Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
The A465 Tunk road, (Glanbaiden roundabout to Hardwick interchange, Abergavenny) - Temporary restrictions due to works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465
(CYLCHFAN GLANBAIDEN I GYFNEWIDFA HARDWICK, Y FENNI) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn.
Mae angen y Gorchymyn arfaethedig oherwydd y tebygolrwydd o berygl i’r cyhoedd oherwydd gwaith a wneir i adnewyddu cymal pont a gwaith cynnal a chadw arferol ar gerbytffordd cefnffordd yr A465 rhwng Cylchfan Glanbaiden a Chyfnewidfa Hardwick, y Fenni, neu gerllaw iddi.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darnau o’r A465 a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y trefniadau ar gyfer llwybrau eraill hefyd yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 15 Mehefin 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro, y codir arwyddion priodol yn ei gylch, yn weithredol dros nos o 20:00 o’r gloch ar 15 Mehefin 2026 ac yn parhau tan 06:00 o’r gloch ar 17 Mehefin 2026, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y nosweithiau ar y dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhag-weld.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
YR ATODLEN
Gwahardd Dros Dro Bob Cerbyd
1. Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin y gefnffordd sy’n ymestyn o’i chyffordd â’r gerbytffordd gylchredol wrth Gylchfan Hardwick hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua’r
gorllewin wrth Gylchfan Glanbaiden.
2. Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain y gefnffordd sy’n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth Gylchfan Glanbaiden hyd at ei chyffordd â’r gerbytffordd
gylchredol wrth Gylchfan Hardwick.
Llwybrau Eraill
1. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin yw cymryd yr A40 drwy ganol tref y Fenni tuag at Aberhonddu. Wrth Gylchfan Tarrell, ymuno â’r A470 tuag at Ferthyr
Tudful. Wrth Gylchfan Cefn Coed, ymuno â’r A465 tua’r dwyrain tuag at y Fenni.
2. Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain yw cymryd yr A465 tua’r gorllewin i Gylchfan Cefn Coed. Yna ymuno â’r A470 tuag at Aberhonddu. Wrth Gylchfan Tarrell,
ymuno â’r A40 tua’r dwyrain tuag at Gylchfan Hardwick, y Fenni
THE A465 TRUNK ROAD (GLANBAIDEN ROUNDABOUT TO HARDWICK INTERCHANGE, ABERGAVENNY)
(TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary due to the likelihood of danger to the public because of bridge joint renewal and routine carriageway maintenance works being undertaken on or near the A465 trunk road between Glanbaiden Roundabout and Hardwick Interchange, Abergavenny.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services and for the works, from proceeding on the lengths of the A465 described in the Schedule to this Notice. The alternative route arrangements are also described in the Schedule to this Notice.
The Order will come into force on 15 June 2026. The temporary prohibition, which will be signed accordingly, is expected to operate overnight from 20:00 hours on 15 June 2026 and remain until 06:00 hours on 17 June 2026, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the proposed Order is only expected to operate during the nights on the dates specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months as a contingency should the work need to be rescheduled, or consequential work is required due to unforeseen circumstances.
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE
Temporary Prohibition of all Vehicles
1. The length of westbound carriageway of the trunk road that extends from its junction with the circulatory carriageway at Hardwick Roundabout to the nosing of the westbound on slip road at Glanbaiden Roundabout.
2. The length of the eastbound carriageway of the trunk road that extends from the nosing of the eastbound off slip road at Glanbaiden Roundabout to its junction with the circulatory carriageway at Hardwick Roundabout.
Alternative Routes
1. The alternative route for westbound traffic is to take the A40 through Abergavenny town centre towards Brecon. At Tarrell Roundabout, join the A470 towards Merthyr Tydfil. At Cefn Coed Roundabout, join the A465 eastbound towards Abergavenny.
2. The alternative route for eastbound traffic is to take the A465 westbound to Cefn Coed Roundabout. Then join the A470 towards Brecon. At Tarrell Roundabout, join the A40 eastbound towards Hardwick Roundabout, Abergavenny.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: