Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
A487 Trunk Road - Temporary Traffic Prohibitions For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A487
(CYLCHFAN PARC MENAI I GYLCHFAN YR ANTELOPE, BANGOR, GWYNEDD)
(GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn.
Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A487, neu gerllaw iddi, wrth Gylchfan Parc Menai a Chylchfan yr Antelope, Gwynedd.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
i) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys) rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A487 sy’n ymestyn o ganol y gerbytffordd gylchredol wrth Gylchfan Parc Menai hyd at ei chyffordd â’r A5 wrth Gylchfan yr Antelope; a
ii) gosod terfyn cyflymder o 40 mya, 30 mya neu 10 mya ar y darn o gefnffordd yr A487 a bennir uchod. Bydd y terfynau cyflymder o 40 mya neu 30 mya yn weithredol yn ysbeidiol yn ystod cyfnodau’r gwaith. Dim ond pan fydd gwaith confoi yn digwydd y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn weithredol ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Caniateir stopio’r traffig am gyfnodau byr olynol ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod para’r
gorchymyn gan ddefnyddio naill ai arwyddion neu signalau traffig priodol neu gyda chymorth
Swyddog Heddlu neu Swyddog Traffig.
Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeiriol. Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 30 Mehefin 2026.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn weithredol yn ysbeidiol o 00:01 o’r gloch ar 30 Mehefin 2026 am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A487 TRUNK ROAD
(PARC MENAI ROUNDABOUT TO ANTELOPE ROUNDABOUT, BANGOR, GWYNEDD)
(TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A487 trunk road at Parc Menai Roundabout and Antelope Roundabout, Gwynedd.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
i) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services) from proceeding on the length of the A487 trunk road that extends from the centre of the circulatory carriageway at Parc Menai Roundabout to its junction with the A5 at Antelope Roundabout; and
ii) impose a 40 mph, 30mph or 10 mph speed limit on the length of the A487 trunk road specified above. The 40 mph or 30 mph speed limits will operate intermittently during the work periods. The 10 mph speed limit will only operate during convoy working and no overtaking will be permitted during these times.
Traffic may be stopped for successive short period intervals at any time during the order duration using either appropriate traffic signs or signals or with the assistance of a Police Officer or Traffic Officer. No diversionary routes are necessary.
The Order will come into force on 30 June 2026.
The temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, are expected to operate intermittently from 00:01 hours on 30 June 2026 for a maximum period of 18 months.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: