A494 Trunk Road, Bron Y Clwyd - Temporary 30 Mph Speed Limit Order
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A494 (GWYDDELWERN, SIR DDINBYCH) A’R IS-FFORDD A ELWIR BRON Y CLWYD (LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, SIR DDINBYCH) (TERFYN CYFLYMDER 30 MYA DROS DRO AR GYFER CERBYDAU ESEMPT) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU, gan weithredu ar ran Cyngor Sir Ddinbych yn unol â threfniadau a wnaed rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Gweinidogion Cymru o dan adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi gwneud Gorchymyn, drwy arfer eu pwerau o dan adran 16A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae angen y Gorchymyn er mwyn cynnal digwyddiad beicio “Ras Ffordd Bwlch yr Oernant Gogledd Cymru” yng Ngwyddelwern a Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, a gerllaw iddynt.
Effaith y Gorchymyn yw rhoi caniatâd dros dro i gerbydau modur a ddefnyddir gan swyddogion awdurdodedig y digwyddiad gael eu gyrru heb fod yn gyflymach na 30 mya ar y darnau o’r gefnffordd a’r briffordd leol a bennir isod:
1. ar yr A494 yng Ngwyddelwern, Sir Ddinbych, o’i mynedfa i’r parth 20 mya i bentref Gwyddelwern, i orffen ar ddechrau’r arwydd 40 mya ar allanfa ogleddol Gwyddelwern, Sir Ddinbych;
2. ar yr is-ffordd a elwir Bron y Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, o’r arwydd cyfyngiad cyflymder 20 mya wrth allanfa Parc y Llan, i’r arwydd dileu cyfyngiad cyflymder a leolir ar yr A525 Ffordd Wrecsam, sy’n nodi’r pwynt lle y mae’r terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys.
Bydd hyn yn eu galluogi i fod ychydig o flaen y ras er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o sicrhau bod y ffordd yn glir a dal traffig, pan fo’n briodol. Bydd yn gweithredu “swigen ddiogelwch” a ddylai sicrhau bod y ras yn cael ei chynnal yn ddiogel i feicwyr a’r cyhoedd.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 17 Mai 2026 a bydd yn para am 1 diwrnod ar y mwyaf. Disgwylir mai dim ond rhwng 08:00 o’r gloch a 17:00 o’r gloch y bydd y cyfyngiad yn weithredol.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd.
C WYNN Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A494 TRUNK ROAD (GWYDDELWERN, DENBIGHSHIRE)
AND THE MINOR ROAD KNOWN AS BRON Y CLWYD (LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, DENBIGHSHIRE) (TEMPORARY 30 MPH SPEED LIMIT FOR EXEMPTED VEHICLES) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS, acting on behalf of Denbighshire County Council pursuant to arrangements made between Denbighshire County Council and the Welsh Ministers under section 83(1) of the Government of Wales Act 2006, have made an Order, in exercise of their powers under section 16A of the Road Traffic Regulation Act 1984 and section 83 of the Government of Wales Act 2006, which is necessary to hold the “North Wales Horseshoe Pass Road Race” cycling event at and near Gwyddelwern and Llanfair Dyffryn Clwyd, Denbighshire.
The effect of the Order is to temporarily allow motor vehicles being used by authorised event officials to be driven at a speed not exceeding 30mph on the lengths of the trunk road and the local highway specified below:
1. on the A494 in Gwyddelwern, Denbighshire, from its entry into the 20 mph zone into the village of Gwyddelwern, to finish at the beginning of the 40 mph sign on the northern exit of Gwyddelwern, Denbighshire;
2. on the minor road known as Bron y Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Denbighshire, from the 20 mph speed restriction sign at the exit of Parc y Llan, to the derestricted speed limit sign located on the A525 Wrexham Road, which indicates the point at which the national speed limit applies.
This will enable them to get a short distance ahead of the race to carry out their duties of ensuring the road is clear and holding traffic, where appropriate. It will implement a “safety bubble” that should ensure that the race is delivered safely for riders and the public.
The Order comes into force on 17 May 2026 and has a maximum duration of 1 day.
The restriction is only expected to operate from 08:00 hours to 17:00 hours.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: