A5 Trunk Road - Temporary Prohibitions Of Traffic For Works
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn,
ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A5 (CYFFORDD 11 (CYFNEWIDFA LLYS Y GWYNT), BANGOR, GWYNEDD I (GYLCHFAN Y GLEDRYD), Y WAUN, WRECSAM HYD AT FFIN CYMRU/LLOEGR)
(GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2026
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A5, neu gerllaw iddi, o’i chyffordd â chefnffordd yr A55 wrth Gyfnewidfa Llys y Gwynt, Gwynedd hyd at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, Wrecsam.
Effaith y Gorchymyn fydd gwneud y canlynol dros dro:
i. gwahardd pob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith) rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A5 sy’n ymestyn o Gyffordd 11 cefnffordd yr A55 wrth Gyfnewidfa Llys y Gwynt, Gwynedd i Gylchfan y Gledryd, y Waun ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, Wrecsam.
ii. gosod terfyn cyflymder o naill ai 50 mya, 40 mya, 30 mya neu 10 mya ar y darn o’r A5 a ddisgrifir uchod. Bydd y terfyn cyflymder o 50 mya, 40 mya neu 30 mya yn weithredol yn ysbeidiol yn ystod cyfnod y gwaith. Dim ond pan fydd gwaith confoi yn digwydd y bydd y terfyn cyflymder o 10 mya yn weithredol ac ni chaniateir goddiweddyd ar yr adegau hyn.
Bydd unrhyw ffordd sydd ar gau yn llwyr yn cael ei rheoli gan oleuadau traffig. Dim ond am gyfnodau byr y bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion traffig a osodir ymlaen llaw yn dangos y cyfnodau hynny. Nid oes angen unrhyw lwybrau dargyfeiriol.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a’r cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 00:01 o’r gloch ar 28 Chwefror 2026 ac yn weithredol yn ysbeidiol tan 23:59 o’r gloch ar 28 Awst 2027 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice
contact 0300 0604400 or email
Transportordersbranch@gov.wales
THE A5 TRUNK ROAD (JUNCTION 11 (LLYS Y GWYNT INTERCHANGE), BANGOR, GWYNEDD TO (GELDRID ROUNDABOUT), CHIRK, WREXHAM TO THE WALES/ENGLAND BORDER)
(TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 2026
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A5 trunk road, from its junction with the A55 trunk road at Llys y Gwynt Interchange, Gwynedd to the Wales/England Border, Wrexham.
The effect of the Order will be to temporarily:
i. prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works) from proceeding on the length of the A5 trunk road that extends from Junction 11 of the A55 trunk road at Llys y Gwynt Interchange, Gwynedd to Gledrid Roundabout, Chirk on the Wales/England border, Wrexham.
ii. impose either a 50 mph, 40 mph, 30 mph or 10 mph speed limit on the length of the A5 described above. The 50 mph, 40 mph or 30 mph speed limit will operate intermittently during the work period. The 10 mph speed limit will only operate during convoy working and no overtaking will be permitted during these times.
Any full road closures will be controlled under traffic lights and indicated by advance traffic signs and will only be for short periods of time. No diversionary routes are necessary.
It is expected that the temporary prohibitions and restrictions, which will be signed accordingly, will come into force at 00:01 hours on 28 February 2026 and operate intermittently until 23:59 hours on 28 August 2027 or until the temporary traffic signs are permanently removed.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/road-orders
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: