Castle Street, Builth Wells, Powys - Temporary restrictions due to carriageway works
What is happening?
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A470 (CASTLE STREET, LLANFAIR-YMMUALLT, POWYS) (GWAHARDD CERBYDAU DROS DRO) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A470, neu gerllaw iddi, yn Llanfair-ym-Muallt, Powys.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwahardd dros dro bob cerbyd rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A470 o’r enw Castle Street sy’n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd â’r A470 Hay Road hyd at ganolbwynt ei chyffordd â’r A483 Broad Street â’r A483 Station Road.
Y llwybr arall ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd fydd mynd ar yr A470 tua’r de i Aberhonddu, yr A40 tua’r gorllewin i Lanymddyfri a’r A483 tua’r gogledd-ddwyrain i Lanfair-ym-Muallt: i’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r de.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 20 Hydref 2025. Gwneir y gwaith o dan amryw drefniadau rheoli traffig gan gynnwys cau darnau o’r gefnffordd am 24 awr, cau darnau o’r gefnffordd yn ystod y nos a chau lonydd drwy ddefnyddio goleuadau traffig dros dro. Disgwylir y bydd y gwaharddiad dros dro yn weithredol o 09:00 o’r gloch ar 20 Hydref hyd 07:00 o’r gloch ar 28 Hydref 2025, neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y cyfnod a bennir uchod y disgwylir i’r Gorchymyn fod yn weithredol. Er hynny, bydd yn parhau’n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu’r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall. Bydd hysbysiad am unrhyw newidiadau i’r amseroedd a’r dyddiadau yn cael ei arddangos cyn gwneud unrhyw waith a ailamserlennir.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
THE A470 TRUNK ROAD (CASTLE STREET, BUILTH WELLS, POWYS) (TEMPORARY PROHIBITION OF VEHICLES) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A470 trunk road at Builth Wells, Powys.
The effect of the proposed Order will be to temporarily prohibit all vehicles from proceeding on the length of the A470 trunk road known as Castle Street that extends from the centre-point of its junction with the A470 Hay Road to the centre-point of its junction with the A483 Broad Street and A483 Station Road.
The alternative route for northbound vehicles will be via the southbound A470 to Brecon, westbound A40 to Llandovery and north-eastbound A483 to Builth Wells: viceversa for southbound vehicles.
The Order will come into force on 20 October 2025. The works will be undertaken under varying traffic management arrangements including full 24-hour closures, nighttime closures and lane closures under temporary traffic signal controls. The temporary prohibition is expected to operate from 09:00 hours on 20 October until 07:00 hours on 28 October 2025, or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the Order is only expected to be in force during the period specified above, it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required. Notice of any changes to times and dates will be displayed before any rescheduled work begins.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: