Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Northumberland Street - Definitive Map Modification Order
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A487 (PONT AR DDYFI I BARC MENAI, GWYNEDD) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A487, neu gerllaw iddi, o Bont ar Ddyfi hyd at Barc Menai, Gwynedd.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
(1) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith) rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A487 yn Sir Gwynedd sy’n ymestyn o’i chyffordd â ffordd sirol yr A493 ar ochr ogleddol Pont ar Ddyfi hyd at ganolbwynt ei chyffordd â Chylchfan Parc Menai.
(2) gosod terfyn cyflymder o 40 mya, 30 mya neu 10 mya ar y darn o’r A487 a ddisgrifir uchod. Bydd y terfynau cyflymder o 40 mya neu 30 mya yn gweithredu’n ysbeidiol yn ystod cyfnod y gwaith. Dim ond pan fydd gwaith confoi yn digwydd y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn weithredol ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn dangos unrhyw gyfnodau pan fydd y ffordd ar gau yn llwyr a dim ond am gyfnodau byr y bydd hyn yn para. Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeiriol.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 10 Mehefin 2026 ac yn weithredol yn ysbeidiol am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A487 TRUNK ROAD (DYFI BRIDGE TO PARC MENAI, GWYNEDD) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A487 trunk road from Dyfi Bridge to Parc Menai, Gwynedd.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
(1) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works) from proceeding on the length of the A487 trunk road in the County of Gwynedd that extends from its junction with the A493 county road on the northern side of Dyfi Bridge to the centre point of its junction with Parc Menai Roundabout
.
(2) impose either a 40 mph, 30 mph or 10 mph speed limit on the length of the A487 described above. The 40 mph or 30 mph speed limits will operate intermittently during the work periods. The 10 mph speed limit will only operate during convoy working and no overtaking will be permitted during these times.
Any full road closures will be indicated by advance traffic signs and will only be for short periods of time. No diversionary routes are necessary.
It is expected that the temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, will come into force at 00:01 hours on 10 June 2026 and operate intermittently for a maximum period of 18 months.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: