Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Rhondda - Multiple Road Traffic Notices

CF44 9UYPublished 31/03/26
Western Mail • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch
0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth. YGangenOrchmynion@llyw.cymru 

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A465 
(CYFNEWIDFA HIRWAUN, HIRWAUN, RHONDDA CYNON TAF I GYFNEWIDFA DOWLAIS, DOWLAIS, BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL)
(GWAHARDDIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2026

MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw cylchol ar gefnffordd yr A465 Castell-nedd i’r Fenni, neu gerllaw iddi, rhwng Cyfnewidfa Hirwaun, Hirwain, Rhondda Cynon Taf a Chyfnewidfa Dowlais, Dowlais, Merthyr Tudful, gan gynnwys y ffyrdd ymuno ac ymadael.

Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rheini a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith), pob beiciwr a phob cerddwr rhag mynd ar y darnau o gefnffordd yr A465 a bennir yn Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir y llwybrau eraill yn yr Atodlen honno.

Bydd y Gorchymyn yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 1 Ebrill 2026 a disgwylir i’r gwaharddiadau dros dro weithredu’n ysbeidiol dros nos (20:00 i 06:00 o’r gloch) am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf. Bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn cael eu harddangos cyn dechrau’r gwaith cynnal a chadw cylchol ar unrhyw un safle. Gall cyfnodau cau amrywio o safle i safle. Bydd cau’r ffyrdd ymuno ac ymadael yn cael ei wneud dros nos gyda dargyfeiriadau.

Dim ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd

C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

ATODLEN
Gwahardd cerbydau, beicwyr a cherddwyr dros dro

Y darnau cyfan o’r gerbytffordd tua’r dwyrain a thua’r gorllewin gan gynnwys y ffyrdd ymuno ac ymadael wrth Gyfnewidfa Hirwaun Rhondda Cynon Taf, Cyfnewidfa Croesbychan Rhondda Cynon Taf, Cyfnewidfa Baverstock Merthyr Tudful, Cyfnewidfa Nant Ffrwd Merthyr Tudful, Cyfnewidfa Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, a Chyfnewidfa Dowlais, Merthyr Tudful.

Llwybrau Eraill
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r dwyrain ac sy’n dymuno ymadael â’r A465 neu ymuno â’r A465 wrth y slipffordd ag arwyddion:-

Y brif gerbytffordd a ffordd ymuno tua’r dwyrain Hirwaun; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn ymadael â’r A465 tua’r dwyrain yn Hirwaun, yn mynd tua’r de ar yr A4059 i’r A470 Abercynon ac yna’n mynd tua’r gogledd ar yr A470 i ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r dwyrain Croesbychan; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn ymuno â’r A465 drwy fynd ar y ffordd ymuno tua’r gorllewin, yn teithio i Gyfnewidfa Hirwaun, yn mynd tua’r de ar yr A4059 i Abercynon, yn ymuno â’r A470 tua’r gogledd ac yn ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r dwyrain Baverstock; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn mynd tua’r dwyrain ar Heol Abertawe, yn ymuno â’r A470 ac yn mynd tua’r gogledd i ailymuno â’r A465.

Ffordd ymadael tua’r dwyrain Nant Ffrwd; bydd traffig yr effeithir arno yn ymuno â’r A470, yn mynd tua’r de i Gylchfan Abercannaid, yn ymuno â’r A4060 ac yn ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r dwyrain Tywysog Siarl; bydd traffig yr effeithir arno yn ymuno â’r A465 tua’r gorllewin, yn ymadael â’r A465 yng Nghefn Coed i ymuno â’r A470, yn mynd tua’r de i Gylchfan Abercannaid i’r A4060 ac yn mynd tua’r gogledd i ailymuno â’r A465 tua’r dwyrain.

Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gorllewin ac sy’n dymuno ymadael â’r A465 neu ymuno â’r A465 wrth y slipffordd ag arwyddion:-
Ffordd ymuno tua’r gorllewin Dowlais; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn ymadael â’r A465 tua’r gorllewin yn Nowlais, yn mynd i’r de ar yr A4060 i’r A470 Abercannaid ac yna’n mynd tua’r gogledd ar yr A470 ac yn ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r gorllewin Ysbyty’r Tywysog Siarl; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn mynd tua’r dwyrain ar yr A465 ac yn ymadael yn Nowlais, yn mynd tua’r de ar yr A4060 i gylchfan Abercannaid yr A470, yn mynd tua’r gogledd ar yr A470 ac yna’n ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r gorllewin Nant Ffrwd; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn ymuno â’r A470, yn mynd tua’r de i Gylchfan Abercynon, yn ymadael â’r A470 ac yn ymuno â’r A4059, yn mynd tua’r gogledd i’r Rhigos ac yn ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r gorllewin Baverstock; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn mynd tua’r dwyrain ar Heol Abertawe ac yn ymuno â’r A470, yn mynd tua’r de i Gylchfan Abercynon, yn ymadael â’r A470 ac yn ymuno â’r A4059, yn mynd tua’r gogledd i’r Rhigos ac yn ailymuno â’r A465.

Ffordd ymuno tua’r gorllewin Croesbychan; bydd traffig y bydd cau’r A465 yn effeithio arno yn mynd tua’r gorllewin ar y ffordd sirol i’r A4059 ac yn ailymuno â’r A465 drwy fynd ar ffordd y Rhigos.

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales 

THE A465 TRUNK ROAD (HIRWAUN INTERCHANGE, HIRWAUN RHONDDA CYNON TAF TO DOWLAIS INTERCHANGE, DOWLAIS, MERTHYR TYDFIL COUNTY BOROUGH) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS) ORDER 2026

THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake cyclic maintenance works on or near the A465 Neath to Abergavenny trunk road between Hirwaun Interchange, Hirwaun, Rhondda Cynon Taf and Dowlais Interchange, Dowlais, Merthyr Tydfil, including the entry and exit slip roads.

The effect of the Order will be to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A465 trunk road specified in the Schedule to this Notice. The alternative routes are described therein.

The Order will come into force at 00:01 hours on 1 April 2026 and the temporary prohibitions are expected to operate intermittently overnight (20:00 to 06:00 hours) for a maximum duration of 18 months. Advance traffic signs will be displayed before the start of the cyclic maintenance at any one site. Closure periods may vary from site to site. Slip road closures will be carried out overnight with diversions.

Although the proposed Order is only expected to operate during the times and dates specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Advance notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work.

A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government website at https://gov.wales/road-orders

C WYNN, Transport, Welsh Government

SCHEDULE
Temporary prohibition of vehicles, cyclists and pedestrians
The entire lengths of the eastbound and westbound carriageway including the entry and exit slip roads at Hirwaun Interchange, Rhondda Cynon Taf, Croesbychan Interchange, Rhondda Cynon Taf, Baverstock Interchange, Merthyr Tydfil, Nant Ffrwd Interchange, Merthyr Tydfil, Prince Charles Interchange, Merthyr Tydfil, and Dowlais Interchange, Merthyr Tydfil.

Alternative Routes
The alternative route for eastbound traffic wishing to leave or join the A465 at the signed slip road:-
Hirwaun eastbound entry slip road and mainline; traffic affected by the A465 closure will exit the A465 eastbound at Hirwaun, proceed south along the A4059 to Abercynon A470 and then proceed north on the A470 to rejoin the A465.

Croesbychan eastbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will join the A465 via the westbound onslip, travel to Hirwaun Interchange, proceed south along the A4059 to Abercynon, join the A470 north and rejoin the A465.

Baverstock eastbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will proceed east on Swansea Road, join the A470, and proceed north to rejoin the A465.

Nant Ffrwd eastbound exit slip road; affected traffic shall join the A470, proceed south to Abercanaid Roundabout, join the A4060 and rejoin the A465.

Prince Charles eastbound entry slip road; affected traffic shall join the A465 westbound, exit the A465 at Cefn Coed to join the A470, head south to Abercanaid Roundabout to the A4060, and head north to rejoin the A465 eastbound.

The alternative route for westbound traffic wishing to leave or join the A465 at the signed slip road:-
Dowlais westbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will exit the A465 westbound at Dowlais, proceed south along the A4060 to Abercanaid A470 and then proceed north on the A470 to rejoin the A465.

Prince Charles Hospital westbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will proceed east on the A465 and exit at Dowlais, proceed south along the A4060 to Abercanaid A470 roundabout, proceed north on the A470 to then rejoin the A465.

Nant Ffrwdd westbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will join the A470, proceed south to Abercynon Roundabout, exit the A470 and join the A4059 proceeding north to Rhigos to then rejoin the A465.

Baverstocks westbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will proceed east on Swansea Road and join the A470, proceed south to Abercynon Roundabout, exit the A470 and join the A4059 proceeding north to Rhigos, and then rejoin the A465.

Croesbychan westbound entry slip road; traffic affected by the A465 closure will proceed west on the county road to the A4059 and rejoin the A465 via Rhigos Road. 

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association