Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Llandovery To Sugar Loaf, Carmarthenshire - Temporary Traffic Prohibitions & Restrictions
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A483 (LLANYMDDYFRI I DDINAS-YBWLCH, SIR GAERFYRDDIN) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn.
Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A483, neu gerllaw iddi, rhwng Llanymddyfri a Dinas-y-bwlch, Sir Gaerfyrddin.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
i. gwahardd pob cerbyd, ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith, rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A483 a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybr arall yn yr Atodlen honno hefyd.
ii. gosod terfyn cyflymder o 50 mya, 40 mya neu 10 mya ar y darn o gefnffordd yr A483 a ddisgrifir yn Atodlen 2. Dim ond yn ystod gwaith confoi y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn gymwys ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
iii. gosod terfyn cyflymder o 10 mya a gwahardd goddiweddyd yn ystod gwaith confoi ar y darn o gefnffordd yr A483 a ddisgrifir yn Atodlen 3.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 16 Mehefin 2026. Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro yn weithredol yn ysbeidiol o 00:01 o’r gloch ar y dyddiad hwnnw am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
Bydd y ffordd yn cael ei chau fesul rhan yn ystod y cyfnod hwn. Codir arwyddion i roi hysbysiad ymlaen llaw am y gwaharddiadau cyn i’r gwaith ddechrau. Sicrheir mynediad i eiddo ar hyd unrhyw darn fydd ar gau.
C WYNN Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd cerbydau dros dro
Y darn o’r A483 sy’n ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r A40 yn Llanymddyfri am tua 13.8 o gilometrau.
Llwybr arall
Y llwybr arall ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r gogledd-ddwyrain o Lanymddyfri yw mynd ar yr A40 tua’r dwyrain i Aberhonddu, yr A470 tua’r gogledd i Lanfair-ym-Muallt a’r A483 tua’r gorllewin: i’r gwrthwyneb ar gyfer cerbydau sy’n teithio tua’r de-orllewin.
ATODLEN 2
Terfyn cyflymder 50 mya, 40 mya neu 10 mya dros dro a dim goddiweddyd
Y darn o’r A483 sy’n ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o bwynt 702 o fetrau i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r A40 yn Llanymddyfri am tua 14.6 o gilometrau.
ATODLEN 3
Terfyn cyflymder 10 mya dros dro a dim goddiweddyd
Y darn o’r A483 sy’n ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r A40 yn Llanymddyfri hyd at bwynt 702 o fetrau i’r gogledd-ddwyrain o’r gyffordd honno.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A483 TRUNK ROAD (LLANDOVERY TO SUGAR LOAF, CARMARTHENSHIRE) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS & RESTRICTIONS) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A483 trunk road between Llandovery and Sugar Loaf, Carmarthenshire.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
i. prohibit all vehicles, other than those being used by the emergency services and for the works, from proceeding on the length of the A483 trunk road described in Schedule 1 to this Notice. The alternative route is also described therein.
ii. impose a 50 mph, 40 mph or 10 mph speed limit on the length of the A483 trunk road described in Schedule 2. The 10 mph speed limit will only apply during convoy working and no overtaking will be permitted at these times.
iii. impose a 10 mph speed limit and prohibit overtaking during convoy working on the length of the A483 trunk road described in Schedule 3.
The Order will come into force on 16 June 2026. The temporary prohibitions and restrictions are expected to operate intermittently from 00:01 hours on that date for a maximum duration of 18 months.
The road will be closed in sections during this period. Notice of the prohibitions will be signed in advance of the works. Access will be maintained to properties along the length of any closure.
C WYNN Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary prohibition of vehicles
The length of the A483 that extends in a north-easterly direction from its junction with the A40 at Llandovery for approximately 13.8 kilometres.
Alternative route
The alternative route for north-eastbound vehicles from Llandovery is via the eastbound A40 to Brecon, northbound A470 to Builth Wells and westbound A483: vice versa for south-westbound vehicles.
SCHEDULE 2
Temporary 50 mph, 40 mph or 10 mph speed limit and no overtaking
The length of the A483 that extends in a north-easterly direction from a point 702 metres north-east of its junction with the A40 at Llandovery for approximately 14.6 kilometres.
SCHEDULE 3
Temporary 10 mph speed limit and no overtaking
The length of the A483 that extends in a north-easterly direction from its junction with the A40 at Llandovery to a point 702 metres north-east of that junction.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at: