Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
A40 Trunk Road - Temporary Prohibition Of Traffic For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A40
(LLANYMDDYFRI, SIR GAERFYRDDIN I DRECASTELL, POWYS)
(GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A40 rhwng Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin a Threcastell, Powys neu gerllaw iddi.
Effaith y Gorchymyn yw gwneud y canlynol dros dro:
i. gwahardd pob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A40 a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn yr Atodlen honno hefyd. Bydd y ffordd ar gau yn ysbeidiol rhwng mis Mehefin 2026 ac Awst 2027 ar gyfer gwaith cynnal a chadw;
ii. gosod terfyn cyflymder o 50 mya, 40 mya neu 10 mya ar y darn o gefnffordd yr A40 a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Dim ond yn ystod gwaith confoi y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn gymwys ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
iii. gosod terfyn cyflymder o 10 mya ar y darn o gefnffordd yr A40 a ddisgrifir yn Atodlen 3 i’r Hysbysiad hwn. Dim ond yn ystod gwaith confoi y bydd y terfyn cyflymder hwn yn gymwys ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 7 Mehefin 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol o’r dyddiad hwnnw am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Dangosir arwyddion i roi hysbysiad ymlaen llaw am y gwaharddiadau cyn i’r gwaith ddechrau. Sicrheir mynediad i eiddo ar hyd y darn a fydd ar gau.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
C WYNN Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd cerbydau dros dro
Y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r A483 Heol Newydd, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin hyd at bwynt 5 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Vicarage Road, Trecastell, Powys.
Llwybr arall
Y llwybr arall ar gyfer traffig trwodd sy’n teithio tua’r dwyrain yw mynd ar yr A483 tua’r gogleddddwyrain i Lanfair-ym-Muallt ac ar yr A470 tua’r de-ddwyrain i Aberhonddu i ailymuno â’r A40 wrth Gylchfan Brynich, Aberhonddu: i’r gwrthwyneb i draffig trwodd sy’n mynd tua’r gorllewin.
ATODLEN 2
Terfynau cyflymder 50 mya, 40 mya neu 10 mya dros dro
Y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn o bwynt 70 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Dan y Crug, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin hyd at bwynt 5 metr i’r gogledd-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Vicarage Road, Trecastell, Powys.
ATODLEN 3
Terfyn cyflymder 10 mya dros dro
Y darn o’r gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r A483 Heol Newydd, Llanymddyfri hyd at bwynt 70 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Dan y Crug, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A40 TRUNK ROAD
(LLANDOVERY, CARMARTHENSHIRE TO TRECASTLE, POWYS)
(TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS & RESTRICTIONS) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984 which is necessary to undertake works on or near the A40 trunk road between Llandovery, Carmarthenshire and Trecastle, Powys.
The effect of the Order is to temporarily:
i. prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services and for the works, from proceeding on the length of the A40 trunk road described in Schedule 1 to this Notice. The alternative route is also described therein. Intermittent closures will take place between June 2026 and August 2027 for maintenance works;
ii. impose a 50 mph, 40 mph or 10 mph speed limit on the length of the A40 trunk road described in Schedule 2 to this Notice. The 10 mph speed limit will only apply during convoy working and no overtaking will be permitted at these times;
iii. impose a 10 mph speed limit on the length of the A40 trunk road described in Schedule 3 to this Notice. This will only apply during convoy working and no overtaking will be permitted at these times;
The Order comes into force on 7 June 2026. The temporary prohibitions and restrictions are expected to operate intermittently from that date for a maximum duration of 18 months. Notice of the prohibitions will be displayed in advance of the works. Access will be maintained to properties along the length of any closure.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders.
C WYNN Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary prohibition of vehicles
The length of the trunk road that extends from its junction with the A483 New Road, Llandovery, Carmarthenshire to a point 5 metres north-west of the centre-point of its junction with Vicarage Road, Trecastle, Powys.
Alternative route
The alternative route for eastbound through traffic is via the north-eastbound A483 to Builth Wells and south-eastbound A470 to Brecon to rejoin the A40 at Brynich Roundabout, Brecon: vice versa for westbound through traffic.
SCHEDULE 2
Temporary 50 mph, 40 mph or 10 mph speed limits
The length of the trunk road that extends from a point 70 metres east of its junction with Dan y Crug, Llandovery, Carmarthenshire to a point 5 metres north-west of the centre-point of its junction with Vicarage Road, Trecastle, Powys.
SCHEDULE 3
Temporary 10 mph speed limit
The length of the trunk road that extends from its junction with the A483 New Road, Llandovery to a point 70 metres east of its junction with Dan y Crug, Llandovery, Carmarthenshire.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at: