Clydach Village Hall, Station Road, Clydach, Abergavenny - Multiple footpath modification Hearing
What is happening?
HYSBYSIAD O
WRANDAWIAD
DEDDF BYWYD
GWYLLT A CHEFN
GWLAD 1981
HYSBYSIR DRWY HYN Y BYDD AROLYGYDD A BENODWYD GAN WEINIDOGION CYMRU YN BRESENNOL YN
NEUADD BENTREF CLYDACH, HEOL YR ORSAF,
CLYDACH, Y FENNI, SIR FYNWY, NP7 0LP
AR
DDYDD MAWRTH 11 TACHWEDD 2025 AM 10:00 I GYNNAL GWRANDAWIAD YNGLY^N Â’R GORCHMYNION CANLYNOL:
1. Gorchymyn 1 - CAS-02789-Q1N6Z2 - Gorchymyn Addasu (Llwybr Troed Cyhoeddus Rhif 115A yng Nghymuned Llanelly) 2014
2. Gorchymyn 2 - CAS-02791-C4R8G5 - Gorchymyn Addasu (Llwybr Troed Cyhoeddus Rhif 118 yng Nghymuned Llanelly) 2017
Effaith Gorchymyn 1, os caiff ei gadarnhau fel y’i gwnaed, fydd addasu’r Map a’r Datganiad Diffiniol ar gyfer yr ardal drwy ychwanegu llwybr troed atynt o gyfeirnod grid 324370,214494 i gyfeiriad deheuol-de-ddwyreiniol am oddeutu 80 metr i gyfeirnod grid 324408,214427.
Effaith Gorchymyn 2 fydd addasu’r Map a’r Datganiad Diffiniol ar gyfer yr ardal drwy ddileu’r rhan honno o lwybr troed rhif 118 o gyfeirnod grid 32436,21450 a symud ymlaen i gyfeiriad deheuol-de-ddwyreiniol am oddeutu 7 metr i gyfeirnod grid 32436,21449 ac ychwanegu llwybr troed ato o gyfeirnod grid 32436,21450 a symud ymlaen wrth ymyl basn y gamlas i gyfeiriad gorllewinol-de-orllewinol ac yn gyfochrog â llwybr troed rhif 108 i gyfeirnod grid 32430,21446 ger Waterfall Cottage am bellter o oddeutu 70 metr.
Diben y Gwrandawiad yw galluogi’r Arolygydd i glywed sylwadau gan yr unigolion hynny sydd wedi gwrthwynebu’r Gorchmynion. Caiff unrhyw unigolion eraill â buddiant fynychu hefyd a chael caniatâd i siarad yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.
Caiff unrhyw unigolyn sy’n dymuno gweld y datganiadau achos a dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchmynion wneud hynny drwy apwyntiad ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, LD3 7HP yn ystod oriau swyddfa arferol. (Cyswllt yr Awdurdod: Eifion Jones, rhif ffôn: 01874 620452 – e-bost: eifion.jones@beacons-npa.gov.uk).
Isabel Nethell
Awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru
Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
PEDW.gwaithachos@llyw.cymru
NOTICE OF A HEARING
WILDLIFE & COUNTRYSIDE ACT 1981
NOTICE IS HEREBY GIVEN THAT AN INSPECTOR APPOINTED BY THE WELSH MINISTERS WILL ATTEND AT
CLYDACH VILLAGE HALL, STATION ROAD,
CLYDACH, ABERGAVENNY, MONMOUTHSHIRE, NP7 0LP
ON
TUESDAY 11 NOVEMBER 2025 AT 10:00 TO HOLD A HEARING INTO THE ORDERS: 1. Order 1 - CAS-02789-Q1N6Z2 - (Public Footpath No. 115A in the Community of Llanelly) Modification Order 2014
2. Order 2 - CAS-02791-C4R8G5 - (Public Footpath No. 118 in the Community of Llanelly) Modification Order 2017
The effect of Order 1, if confirmed as made, will modify the Definitive Map and Statement for the area by adding to them a footpath from grid reference 324370,214494 in a south south easterly direction for approximately 80 metres to grid reference 324408,214427
The effect of Order 2 will modify the Definitive Map and Statement for the area by deleting that part of footpath no. 118 from grid reference 32436,21450 and proceeding in a south south easterly direction for approximately 7 metres to grid reference 32436,21449 and, adding thereto a footpath from grid reference 32436,21450 and proceeding alongside the canal basin in a west south westerly direction and parallel to footpath no. 108 to grid reference 32430,21446 near Waterfall Cottage for a distance of approximately 70 metres.
The purpose of the Hearing is to enable the Inspector to hear representation from those persons who have objected to the Orders. Any other interested persons may also attend and be allowed to speak at the discretion of the Inspector.
Any person wishing to view the statements of case and other documents relating to the Orders may do so by appointment at Bannau Brycheiniog National Park, Cambrian Way, Brecon, LD3 7HP during normal office hours. (Authority contact: Eifion Jones, tel. no.: 01874 620452 – email: eifion.jones@beacons-npa.gov.uk).
Isabel Nethell
Authorised by the Welsh Ministers
Crown Buildings, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ PEDW.casework@gov.wales
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Abergavenny Chronicle directly at: