Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Bridgend - Prohibition And Restriction On Stopping, Loading And Parking Consolidated Order
What is happening?
GORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (GWAHARDD A CHYFYNGU AR FANNAU AROS A LLWYTHO A PHARCIO) (CYDGRYNHOI) 2024 GORCHYMYN DIWYGIO RHIF [ ] 202-
HYSBYSIR DRWY HYN bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”) fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Porthcawl, yn bwriadu gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer ei bwerau dan Adrannau 1(1), 2(1) i (2), 4, 32, 35,124(1) a Rhan IV Atodlen 9 i Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (Deddf 1984) fel y’i diwygiwyd, Deddf Rheoli Traffig 2004 a phob pŵer galluogi arall ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu ac yn unol â Rhan III Atodlen 9 i Ddeddf 1984, gyda’r effaith o ddiwygio’r cyfyngiadau canlynol yng NGORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR (GWAHARDD A CHYFYNGU AR FANNAU AROS A LLWYTHO A PHARCIO) (CYDGRYNHOI) 2024, fel y'u diwygiwyd, (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”), trwy ddirymu Cynlluniau Gorchymyn: H69, H70, I70, I71, I72 ac I73 dyddiedig 29.11.2024 a mewnosod y Cynlluniau Gorchymyn diwygiedig: H69 Rev 1, H70 Rev 1, I70 Rev 1, I71 Rev 1, I72 Rev 1 ac I73 Rev 1, a bydd eu heffaith fel y nodir yn Atodlen 1 ac atodlen 2 isod. Rhaid anfon gwrthwynebiadau neu sylwadau i'r cynigion, ynghyd â'r seiliau dros eu gwneud, yn ysgrifenedig at y llofnodwr isod yn y cyfeiriad isod neu drwy e-bostio traffictransportation@bridgend.gov.uk, erbyn 05/06/2026.
Mae copi o'r dogfennau gan gynnwys y Gorchymyn arfaethedig, y Cynlluniau a Datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn ar gael drwy naill ai e-bostio traffictransportation@bridgend.gov.uk/ neu drwy ffonio’r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01656 646363 (gan ddyfynnu'r cyfeirnod TRA001-1706) neu o'r Dderbynfa Ddinesig yn y cyfeiriad isod yn ystod oriau swyddfa, neu mae modd eu gweld arlein yn: https://www.bridgend.gov.uk/cy/busnes/trwyddedu/hysbysiadau-cyfreithiol-a-gorchmynion/ neu o Llyfrgell Porthcawl, Church Place, Porthcawl, CF36 3AG rhwng yr oriau canlynol: Dydd Llun 9.30am - 1pm a 2pm - 6pm, Dydd Mawrth 9.30am -1pm a 2pm -6pm, Dydd Mercher 9.30am -1pm, Dydd Iau 9.30am -1pm a 2pm -8pm, Dydd Gwener 9.30am -1pm a 2pm -5pm, Dydd Sadwrn 9.30am -1pm a 2pm -5pm. Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster ymateb yn ysgrifenedig, neu angen yr hysbysiad mewn fformat arall, er enghraifft, print bras, sain, braille neu ffacs, cysylltwch â’r Adran Gyfreithiol gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod neu drwy ffonio’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01656 643643 cyf cyfreithiol TRA001- 1706. Sylwch y gall y Cyngor ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir yn gyhoeddus ac y gallai sylwedd unrhyw sylw (ynghyd ag enw a chyfeiriad y sawl sy’n ei wneud) fod ar gael i’r cyhoedd ei archwilio.
ATODLEN 1 - DIRYMU
(1) DIRYMU 24 CYFYNGIAD CLIRFFORDD (DIM STOPIO) ar y darnau canlynol o ffyrdd ac ochrau darnau o ffyrdd
(i) Ffordd Fynediad Rest Bay o'i chyffordd â Ffordd Mallard, i'w chyffordd â 'The Rest', gan gynnwys y ffyrdd mynediad ac allanfa i Faes Parcio Rest Bay, pellter o oddeutu 920 metr (1006 llath).
2. DIRYMU LLE PARCIO POBL ANABL ar y darnau canlynol o ffyrdd ac ochrau darnau o ffyrdd
(i)Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr orllewinol, o bwynt 636 metr (696 llath) i'r gogledd o'r gyffordd â Ffordd Mallard am bellter o 45 metr (49 llath).
ATODLEN 2
1. CYFLWYNO'R CYFYNGIAD GWAHARDDIAD AR AROS LLWYTHO A DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG ar y darnau canlynol o ffyrdd ac ochrau darnau o ffyrdd
(i) Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr orllewinol, o'r gyffordd â Ffordd Mallard am bellter o oddeutu 636 metr (696 llath).
(ii) Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr orllewinol, o bwynt tua 681 metr (llath) i'r gogledd o'r gyffordd â Ffordd Mallard, hyd at fynedfa 'The Rest', pellter o oddeutu 285 metr (312 llath).
(iii) Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr ddwyreiniol, o'r fynedfa i 'The Rest' i ochr ogleddol ffordd fynediad maes parcio Rest Bay, pellter o oddeutu 172 metr (188 llath).
(iv) Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr ddwyreiniol, o ochr ddeheuol y gyffordd â ffordd fynediad maes parcio Rest Bay tua'r de am bellter o oddeutu 85 metr (93 llath).
(v) Ffordd Fynediad Rest Bay ar ei ochr ddwyreiniol, o'r gyffordd â Ffordd Mallard tua'r gogledd am bellter o oddeutu 635 metr (694 llath).
(vi) Ffordd Fynediad Rest Bay o amgylch palmant mewnol cyfan y triongl unffordd, wedi'i leoli ger mynedfa'r clwb golff a 'The Rest', pellter o oddeutu 125 metr (137 llath).
(vii) Ffordd Fynediad Maes Parcio Rest Bay ar ddwy ochr y ffordd, o'i chyffordd â Ffordd Fynediad Rest Bay am bellter o oddeutu 105 metr (115 llath).
2. LLE PARCIO POBL ANABL - AROS AM HYD AT 4 AWR, DIM DYCHWELYD O FEWN 2 AWR ar y darnau canlynol o ffyrdd ac ochrau darnau o ffyrdd
(i) Ffordd Fynediad Rest Bay ar yr ochr orllewinol, o bwynt 636 metr (696 llath) i'r gogledd o'r gyffordd â Ffordd Mallard am bellter o 45 metr (49 llath).
Dyddiedig: 07/05/2026
K Watson, Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol Rheoliadol ac Etholiadol – Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Glamorgan Gazette directly at: