Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

A470 Trunk Road - Temporary Prohibitions Of Traffic For Works

LL57Published 02/03/26Expired
Daily Post • 

What is happening?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru 

GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A470 
(CYLCHFAN MALLWYD, GWYNEDD I GYLCHFAN Y BLACK CAT, CONWY)
(GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2026

MAE GWEINIDOGION Cymru wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A470, neu gerllaw iddi, o Fallwyd, Gwynedd hyd at ei chyffordd â chefnffordd yr A55 wrth Gylchfan y Black Cat, Conwy.

Effaith y Gorchymyn fydd gwneud y canlynol dros dro:
i. gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rheini a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys neu ar gyfer y gwaith) rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A470 sy’n ymestyn o bwynt 530 metr i’r de o wrth Gylchfan Mallwyd, Gwynedd, hyd at gyffordd yr A470 a’r A55 wrth Gylchfan y Black Cat, Conwy.

ii. gosod terfyn cyflymder o naill ai 50 mya, 40 mya, 30 mya neu 10 mya ar y darn o’r A470 a ddisgrifir uchod. Bydd y terfynau cyflymder 50 mya, 40 mya neu 30 mya yn weithredol yn ysbeidiol yn ystod cyfnod y gwaith. Dim ond yn ystod gwaith confoi y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn weithredol ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.

Bydd unrhyw ffordd sydd ar gau yn llwyr yn cael ei rheoli gan oleuadau traffig. 
Dim ond am gyfnodau byr y bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn dangos y cyfnodau hynny. Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeiriol.

Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 28 Chwefror 2026 ac yn weithredol yn ysbeidiol tan 23:59 o’r gloch ar 31 Awst 2027 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd

P HUISH, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice
contact 0300 0604400 or email
Transportordersbranch@gov.wales 

THE A470 TRUNK ROAD 
(MALLWYD ROUNDABOUT, GWYNEDD TO BLACK CAT ROUNDABOUT, CONWY) 
(TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 2026

THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A470 trunk road at Mallwyd, Gwynedd to its junction with the A55 trunk road at Black Cat Roundabout, Conwy.

The effect of the Order will be to temporarily:
i. prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works) from proceeding on the length of the A470 trunk road that extends from a point 530 metres south of the Mallwyd Roundabout, Gwynedd to the junction of the A470 and A55 at Black Cat Roundabout, Conwy.

ii. impose either a 50 mph, 40 mph, 30 mph or 10 mph speed limit on the length of the A470 trunk road described above. The 50 mph, 40 mph or 30 mph speed limits will operate intermittently during the work periods. The 10mph speed limit will only operate during convoy working and no overtaking will be permitted during these times.

Any full road closures will be controlled under traffic lights and indicated by advance traffic signs but will only be for short periods of time. No diversionary routes are necessary.

It is expected that the temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, will come into force at 00:01 hours on 28 February 2026 and operate intermittently until 23:59 hours on 31 August 2027 or until the temporary traffic signs are permanently removed.

A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders

P HUISH, Transport, Welsh Government

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association