Tatham Road, Ruabon - Public Path Diversion Order
What is happening?
HYSBYSIAD CADARNHAU GORCHYMYN DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS DEDDF PRIFFYRDD 1980
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Llwybr Cyhoeddus Rhiwabon 13) Gorchymyn Dargyfeirio Llwybr Cyhoeddus 2022
Ar 3 Awst 2025, cadarnhaodd Gweinidogion Cymru y Gorchymyn uchod a wnaed dan yr adran 119 Deddf Priffyrdd 1980.
Effaith y Gorchymyn fel y’i cadarnhawyd yw dargyfeirio’r rhan honno o lwybr cyhoeddus Rhiwabon 13 sy’n dechrau o Ffordd Tatham yn Fferm Tatham yn SJ 3986 4447 ac yn parhau yn gyffredinol i’r de-ddwyrain am oddeutu 155 metr hyd at SJ 2996 4436 i aliniad sy’n dechrau o lwybr cyhoeddus Rhiwabon 13A yn SJ 2991 4435 ac yn parhau yn gyffredinol i’r dwyrain i’r gogledd-ddwyrain am oddeutu 60 metr gan ddilyn ochr ogleddol ffin bresennol y cae a thrwyy’r ffin honno yn SJ 2996 4437 i ymuno â pharhad llwybr cyhoeddus Rhiwabon 13 yn SJ 2996 4436.
Mae copi o’r Gorchymyn fel y’i cadarnhawyd a Map y Gorchymyn wedi’u gosod a gellir eu gweld am ddim yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY rhwng 9.00am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gellir cael copiâu o’r Gorchymyn a Map y Gorchymyn am ddim o Neuadd y Dref.
Ardystiwyd telerau erthygl 1 y Gorchymyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 21 Hydref 2025 a daw’r Gorchymyn i rym ar 3 Tachwedd 2025, os bydd unrhyw berson yn teimlo ei fod wedi’i dramgwyddo gan y Gorchymyn ac yn amau ei ddilysrwydd, neu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi’u cynnwys ynddo, ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980 fel y’i diwygwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, fel y’i diwygwyd, neu unrhyw reolau a wnaed dan y Ddeddf mewn cysylltiad â’r Gorchymyn, gall, dan baragraff 2 Atodlen 2 y Ddeddf fel y nodir ym mharagraff 5 Atodlen 6 o’r Ddeddf, o fewn 6 wythnos o 24 Hydref 2025, wneud cais i’r Uchel Lys.
Dyddiad 24 Hydref 2025
Linda Roberts Prif Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg ac ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
NOTICE OF CONFIRMATION OF A PUBLIC PATH DIVERSION ORDER HIGHWAYS ACT 1980
The Wrexham County Borough Council (Ruabon Public Footpath 13) Public Path Diversion Order 2022
On 03 August 2025, the Welsh Ministers confirmed the above Order made under section 119 of the Highways Act 1980.
The effect of the Order as confirmed is to divert that part of Ruabon public footpath 13 commencing from Tatham Road at Tatham Farm at SJ 3986 4447 and continuing generally south east for approximately 155 metres to SJ 2996 4436 onto an alignment commencing from Ruabon public footpath 13A at SJ 2991 4435 and continuing generally east north-east for approximately 60 metres following the north side of the existing field boundary and through said boundary at SJ 2996 4437 to join the continuation of Ruabon public footpath 13 at SJ 2996 4436. A copy of the Order as confirmed and the Order Map have been placed and may be seen free of charge at the Offices of Wrexham County Borough Council, Guildhall, Wrexham, LL11 1AY from 9.00am to 4.30pm, Monday to Friday. Copies of the Order and Order Map may be obtained free of charge from the Guildhall.
The terms of article 1 of the Order were certified by Wrexham County Borough Council on 21 October 2025 and the Order comes into force on 03 November 2025, but if any person aggrieved by the Order wants to question its validity, or that of any provision contained in it, on the ground that it is not within the powers of the Highways Act 1980, as amended, or on the ground that any requirement of the Act, as amended, or of any regulation made under the Act has not been complied with in relation to the Order, he or she may, under paragraph 2 of Schedule 2 to the Act as applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the Act, within 6 weeks from 24 October 2025, make an application to the High Court.
Dated 24 October 2025
Linda Roberts Chief Officer Governance and Customer
We welcome correspondence in Welsh. We will respond to any correspondence in Welsh which will not lead to a delay.
How long will it take?
Planned start
3-Nov-2025
Estimated end
4-Nov-2025
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: