Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Brynhir Estate Road - Introduction and amendments of speed limits
What is happening?
SIR BENFRO
Mae SIR BENFRO yn rhoi hysbysiad ei bod yn bwriadu gwneud y Gorchymyn a ganlyn o dan adran 82, 83, 84 a 124 o’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd, fel a ganlyn:
GORCHYMYN UNO SIR BENFRO (FFYRDD AMRYWIOL) (TERFYNAU CYFLYMDER) 2023 Gorchymyn (DIWYGIAD RHIF 5) 2026
Drwy ddiwygio Gorchymyn Uno Sir Benfro (Ffyrdd Amrywiol) (Terfynau Cyflymder) 2023, effaith y cynigion fydd:
a) Cyflwyno terfynau cyflymder newydd, diwygio a/neu ddirymu terfynau cyflymder presennol ar y darnau hynny o ffordd a restrir yn yr Atodlenni i’r hysbysiad hwn.
b) Amnewid yr holl Atodlenni Map perthnasol â diwygiadau newydd.
Gellir archwilio copi o’r Gorchymyn arfaethedig y mae’n berthnasol iddo, ynghyd â datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, yn ystod oriau swyddfa arferol yn Neuadd y Sir, Freemens Way, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP.
Fel arall, gellir ei weld yn y ddolen ganlynol i’r wefan: www.sir-benfro.gov.uk/rheoleiddio-trraffig-ffyrdd.
Os hoffech wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad naill ai drwy lenwi’r ffurflen adborth ar-lein, neu, yn ysgrifenedig, at y cyfeiriad isod erbyn y 10fed diwrnod o Fehefin 2026. Dyfynnwch: AMAL 2023-A5-26
Dyddiedig yr 20fed diwrnod hwn o Fai 2026.
Sarah Oliver
Prif Swyddog Gwethrediadau Corfforaethol a Chydnerthedd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
ATODLEN 1
TERFYN CYFLYMDER 20 MYA
|
Cyf. |
Lleoliad a Ffordd |
Hyd y ffordd |
|
1.01.0 |
DINBYCH-Y-PYSGOD |
|
|
Heol Ystâd Brynhir |
Hyd Cyfan |
ATODLEN 2
Terfyn cyflymder 40 MYA
|
Cyf. |
Lleoliad a Ffordd |
Hyd o’r ffordd |
|
2.01.0 |
DINBYCH-Y-PYSGOD |
|
|
A478 |
O bwynt 12 metr i’r gogledd o’r fynedfa ogleddol i’r gilfan sy’n arwain at Lady Park i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i bwynt 44 metr i’r gogledd o Heol Ystâd Brynhir. Pellter o oddeutu 394 metr. |
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Tenby Observer series directly at: