The Ridgeway, Nr Manorbier / St Florence - Temporary restrictions due to overhead cabling works
What is happening?
GORCHYMYN SIR BENFRO
(THE RIDGEWAY GER MAENORB/ SAIN FFLWRENS)
(GWAHARDD TRAFFIG CERBYDOL DROS DRO) 2025
Rhoddir HYSBYSIAD drwy hyn fod Cyngor Sir Penfro wedi gwneud gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991. Mae’r gorchymyn yn angenrheidiol fel y gellir cynnal gwaith gosod ceblau telathrebu o dan ac uwchben y ddaear. Effaith y gorchymyn fydd gwahardd dros dro yr holl draffig cerbydol heblaw am gerbydau esempt rhag mynd ar hyd y rhan honno o The Ridgeway, ger Maenorb/ Sain Fflwrens o’i chyffordd â ffordd yr C3055 sy’n arwain at Orsaf Drenau Maenorbi’r dwyrain i’w chyffordd â ffordd yr U6321 sy’n arwain at Barc Gwyliau Whitewell. Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau, a fydd yn cael eu dangos gan arwyddion ffyrdd priodol, yn dod i rym ddydd Llun, 8 Rhagfyr 2025 am oddeutu 16 diwrnod gwaith, rhwng 9.30am a 3.30pm. Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar raglen dreigl er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Y llwybr amgen i draffig fydd trwy ffordd yr C3055 sy’n arwain at Orsaf Drenau MaenorbStation Road, ffordd yr A4139 o Landyfi Benalun, ffordd yr C3184 trwy gabanau gwyliau Penally Grange, Bryn Holloway a The Ridgeway. Bydd y gorchymyn yn parhau i fod yn ddilys am uchafswm o 18 mis fel cynllun wrth gefn pe bai angen aildrefnu’r gwaith, neu os bydd unrhyw amgylchiadau annisgwyl.
Dyddiedig 3 Rhagfyr 2025
Sarah Edwards Pennaeth Trafnidiaeth a’r Amgylchedd Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Tenby Observer series directly at: