Cardiff - New Traffic Proposals
What is happening?
CYNIGION TRAFFIG NEWYDD AR GYFER DINAS A SIR CAERDYDD
Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, wrth arfer ei bwerau dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), a’r holl bwerau galluogi eraill, yn bwriadu gosod cyfyngiadau traffig ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod. Mae natur y cyfyngiadau a theitlau’r gorchmynion arfaethedig hefyd wedi eu disgrifio yn yr Atodlen honno.
Mae manylion y cynigion a’r cynlluniau sy’n dangos y lleoliadau a graddau’r cyfyngiadau arfaethedig ar gael yn www.cardiff.gov.uk/CYM/ preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gorchmynion-Traffig. Yn ogystal, gallwch gael copïau trwy anfon cais trwy e-bost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk neu drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.
Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau eraill sy’n ymwneud â’r gorchymyn yn ysgrifenedig ar neu cyn 15 Rhagfyr 2025 neu drwy ebost i gwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk a rhaid nodi eich rhesymau dros wrthwynebu. Gellir datgelu gohebiaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn yr iaith o’ch dewis, boed hynny’n Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, cyhyd â’ch bod yn dweud wrthym pa un sydd orau gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
Atodlen
1. Mae Gorchymyn Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Stopio, Aros, Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2024 (Diwygiad Rhif 166) Gorchymyn 2025 yn cynnig:
a) Diwygio’r cyfyngiad dim aros ar unrhyw adeg presennol i’ch atal rhag llwytho o ddydd Llun i ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau hynny) rhwng 8am a 9:30am a 2:45pm i 3:30pm yn Stryd Lydan ar ochr ogleddol ffin eiddo rhifau 134 a 136 Stryd Lydan i ffin eiddo Rhifau 126 a 128 Stryd Lydan
b) Eich atal rhag aros ar unrhyw adeg heb lwytho o ddydd Llun i ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau hynny) rhwng *am a 4:30pm yn Stryd Lydan (Ffordd Fynedfa’r Ysgol) ar ochr y gorllewin o’r gyffordd â Stryd Lydan am 39 metr i’r de ac ar ochr y dwyrain o’r gyffordd â Stryd Lydan am 31 metr i’r de.
c) Eich atal rhag stopio o ddydd Llun i ddydd Gwener (gan gynnwys y diwrnodau hynny) o 8am i 4:30pm yn Stryd Lydan ar ochr y de o ffin eiddo rhifau 113 a 115 Stryd Lydan hyd at bwynt 2 fetr i’r de-ddwyrain o ffin eiddo rhifau 111 a 109 Stryd Lydan
24 Tachwedd 2025 Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
NEW TRAFFIC PROPOSALS FOR THE CITY AND COUNTY OF CARDIFF
Notice is hereby given that the County Council of the City and County of Cardiff in exercise of its powers under the Road Traffic Regulation Act 1984 (as amended) and of all other enabling powers intends to impose traffic restrictions on the lengths of road referred to in the Schedule below. The nature of the restrictions and the titles of the proposed orders are also described in the said Schedule.
Details of the proposals and plans showing the location and extent of the proposed restrictions are available at www.cardiff.gov.uk/trafficorders. In addition you can obtain copies of the same by sending an email request to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk or by making a written request to the address below.
Any objections and other representations relating to the orders must be submitted in writing on or before 15th December 2025 or by email to roadtrafficorderobjections@cardiff.gov.uk and must contain the grounds on which you object. Correspondence may be disclosed as required by the Freedom of Information Act 2000.
The Council welcomes correspondence in English and W elsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that’s English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
This document is available in Welsh/Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg.
Schedule
1. The County Council of The City and County of Cardiff (Prohibitions and Restrictions of Stopping, Waiting, Loading and Street Parking Places) (Consolidation) Order 2024 (Amendment No 166) Order 2025 proposes to:
a) Amend the existing no waiting at any time restriction to also prevent you from loading Monday to Friday (inclusive) between the hours of 8am to 9:30am and 2:45pm to 3:30pm in Broad Street on its north side from the property boundary of numbers 134 and 136 Broad Street to the property boundary of Numbers 126 and 128 Broad Street
b) Prevent you from waiting at any time with no loading Monday to Friday (inclusive) between the hours of 8am and 4:30pm in Broad Street (School Access Road) on its west side from its junction with Broad Street for a distance of 39 metres south and on its east side from its junction with Broad Street for a distance of 31 metres south.
c) Prevent you from stopping Monday to Friday (inclusive) between the hours of 8am and 4:30pm in Broad Street on its south side from the property boundary of numbers 113 and 115 Broad Street to a point 2 metres south east of the property boundary of numbers 111 and 109 Broad Street
24 November 2025 Director of Governance & Legal Services, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: