Lôn Melin Y Coed - Temporary Prohibition of Traffic To Replacement of 1 Pole
What is happening?
RHYBUDD O FWRIAD
DEDDF RHEOLI TRAFNIDIAETH FFYRDD, 1984 ADRAN 14(1) FEL Y’I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFNIDIAETH
FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO), 1991
GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO)
(LÔN MELIN Y COED, LLANFAETHLU I LLANDDEUSANT) 2025
RHODDIR DRWY HYN RYBUDD fod Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council yn bwriadu dim llai na saith niwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd hwn wneud Gorchymyn bydd yn gwahardd dros dro pob cerbyd, ac eithrio cerbydau argyfwng, rhag teithio mewn unrhyw gyfeiriad ar hyd Lôn Melin y Coed, Llanfaethlu i Llanddeusant.
Mae angen y Gorchymyn ar gyfer galluogi newid 1 polyn.
Y ffordd arall fydd o bwynt gogleddol y cau ffordd - o’r Llew Du yn Llanfaethlu. Teithiwch ar hyd yr A5025 tua’r de i Bentref Llanfachraeth a throwch i’r chwith i Lôn Tan y Fron. Teithiwch tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd Lôn Tan y Fron i’r gyffordd â Lôn Llanddeusant a throwch i’r chwith i Lôn Cae Mawr Llanddeusant.
Yna teithiwch ar hyd Lôn Cae Mawr Llanddeusant tua’r gogledd i Bentref Llanddeusant a throwch i’r chwith i Lôn Melin Llynnon.
Teithiwch tua’r gogledd-orllewin ar hyd Lôn Melin Llynnon i’r gyffordd â Lôn Coed Llynnon a throwch i’r dde. Yna teithiwch tua’r gogledd-orllewin ar hyd Lôn Coed Llynnon i’r gyffordd â Lôn Melin y Coed a phen arall y cau ffordd. I’r gwrthwyneb i draffig sy’n dymuno teithio o’r cyfeiriad arall.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 17ain Hydref 2025 a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod na fydd yn fwy na 6 wythnos neu hyd nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd, pa un bynnag fyddo gyntaf. Ar hyn o bryd disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar 17eg Hydref 2025.
NOTICE OF INTENTION
ROAD TRAFFIC REGULATION ACT, 1984 SECTION 14(1) AS AMENDED BY THE ROAD TRAFFIC
(TEMPORARY RESTRICTIONS) ACT, 1991
CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
(TEMPORARY PROHIBITION OF THROUGH TRAFFIC) (LÔN MELIN Y COED, LLANFAETHLU TO LLANDDEUSANT) ORDER 2025
NOTICE IS HEREBY GIVEN that Cyngor Sir Ynys Môn/Isle of Anglesey County Council intend not less than seven days from the date hereof to make an Order, the effect of which will temporarily prohibit all vehicles, except emergency vehicles, from travelling in either direction along Lôn Melin y Coed, Llanfaethlu to Llanddeusant.
The Order is necessary to enable replacement of 1 pole.
The alternative route will be from the northern point of the road closure - from the Black Lion in Llanfaethlu. Travel along the A5025 in a southerly direction to Llanfachraeth Village and turn left onto Lôn Tan y Fron. Travel in a north easterly direction along Lôn Tan y Fron to the junction with Lôn Llanddeusant and turn left onto Lôn Cae Mawr Llanddeusant.
Then travel along Lôn Cae Mawr Llanddeusant in a northerly direction to Llanddeusant Village and turn left onto Lôn Melin Llynnon. Travel in a north westerly direction along Lôn Melin Llynnon to the junction with Lôn Coed Llynnon and turn right. Then travel in a north westerly direction along Lôn Coed Llynon to the junction with Lon Melin y Coed and the opposite end of the road closure. Vice versa for traffic wishing to travel from the opposite direction.
The Order comes into effect on 17th October 2025 and will continue in force for a period not exceeding 6 weeks or until the work which it is proposed to carry out on the road is completed, whichever is the earlier. At this stage it is anticipated that the works will be completed on 17th October 2025.
DYDDIEDIG 01/10/2025 DATED
...................................................
LYNN BALL, CYFARWYDDWR SWYDDOGAETH (BUSNES Y CYNGOR)/ SWYDDOG MONITRO DIRECTOR OF FUNCTION (COUNCIL BUSINESS)/MONITORING OFFICER CYNGOR SIR YNYS MÔN / ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL SWYDDFA’R SIR/COUNTY OFFICES, LLANGEFNI, YNYS MÔN LL77 7TW
AM FWY O WYBODAETH YNGLYN Â’R UCHOD CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYFREITHIOL AR / FOR FURTHER INFORMATION REGARDING
THE ABOVE PLEASE TELEPHONE THE LEGAL SECTION ON LLANGEFNI 01248 752389 HT-027093-SMJ
Croeso i chi ddelio gyda’r Cyngor yn Gymraeg neu’n Saesneg. Cewch yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.
You are welcome to deal with the Council in Welsh or English. You will receive the same standard of service in both languages.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Bangor & Holyhead Mail directly at: