Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Flintshire - Multiple Temporary Closures & Speed Limit Amendment Orders

CH4Published 15/05/26
The Leader • 

What is happening?

*]:pointer-events-auto R6Vx5W_threadScrollVars scroll-mb-[calc(var(--scroll-root-safe-area-inset-bottom,0px)+var(--thread-response-height))] scroll-mt-[calc(var(--header-height)+min(200px,max(70px,20svh)))]" data-turn-id-container="request-WEB:7a97e609-07d5-404a-8517-1f2c8ee8d138-20" data-turn="assistant" data-scroll-anchor="false" data-testid="conversation-turn-2" data-turn-id="request-WEB:7a97e609-07d5-404a-8517-1f2c8ee8d138-20">

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 - ADRAN 14

PANTYMWYN

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Ffordd Pen y Fron (Lôn y Post), rhwng ei chyffordd â Ffordd Cilcain / Bwlch y Ddeufryn a Ffordd Pen y Fron, Pantymwyn, yn Sir y Fflint.

Mae angen cyflwyno’r cyfyngiad er mwyn hwyluso gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol gyda gwaith cysylltiedig gan O’Connor Utilities Ltd ar ran Scottish Power.

Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.

Fe ddaw’r Gorchymyn i rym ar 18 Mai 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 2 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

AB/3613516

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint

Dyddiedig 15 Mai 2026

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 - ADRAN 14

QUEENSFERRY

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn, a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Dundas Street, rhwng ei chyffordd â Station Road a Queen Street, Queensferry yn Sir y Fflint.

Y rheswm dros y cyfyngiad yw er mwyn i Wales and West Utilities osod prif gyflenwad nwy newydd a gwaith cysylltiedig.

Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.

Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.

Fe ddaw’r Gorchymyn i rym ar 20 Mai 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi’i gwblhau’n gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

AB/3616696

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint

Dyddiedig 15 Mai 2026

HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

Y FFLINT

Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, heb fod yn gynt na saith diwrnod ar ôl 15 Mai 2026, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag teithio ar hyd Aber Road, rhwng ei chyffordd â’r A548 Holywell Road a Coleshill Street, y Fflint, yn Sir y Fflint.

Y rheswm dros y gwaharddiad yw er mwyn cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol i gebl trydan a gwaith cysylltiedig gan Scottish Power Energy Networks.

Gosodir arwyddion i ddangos y ffordd arall i gerbydau.

Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.

Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 29 Mai 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am oddeutu 10 diwrnod, oni chwblheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis.

AB/3648640

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint

Dyddiedig 15 Mai 2026

RHYBUDD O ORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO

CYNGOR SIR Y FFLINT

RHYBUDD O ORCHYMYN GWAHARDD CERDDWYR DROS DRO

DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

LLWYBR TROED CYHOEDDUS RHIF 12, 13 A 16 YNG NGHYMUNED GORLLEWIN SALTNEY YN SIR Y FFLINT

Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn yn bwriadu gwneud Gorchymyn, heb fod ynghynt na 7 niwrnod ar ôl 15 Mai 2026, a fydd yn gwahardd cerddwyr rhag defnyddio’r llwybrau troed cyhoeddus yn Sir y Fflint fel y rhestrir isod:

  1. Rhan o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 12 yng Ngorllewin Saltney rhwng pwyntiau NGR 331004 369236 a NGR 331036 369287
  2. Rhan o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 13 yng Ngorllewin Saltney rhwng pwyntiau NGR 330821 369329 a NGR 331028 369282
  3. Rhan o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 16 yng Ngorllewin Saltney rhwng pwyntiau NGR 331036 369287 a NGR 331396 369079

Y rheswm dros gau y llwybrau yw er mwyn gwarchod y cyhoedd tra bo gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei gyflawni ar Bont Reilffordd Penarlâg gan Amco Giffen.

Y llwybr amgen ar y safle yw Llwybr Cyhoeddus Rhif. 8 sy’n rhedeg gerllaw y llwybrau cyhoeddus yr effeithir arnynt.

Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Mehefin 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Disgwylir y bydd y llwybrau troed ar gau am 6 mis, neu hyd nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau, ond am ddim mwy na chwe mis.

AB/FCC (TTRO) 3649700

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo Sir y Fflint

Dyddiedig 15 Mai 2026

RHYBUDD O WNEUD

GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (FFYRDD AMRYWIOL) (TERFYN CYFLYMDER 20MYA, 30MYA, 40MYA, 50MYA A THERFYNAU CYFLYMDER CENEDLAETHOL. FFYRDD CYFNGEDIG A HEB GYFYNGIAD) (GREEN LANE EAST, GLANNAU DYFRDWY) (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) (DIWYGIAU RHIF 19) 2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd drwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 12 Mai 2026 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82 (2) (a), a 84 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfngedig a Heb Gyfyngiad) 2023, i gyflwyno:

a) Terfyn cyflymder o 30mya ar:

Green Lane East: o’i gyffordd â’r A548, am bellter o 515 metr tua’r de-ddwyrain.

Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfngedig a Heb Gyfyngiad) 2023 yn parhau mewn grym.

Os ydy unrhyw unigolyn wedi ei dramgwyddo gan y Gorchymyn a ddaw i rym ar 18 Mehefin 2026, cynlluniant dan gos y ffaith a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r Gorchymyn, yn Sir y Fflint yn Cyswllt, Stryd yr Eglwys, y Fflint, CH6 5BD yn ystod oriau arferol gwaith eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchymyn Rheolaidau Traffig, neu gellir gofyn am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 701234.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Cyngor Sir y Fflint

Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug, CH7 6LG.

Dyddiedig 15 Mai 2026

www.siryfflint.gov.uk

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at:

classifiednwne@localiq.co.uk

01925 596444

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association