Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Gwynedd - Temporary Prohibition Of Vehicles, Cyclists & Pedestrians
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A55 (CYFFORDD 2 (CYFNEWIDFA TYˆ MAWR), CAERGYBI, YNYS MÔN I GYFFORDD 11 (CYFNEWIDFA LLYS Y GWYNT), BANGOR, GWYNEDD) (GWAHARDD CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar ffyrdd ymuno ac ymadael cefnffordd yr A55, neu gerllaw iddi, rhwng Cyffordd 2 (Cyfnewidfa Tyˆ Mawr), Caergybi, Ynys Môn a Chyffordd 11 (Cyfnewidfa Llys y Gwynt), Bangor, Gwynedd.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rheini a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith), beicwyr a cherddwyr rhag mynd ar y darnau o ffyrdd ymuno ac ymadael tua’r dwyrain a thua’r gorllewin yr A55 wrth Gyffyrdd 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 10 a’r darnau o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 7A, y ffordd ymuno tua’r dwyrain a’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 8A a’r ffordd ymadael tua’r dwyrain a’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyffordd 11. Bydd cerbydau hefyd yn cael eu gwahardd rhag mynd ar hyd cilfannau’r A55 rhwng Cyffyrdd 2 ac 11 ond rhagwelir na fydd mwy na 2 gilfan ar gau ar unrhyw un adeg yn ystod unrhyw waith a chodir arwyddion yn eu cylch yn unol â hynny.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ac sy’n dymuno ymadael â’r A55 wrth y cyffyrdd uchod fydd i barhau hyd at y gyffordd nesaf, ymadael a dychwelyd ar yr A55 tua’r gorllewin er mwyn ymadael yn y lleoliad priodol: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin.
Dylai traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ac sy’n dymuno ymuno â’r A55 wrth y cyffyrdd hyn (ac eithrio cyffordd 8A) ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin, mynd at y gyffordd nesaf, ymadael a dychwelyd ar yr A55 tua’r dwyrain: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ac sy’n dymuno ymuno â’r A55 wrth Gyffordd 8A fydd mynd ar yr A5 tua’r dwyrain, tua’r gogledd-orllewin ar Ffordd Pentraeth a thua’r de-orllewin ar yr A5025 i Gyffordd 8.
Dylai traffig sy’n teithio tua’r gorllewin ac sy’n dymuno gadael yr A55 wrth Gyffordd 8A barhau hyd at Gyffordd 8 a dilyn yr A5025, Ffordd Pentraeth a’r A5.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 27 Mehefin 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol a dros nos yn bennaf (19:00 – 07:00 o’r gloch) o’r dyddiad hwnnw am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Efallai y bydd angen cau’r ffyrdd yn ysbeidiol yn ystod y dydd ond gwneir hyn cyn lleied â phosibl. Codir arwyddion ymlaen llaw ynghylch cau pob ffordd a rhagwelir mai un slipffordd yn unig fydd ar gau ar unrhyw adeg.
C WYNN Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A55 TRUNK ROAD (JUNCTION 2 (TYˆ MAWR INTERCHANGE), HOLYHEAD, ANGLESEY TO JUNCTION 11 (LLYS Y GWYNT INTERCHANGE), BANGOR, GWYNEDD) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES, CYCLISTS & PEDESTRIANS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A55 trunk road slip roads between Junction 2 (Tyˆ Mawr Interchange), Holyhead, Anglesey and Junction 11 (Llys y Gwynt Interchange), Bangor, Gwynedd.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A55 eastbound and westbound exit and entry slip roads at Junctions 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 and 10 and the lengths of the westbound exit slip road at Junction 7A, eastbound entry and westbound exit slip roads at Junction 8A and eastbound exit and westbound entry slip roads at Junction 11. Vehicles will also be prohibited from proceeding on the lengths of the A55 lay-bys between Junctions 2 and 11 but it is anticipated that no more than 2 lay-bys will be closed at any one time during any works and such closures will be signed accordingly.
The alternative route for eastbound traffic wishing to leave the A55 at the above junctions will be to continue to the next junction, exit and return on the westbound A55 to leave at the required location: vice versa for westbound traffic.
Eastbound traffic wishing to join the A55 at these junctions (except Junction 8A) should join the westbound carriageway, proceed to the next junction, exit and return on the eastbound A55: vice versa for westbound traffic.
The alternative route for eastbound traffic wishing to join the A55 at Junction 8A will be via the eastbound A5, north-westbound Pentraeth Road and south-westbound A5025 to Junction 8.
Westbound traffic wishing to leave the A55 at Junction 8A should continue to Junction 8 and follow the A5025, Pentraeth Road and A5.
The Order will come into force on 27 June 2026. The temporary prohibitions are expected to operate intermittently and mostly overnight (19:00 – 07:00 hours) from that date for a maximum duration of 18 months. Some intermittent daytime closures may be required but these will be kept to a minimum. All closures will be signed in advance and it is anticipated that only one slip road will be closed at a time.
C WYNN Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: