Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Flintshire - Multiple Traffic Notices, Temporary Road Closures and Temporary Pedestrian Prohibition due to power line upgrades, gas main installation, water main renewal and railway safety works
What is happening?
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
BABELL
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag teithio ar hyd Croesffyrdd Pant i Groesffyrdd Llyn Du Babell yn Sir y Fflint.
Mae angen y cyfyngiad er mwyn hwyluso uwchraddio hanfodol o linellau pwer uwchben gyda gwaith cysylltiedig gan Morrison Energy Services (Rhwydweithiau Trosglwyddo).
Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.
Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Fe ddaw’r Gorchymyn i rym ar 8 Mehefin 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 5 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
AB/366632
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
PENTRE HELYGAIN
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Nant Road, Pentre Helygain yn Sir y Fflint.
Mae angen y cyfyngiad er mwyn hwyluso uwchraddio hanfodol o linellau pwer uwchben gyda gwaith cysylltiedig gan Morrison Energy Services (Rhwydweithiau Trosglwyddo).
Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.
Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Fe ddaw’r Gorchymyn i rym ar 8 Mehefin 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 6 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
AB/3668152
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
Y FFLINT
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Halkyn Road, y Fflint, yn Sir y Fflint.
Mae angen y cyfyngiad er mwyn hwyluso uwchraddio hanfodol o linellau pwer uwchben gyda gwaith cysylltiedig gan Morrison
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
AB/3670180
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
QUEENSFERRY
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn, a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Glynne Street rhwng ei chyffordd â Dundas Street a Chester Road East, Queensferry yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros y cyfyngiad yw er mwyn i Wales and West Utilities osod prif gyflenwad nwy newydd a gwaith cysylltiedig.
Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.
Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Fe ddaw’r Gorchymyn i rym ar 8 Mehefin 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
AB/3670312
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO
CYNGOR SIR Y FFLINT
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
PENYMYNYDD/PENYFFORDD
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, ddim cyn na 7 diwrnod o 5 Mehefin 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y ffyrdd canlynol yn Penyffordd/Penymynydd yn Sir y Fflint:
- Ffordd Gwasanaeth Chester Road, rhwng ei chyffordd gyda Hazel Drive. Bydd y ffordd ar gau rhwng 8am a 4:30pm;
- Terrace Lane, rhwng ei chyffordd gyda Chester Road a Lower Mountain Road;
- Lower Mountain Road, rhwng ei chyffordd gyda Terrace Lane a Kinnerton Road.
Mae angen y cyfyngiad er mwyn hwyluso cynllun adnewyddu prif bibell ddwr gan Hafren Dyfrdwy Severn Trent Water.
Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.
Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.
Rhagwelir y bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 22 Mehefin 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffyrdd ar gau am oddeutu 33 wythnos, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
AB/3712304
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
RHYBUDD O YMESTYN GORCHYMYN GWAHARDD CERDDWYR DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14
GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (LLWYBR CYHOEDDUS RHIF 38 YNG NGHYMUNED BWCLE) (GWAHARDD CERDDWYR DROS DRO) 2022
Daeth y Gorchymyn uchod i rym ar 9 Rhagfyr 2022 am gyfnod o 6 mis, hyd at, ac yn cynnwys, 9 Mehefin 2023. Ers hynny, mae’r Gorchymyn wedi’i ymestyn gyda chymmeradwyaeth Llywodraeth Cymru, hyd at, ac yn cynnwys, 8 Mehefin 2026.
Rhoddir rhybudd drwy hyn fod y Gorchymyn uchod a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint ar 6 Rhagfyr 2022 wedi’i ymestyn gyda chymmeradwyaeth Llywodraeth Cymru, hyd at, ac yn cynnwys, 7 Rhagfyr 2026, neu hyd y bydd y gwaith wedi’i gwblhau – pa bynnag un sydd gyntaf.
Mae’r Gorchymyn yn gwahardd cerddwyr rhag defnyddio’r rhan honno o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 38 yng Nghymuned Bwcle o gyfeirnod grid 329568 363512 am bellter o tua 45 metr ar draws rheilffordd Wrecsam i Bidston i gyfeirnod grid 328581 363474.
Mae angen cau’r llwybr oherwydd bod mwy o waith adeiladu ar yr amserlen a bod hynny yn achosi mwy o berygl i gerddwyr. Mae’r llwybr ar gau er diogelwch tra bod mesurau i fynd i’r afael â’r risgiau’n barhaol yn cael eu datblygu gyda gwaith cysylltiedig gan Network Rail.
Mae’r llwybr ar gau ers cael y groesfan reilffordd tua 100 metr i’r de o’r rhan o’r llwybr sydd wedi’i chau.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint
148114
Dyddiedig 5 Mehefin 2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: