Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media

Community Alert! Click here to contribute.

Traffic & Roads

Flintshire, Multiple Traffic Notices, Temporary Closures

CH7Published 17/10/25
The Leader • 

What is happening?

RHYBUDD O ORCHYMYN RHEOLIEDDIO TRAFFIG DROS DRO

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLIEDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

MYNYDD ISA

Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, nid cynt na saith diwrnod wedi 17 Hydref 2025, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Ffordd Wasanaeth Ffordd yr Wyddgrug, rhwng y cyffyrdd ag Alyndale Avenue ac A549 Ffordd yr Wyddgrug ym Mynydd Isa, Sir y Fflint.

Mae angen cau’r ffordd fel y gall Wales and West Utilities osod prif bibell nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.

Bydd arwyddion priodol wedi’u gosod i dwyys cerbydau ar hyd y ffyrdd arall. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.

Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 3 Tachwedd 2024, neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am dair wythnos, oni chwblerir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

LC/FCC (TTRO) 3103812

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint.

Dyddiedig 17 Hydref 2025.

RHYBUDD O ORCHYMYN RHEOLIEDDIO TRAFFIG DROS DRO

CYNGOR SIR Y FFLINT

GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLIEDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

CARMEL

Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn, nid cynt na saith diwrnod wedi 17 Hydref 2025, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Ffordd Carmel, rhwng y cyffyrdd â’r A5026 a Lôn Celyn yng Ngharmel, Sir y Fflint.

Mae angen cau’r ffordd fel y gall Wales and West Utilities osod prif bibell nwy newydd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.

Bydd arwyddion priodol wedi’u gosod i dwyys cerbydau ar hyd y ffyrdd arall. Caniateir mynediad i gerddwyr tra bydd y ffordd ar gau.

Rhagwelir y daw’r Gorchymyn i rym ar 31 Hydref 2025, neu cyn gynted ag y phosib wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am chwe wythnos, oni chwblerir y gwaith yn gynt, ond nid hwy na deunaw mis.

LC/FCC (TTRO) 3105796

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint.

Dyddiedig 17 Hydref 2025.

HYSBYSIAD O ORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO

DEDDF RHEOLIEDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 – ADRAN 14

HENDRE

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn sy’n gwahardd unrhyw gerbydau a cherddwyr rhag mynd ar hyd ffordd ddienw rhwng ei chyffordd â’r A541 Ffordd Dinbych a Fferm Hendre, Hendre, yn Sir y Fflint.

Mae angen cau’r ffordd am resymau diogelwch y briffordd yn dilyn tirlithriad.

Bydd arwyddion pwrpasol yn dangos y ffordd arall i gerbydau a cherddwyr y mae cau’r ffordd yn effeithio arnynt. Caniateir mynediad i gerddwyr at unrhyw adeilad ar y ffordd neu wrth ei hymyl, neu unrhyw adeilad arall y mae mynediad i gerddwyr ato o’r ffordd hon, ac o’r ffordd hon yn unig, drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ynghau.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 20 Hydref 2025, neu cyn gynted ag y bo’n bosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ynghau am chwe mis, oni chwbleir y gwaith yn gynt, ond ni fydd ynghau am fwy na deunaw mis.

LC/FCC (TTRO) 3075644

Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Ty Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint.

Dyddiedig 17 Hydref 2025.

*]:pointer-events-auto scroll-mt-[calc(var(--header-height)+min(200px,max(70px,20svh)))]" data-turn="assistant" data-scroll-anchor="true" data-testid="conversation-turn-8" data-turn-id="request-WEB:3aeb2ca3-0e5f-438e-88e9-0c52004559b4-66">

RHYBUDD O WNEUD

GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT (FFYRDD AMRYWIOL) (TERFYNAU CYFLYMDER 20MYA, 30MYA, 40MYA, 50MYA A THERFYNAU CYFLYMDER CENEDLAETHOL. FFYRDD CYFYNGEDIG A HEB GYFYNGIAD) (A550, PENARLÂG) (TERFYN CYFLYMDER, FFORDD GYFYNGEDIG A 40MYA) (DIWYGIAD RHIF 16) 2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd trwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 14 Hydref 2025 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82 (2) (a) a 84 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a’r holl bwerau galluogi eraill, gyda’r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a Therfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfyngedig a Heb Gyfyngiad) 2023, er mwyn:

a) Gosod terfyn cyflymder 20mya (Ffordd Gyfyngedig):-

A550, Penarlâg:

O’r gyffordd â’r B5125 Ffordd Glynne, Penarlâg am bellter o 230 metr i gyfeiriad y de, fel y dangosir.

b) Ymestyn y terfyn cyflymder presennol o 40mya ar yr:-

A550, Penarlâg:

O bwynt 230 metr i gyfeiriad y de o’r gyffordd â’r B5125 Ffordd Glynne, Penarlâg am bellter o 135 metr i gyfeiriad y de, fel y dangosir.

Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol) (20mya, 30mya, 40mya, 50mya a’r Terfynau Cyflymder Cenedlaethol. Ffyrdd Cyfyngedig a Heb Gyfyngiad) 2023 yn parhau mewn grym.

Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 30 Hydref 2025, cynlluniau’n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros wneud y Gorchymyn gellir ei archwilio, yn Sir y Fflint yn Cyswllt, Llyfrgell yr Wyddgrug, Earl Road Yr Wyddgrug CH7 1AP yn ystod oriau agor neu fe allwch eu gweld ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy e-bostio transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk

neu drwy ffonio 01352 701234.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug CH7 6LG.

Dyddiedig 17 Hydref 2025.

RHYBUDD O WNEUD

GORCHYMYN – CYNGOR SIR Y FFLINT (LLEOEDD PARCIO ODDI AR Y STRYD – YR WYDDGRUG) (DIWYGIAD RHIF 2) GORCHYMYN 2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd trwy hyn bod wedi gwneud wedi gwneud Gorchymyn ar 14 Hydref 2025 drwy arfer ei bwerau dan Adran 82 (2) (a) a 84 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rhan III o Atodlen 9 Ddeddf 1984, effeith hyn fydd diwygio:-

Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd - Yr Wyddgrug) (Gorfodaeth Sifil) 2018 a Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd - Yr Wyddgrug) (Diwygiad Rhif 1) 2022

-: fel bod

Bydd Atodlen 2A o fewn Gorchymyn (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd - Yr Wyddgrug) (Diwygiad Rhif 1) Cyngor Sir y Fflint 2022 yn cael ei ddiwygio, i gyfuno cyfnodau cod tâl dydd / nos er mwyn galluogi un taliad a fydd yn cynnwys y cyfnod rhwng 8am a 10pm o fewn y Maes Parcio Prif Fynedfa, Neuadd y Sir a Maes Parcio Aml-Lawr, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.

Ym mhob agwedd arall mae darpariaethau presennol y Gorchmynion uchod yn parhau mewn grym.

Os ydych yn dymuno gweld copi o’r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 27 Hydref 2025, cynlluniau’n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau’r cyngor dros y Gorchymyn i’w gweld yn Sir y Fflint yn Cyswllt, Llyfrgell Yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1AP. Bydd y dogfennau hefyd ar gael ar-lein ar ein gwefan www.siryfflint.gov.uk > Preswylwyr > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu fe allwch wneud cais am gopi o’r dogfennau drwy anfon e-bost at transportstrategyconsultation@flintshire.gov.uk

neu drwy ffonio 01352 701234.

Os ydych chi’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo ar y sail na chydymffurfirwydd ag unrhyw ofyniad y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaethpwyd

dan i o ran y Gorchymyn, neu efallai, o fewn chwe wythnos o ddyddiad y Gorchymyn, wneud cais i’r uchel Llys, i’r pwrpas hwn.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, yr Wyddgrug CH7 6LG.

Dyddiedig 17 Hydref 2025.

www.siryfflint.gov.uk

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at:

classifiednwne@localiq.co.uk

01925 596444

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association