Rogerstone, Newport – Stopping-Up of Highway to Enable Development
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
GORCHYMYN CAU PRIFFYRDD
(OAK ROAD, TY -DU, CASNEWYDD) 2025
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) i awdurdodi cau’r darnau o briffordd a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod angen cau’r briffordd. Nid awdurdodir cau’r briffordd ond er mwyn gwneud y datblygiad yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 8 Ionawr 2025 o dan y cyfeirnod 22/0919 a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn.
Bydd Gorchymyn Cau Priffyrdd (Oak Road, Ty -du, Casnewydd) 2025 (“y Gorchymyn”) yn peidio â chael effaith os daw’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r datblygiad i ben neu os caiff ei ddirymu.
Gellir edrych ar gopïau o’r Gorchymyn a’r plan a adeiladwyd yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor arferol yn Llyfrgell Ty -du, Castle View, 146 Tregwilym Road, Ty -du, Casnewydd, NP10 9EL neu gellir eu cael yn rhad ac am ddim o’r cyfeiriad isod gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2281183.
Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan y Gorchymyn, ar y sail:
a. nad yw o fewn pwerau Deddf 1990; neu
b. na chydymffurfirwyd ag un o ofynion gweithdrefnol Deddf 1990;
o fewn 6 wythnos i 29 Mehefin 2025 wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwnnw.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
(Bras amcan yw pob mesuriad)
Y darnau o briffordd sydd i’w cau
Darn bron yn betryalog ei siâp o briffordd ar y chwith i’r bloc fflatiau (Rhifau 15 i 18 Oak Road) gyda chyfanswm arwynebedd o 18.97 o fetrau sgwâr, wedi ei labelu’n ‘A’ ac wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adeiladwyd.
Darn afreolaidd ei siâp o briffordd ar y chwith i’r bloc fflatiau (Rhifau 10 i 14 Oak Road) ac o flaen y bloc fflatiau (Rhifau 15 i 18 Oak Road) gyda chyfanswm arwynebedd o 46.86 o fetrau sgwâr, wedi ei labelu’n ‘B’ ac wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adeiladwyd.
Darn afreolaidd ei siâp o briffordd y tu cefn i’r bloc fflatiau (Rhifau 6 i 9 Oak Road) ac sy’n ymestyn o flaen y bloc fflatiau (Rhifau 10 i 14 Oak Road) gyda chyfanswm arwynebedd o 191.79 o fetrau sgwâr, wedi ei labelu’n ‘C’ ac wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adeiladwyd.
Darn bron yn betryalog ei siâp o briffordd o flaen y bloc fflatiau (Rhifau 1 i 5 Oak Road) gyda chyfanswm arwynebedd o 85.22 o fetrau sgwâr, wedi ei labelu’n ‘D’ ac wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adeiladwyd.
Darn petryalog hir a thenau ei siâp o briffordd i’r dde o’r mynedfeydd i Rhifau 44 a 45 Oak Road gyda chyfanswm arwynebedd o 9.54 o fetrau sgwâr, wedi ei labelu’n ‘E’ ac wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adeiladwyd.
ATODLEN 2
Y Datblygiad
Dymchwel 1–23 Oak Road, Ty-du, Casnewydd ac ailddatblygu i ddarparu 43 o gartrefi preswyl sy’n cynnwys 5 ty a 9 fflat ar y safle gogleddol a 29 o fflatiau ar y safle deheuol ynghyd â gwaith tirluniio, mynediad, parcio a gwaith cysylltiedig.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email
Transportordersbranch@gov.wales
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
TOWN AND COUNTRY PLANNING ACT 1990
THE STOPPING UP OF HIGHWAYS
(OAK ROAD, ROGERSTONE, NEWPORT) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 247 of the Town and Country Planning Act 1990 (“the 1990 Act”) to authorise the stopping up of the lengths of highway described in Schedule 1 to this Notice. The Welsh Ministers are satisfied that stopping up is necessary, and it will be authorised only in order to enable the development to be carried out in accordance with planning permission granted under Part 3 of the 1990 Act by Newport City Council on 8 January 2025 with reference 22/0919 described in Schedule 2 to this Notice.
The Stopping Up of Highways (Oak Road, Rogerstone, Newport) Order 2025 (“the Order”) ceases to have effect if planning permission in respect of the development expires or is revoked.
Copies of the Order and the deposited plan may be inspected free of charge during normal opening hours at Rogerstone Library, Castle View, 146 Tregwilym Road, Rogerstone, Newport, NP10 9EL or may be obtained free of charge from the address below quoting reference quoting reference qA2281183.
If a person is aggrieved by the Order, on the grounds that:
a. it is not within the powers of the 1990 Act; or
b. a procedural requirement of the 1990 Act has not been complied with;
that person may, within 6 weeks of 29 September 2025 make an application for the purpose to the High Court.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at
https://gov.wales/stopping-orders
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
(All measurements are approximate)
Lengths of highway to be stopped up
An almost rectangular length of highway situated to the left side of the block of flats (No 15 to 18 Oak Road) with a total area of 18.97 metres squared, labelled ‘A’ and marked with zebra hatching on the deposited plan.
An irregular shaped length of highway situated to the left side of the block of flats (No 10 to 14 Oak Road) and to the front of the block of flats (No 15 to 18 Oak Road) with a total area of 46.86 metres squared, labelled ‘B’ and marked with zebra hatching on the deposited plan.
An irregular shaped length of highway situated to the rear of the block of flats (No 6 to 9 Oak Road) and extending in front of the block of flats (No 10 to 14 Oak Road) with a total area of 191.79 metres squared, labelled ‘C’ and marked with zebra hatching on the deposited plan.
An almost rectangular length of highway situated to the front of the block of flats (No 1 to 5 Oak Road) with a total area of 85.22 metres squared, labelled ‘D’ and marked with zebra hatching on the deposited plan.
A long thin rectangular shaped length of highway situated to the right of the entrances to No 44 and 45 Oak Road with a total area of 9.54 metres squared, labelled ‘E’ and marked with zebra hatching on the deposited plan.
SCHEDULE 2
The Development
Demolition of 1–23 Oak Road, Rogerstone, Newport and redevelopment to provide 43 residential homes comprising 5 houses and 9 flats on the north site and 29 flats on the south site alongside landscaping, access, parking and associated works.
Open to feedback
From
3-Oct-2025
To
10-Nov-2025
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact South Wales Argus directly at: