Lôn Garmon - Temporary Prohibition Of Through Traffic For Works
What is happening?
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD 1984
ADRAN 14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO) 1991
GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD (FFORDD DOSBARTH III A ADWAENIR FEL LÔN GARMON, ABERSOCH) (GWAHARDDIAD TRAFNIDIAETH TRWODD DROS DRO) 2025
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Gwynedd wedi gwneud Gorchymyn sydd yn gwahardd unrhyw berson rhag peri i unrhyw gerbyd fynd mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd y darn hwnnw o’r Ffordd Dosbarth III a adwaenir fel Lôn Garmon, Abersoch o bwynt ger ei gyffordd gyda Ffordd Fynedfa Cae Pin gan deithio mewn cyfeiriad gogledd orllewinol hyd at bwynt ger yr eiddo a adwaenir fel Morwel, Lôn Garmon, Abersoch.
Mae angen y Gorchymyn ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith cloddio ar ran Scottish Power. Gwyriad Gogleddol: Teithio mewn cyfeiriad de orllewinol ar Allt Sychnant, Llangian hyd at y gyffordd ger Eglwys Sant Engan, Llanengan. Troi i’r chwith i deithio mewn cyfeiriad gogledd ddwyreiniol. Yn y gyffordd gyda Lôn Pont Morgan (A499), troi i’r chwith i deithio mewn cyfeiriad gogleddol hyd at y caead. Bydd mynediad ar gael i drigolion.
Gwyriad Deheuol: Teithio mewn cyfeiriad deheuol ar Lôn Pont Morgan (A499) yna troi i’r chwith yn y gyffordd gyda Lôn Engan (A499) i ddilyn yr A499 mewn cyfeiriad de ddwyreiniol, yna gogledd orllewinol. Troi i’r chwith yn y gyffordd gyda Lôn Engan i deithio mewn cyfeiriad de orllewinol. Yn y gyffordd ger Eglwys Sant Engan, Llanengan, troi i’r dde i deithio mewn cyfeiriad gogledd ddwyreiniol hyd at y caead. Bydd mynediad ar gael i drigolion.
Daeth y Gorchymyn i rym ar y 10fed o Dachwedd 2025 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd hwy na un mis neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir y gellir cwblhau’r gwaith o fewn tua 15 diwrnod.
DYDDIEDIG: 12fed o Dachwedd 2025
Iwan G. D. Evans LLB(Anrh) PGCert Dip.L.G.
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jl, CAERNARFON, Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cau ffoniwch yr Ymgeisydd - Danny Jones ar 07467756045.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gorchymyn ffoniwch y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad ar(01286) 679437. (2976624 EMH)
ROAD TRAFFIC REGULATION ACT 1984 SECTION 14(1) AS AMENDED BY THE ROAD TRAFFIC (TEMPORARY RESTRICTIONS) ACT 1991
THE GWYNEDD COUNCIL
(CLASS III ROAD KNOWN AS LÔN GARMON, ABERSOCH) (TEMPORARY PROHIBITION OF THROUGH TRAFFIC) ORDER 2025
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Gwynedd Council have made an Order, the effect of which is to prohibit any person from causing any vehicle to proceed in either direction along that length of Class III Road known as Lôn Garmon, Abersoch from a point by the entrance to Cae Pin travelling north westerly up to a point by the property known as Morwel, Lôn Garmon, Abersoch.
The Order is necessary on health and safety grounds to the public during excavation works on behalf of Scottish Power. Northern Diversion: Travel south westerly on Allt Sychnant, Llangian up to the junction by St. Engan’s Church, Llanengan. Turn left to travel in a north easterly direction. At the junction with Lôn Pont Morgan (A499), turn left to travel in a northerly direction up to the closure. Access will be maintained for residents.
Southern Diversion: Travel southerly on Lôn Pont Morgan (A499) then turn left at the junction with Lôn Engan (A499) to follow the A499 in a south easterly, then north westerly direction. Turn left at the junction with Lôn Engan to travel south westerly. At the junction by St. Engan’s Church, Llanengan, turn right to travel north easterly up to the closure.
Access will be maintained for residents.
The Order came into effect on the 10 th of November 2025 and will continue in force for a period not exceeding one month or until the work which it is proposed to carry out on the road is completed, whichever is the earlier. At this stage it is anticipated that the work will be completed within approximately 15 days.
DATED: 12th November 2025
Iwan G. D. Evans LLB(Hons) PGCert Dip.L.G.
Head of Legal Services Council Offices, Shirehall Street, CAERNARFON, Gwynedd.
For further information regarding the closure please telephone the Applicant - Danny Jones on 07467756045.
For further information regarding the Order please telephone the Transportation and Countryside Service on (01286) 679437. (2976624 EMH)
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Caernarfon Herald directly at: