Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Traffic & Roads

Crackwell Street, Dinbych-y-pysgod - Temporary restrictions due to maintenance work on properties

SA70 7BYPublished 03/12/25
Tenby Observer series • 

What is happening?

Rhoddir HYSBYSIAD drwy hyn fod Cyngor Sir Penfro yn bwriadu, nid llai na saith diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn, gwneud gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991.

Mae'r gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol er mwyn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw ar eiddo yng nghyffiniau Tŷ Goscar.

Effaith y gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob traffig cerbydol heblaw cerbydau eithriedig rhag mynd ar hyd y rhan honno o Crackwell Street, Dinbych-y-pysgod – o bwynt ger yr eiddo a elwir yn Lower Anchorage, i'r gogledd-orllewin i bwynt ger yr eiddo a elwir yn Northcliffe.

Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau, a fydd yn cael eu dangos ag arwyddion ffyrdd, yn dod i rym ddydd Llun 5 Ionawr 2026 am oddeutu pedair wythnos. Mae Crackwell Street yn stryd unffordd i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Y llwybr amgen i draffig fydd trwy Stryd y Bont, St Julians Street, Tudor Square, Stryd Fawr a Crackwell Street. Bydd y gorchymyn un ffordd sy'n effeithio ar Crackwell Street yn cael ei atal dros dro i alluogi traffig dwyffordd cyfyngedig i eiddo sydd wedi'u lleoli ar ei hyd. 

Bydd y gorchymyn yn parhau i fod yn ddilys am uchafswm o 18 mis fel cynllun wrth gefn pe bai angen aildrefnu’r gwaith, neu os bydd unrhyw amgylchiadau annisgwyl.  

Dyddiedig 3 Rhagfyr 2025  

Sarah Edwards Pennaeth Trafnidiaeth a’r Amgylchedd Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd      

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Tenby Observer series directly at:

carolyn.cox@tenby-today.co.uk

01834 843262

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association