynt 40 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Stryd Bute am 56 metr i’r gorllewin ac ar ochr ogledd-ddwyreiniol pen mwyaf de-ddwyreiniol y clos o ffin gyffredin rhifau 13 a 15 am bellter o 8 metr i’r gogledd, ac oddi wrth ffin gyffredin rhifau 17 a 19 i’r pen caeëdig, ac o ochr dde-orllewinol y pen mwyaf de-ddwyreiniol y cau o’i ben caeëdig am 45 metr i’r gogledd-orllewin
2) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg yn:
a) Stryd Bute ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 94 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd Herbert am 59 metr i’r de-ddwyrain
b) Stryd Ogleddol yr Eglwys ar ochr y gogledd-orllewin o’r gyffordd â Stryd Bute am 5 metr i’r de-orllewin
3) Sefydlu Ardaloedd Parcio â Thrwydded (Deiliaid Trwydded K3 yn Unig) yn weithredol rhwng 8am a 10pm yn y strydoedd pengaead oddi ar Stryd Angelina (ger rhifau eiddo 29-81, 25-43, a 7-19) ar eu hyd
4) Trosi Ardaloedd Parcio Trwyddedau Presennol ym Maes Parcio Stryd Alice, Meysydd Parcio Stryd Christina, Maes Parcio Sgwâr Hodges, Maes Parcio Hodges Row a Maes Parcio Stryd Maria i Ddeiliaid Trwydded ‘K3’ yn unig rhwng 8am a 10pm
5) Sefydlu Mannau i Ddeiliaid Trwyddedau yn Unig (K3) sy’n weithredol rhwng 8am a 10pm yn:
a) Stryd Alice ar ochr y gogledd-ddwyrain o bwynt 18 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 5 metr i’r gogledd-orllewin, ac o bwynt 27 metr i’r gogledd-orllewin o’r un gyffordd am 5 metr i’r gogledd-orllewin
b) Stryd Bute ar ochr y de-ddwyrain o bwynt 43 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 47 metr i’r gogledd-orllewin
6) Diwygio’r mannau parcio aros/trwydded cyfyngedig presennol yn Stryd Hannah, Ffordd Fynediad Sgwâr Hodges, Sgwâr Loudoun, Stryd Maria a Phlas Deheuol Loudoun i weithredu rhwng 8am a 10pm bob dydd
7) Sefydlu man parcio a rennir i Gyfyngu Aros i 2 awr (dim dychwelyd o fewn 2 awr) ac eithrio Deiliaid Trwydded K3 yn Stryd Ogleddol yr Eglwys ar ochr y gogledd-orllewin o bwynt 5 metr i’r de-orllewin o’r gyffordd â Stryd Bute am 15 metr i’r de-orllewin, ac o bwynt 30 metr i’r de-orllewin o’r un gyffordd am 18 metr i’r de-orllewin
8) Diwygio’r mannau parcio Talu ac Aros Defnydd a Rennir a lleoedd parcio i Ddeiliaid Trwydded presennol sydd wedi’u lleoli ar Stryd Bute rhwng y cyffyrdd â Chlos y Gorllewin a Stryd Herbert fel eu bod yn gweithredu rhwng 8am a 10pm bob dydd
9) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg heb lwytho rhwng 8am a 10pm yn:
a) Stryd Bute ar ochr y de-orllewin o bwynt 10 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Hannah Street i bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’r un gyffordd
b) Stryd Hannah ar ochr y de-ddwyrain o’r gyffordd â Stryd Bute i’r gyffordd â Stryd Alice, ac ar ochr y gogledd-orllewin o’r gyffordd â Stryd Bute am 10 metr i’r de-orllewin, ac o bwynt 7 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Ffordd Fynediad Steffan Court hyd at bwynt 7 metr i’r gorllewin o’r un gyffordd,
c) Mynedfa Steffan Court ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Hannah Street am 5 metr i’r gogledd-orllewin
d) Stryd Alice ar ochr y gogledd-ddwyrain o’r gyffordd â Hannah Street hyd at bwynt 10 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd â Ffordd Fynediad Maes Parcio Stryd Alice, ac ar ochr y de-orllewin o bwynt 63 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 15 metr i’r gogledd-orllewin, ac ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Chlos y Gorllewin am 12 metr i’r gogledd-orllewin
e) Maes Parcio Stryd Alice ar y ddwy ochr o’r gyffordd â Stryd Alice am 8.5 metr i’r gogledd-ddwyrain
f) Clos y Gorllewin ar ochr y gogledd o bwynt 10 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Stryd Alice i bwynt 10 metr i’r dwyrain o’r un gyffordd, ac o bwynt 30 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Stryd Alice am 25 metr i’r dwyrain, ac o amgylch yr ynys ar ganol y ffordd yng Nghlos y Gorllewin.
10) Sefydlu Man Llwytho Cerbydau Nwyddau yn Unig gydag arhosiad hyd at 1 awr (dim dychwelyd o fewn 2 awr) yn Stryd Bute ar ochr y de-orllewin o bwynt 44 metr i’r gogledd-orllewin o’r gyffordd â Phlas Deheuol Loudoun am 15 metr i’r gogledd-orllewin
11) Eich atal rhag stopio yn Stryd Ogleddol yr Eglwys ar ochr y gorllewin o bwynt 6.8 metr i’r de o linell balmant gogledd- orllewin Stryd yr Eglwys Roegaidd am 29.1 metr i’r de
19 Mehefin 2026 Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: