A4059 Trunk Road - Temporary Prohibitions And Restrictions Order
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A4059 (Y RHIGOS I HIRWAUN, RHONDDA CYNON TAF) (GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU TRAFFIG DROS DRO) 2025
MAE GWEINIDOGION CYMRU wedi gwneud Gorchymyn o dan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae angen y Gorchymyn er mwyn gwneud gwaith ar gefnffordd yr A4059, neu gerllaw iddi, rhwng y Rhigos a Hirwaun, Rhondda Cynon Taf.
Effaith y Gorchymyn yw gwahardd dros dro bob cerbyd (ac eithrio’r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith), beicwr a cherddwr rhag mynd ar y darnau o’r A4059 a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn, a gosod terfynau cyflymder o naill ai 50 mya, 40 mya neu 30 mya dros dro ar y darnau o gefnffordd yr A4059 a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn. Disgrifir llwybrau eraill yn lle’r ffyrdd sydd ar gau hefyd yn Atodlen 1.
Disgwylir y bydd y cyfyngiadau dros dro, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn dod i rym am 06:00 o’r gloch ar 1 Hydref 2025 ac yn weithredol yn ysbeidiol dros nos (20:00 – 06:00 o’r gloch) am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-ffyrdd
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr
Dros Dro a Llwybrau Eraill
1. Y darn o gefnffordd yr A4059 tua’r dwyrain sy’n ymestyn rhwng Cylchfan y Rhigos a Chylchfan Hirwaun, gan ddechrau o’i chyffordd â’r gerbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
2. Y darn o gefnffordd yr A4059 tua’r gorllewin sy’n ymestyn rhwng Cylchfan Hirwaun a Chylchfan y Rhigos, gan ddechrau o’i chyffordd â’r gerbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
3. Dylai’r traffig yr effeithir arno gan gau’r A4059 tua’r dwyrain fynd tua’r gogledd ar hyd yr A4059 i Gyffordd Rhigos Road, troi i Rhigos Road, mynd tua’r dwyrain ar hyd Brecon Road i Gylchfan Hirwaun, ac ailymuno â’r gefnffordd. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig yr effeithir arno gan y cau tua’r gorllewin.
ATODLEN 2
Terfyn Cyflymder Dros Dro
1. Y darn o gefnffordd yr A4059 tua’r dwyrain sy’n ymestyn rhwng Cylchfan y Rhigos a Chylchfan Hirwaun, gan ddechrau o’i chyffordd â’r gerbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
2. Y darn o gefnffordd yr A4059 tua’r gorllewin sy’n ymestyn rhwng Cylchfan Hirwaun a Chylchfan y Rhigos, gan ddechrau o’i chyffordd â’r gerbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE A4059 TRUNK ROAD (Y RHIGOS TO HIRWAUN, RHONDDA CYNON TAF) (TEMPORARY PROHIBITIONS AND RESTRICTIONS) ORDER 2025
THE WELSH MINISTERS have made an Order under section 14(1), (4) and (7) of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake works on or near the A4059 trunk road between Rhigos and Hirwaun, in the County of Rhondda Cynon Taf.
The effect of the proposed Order is to temporarily prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works), cyclists and pedestrians from proceeding on the lengths of the A4059 described in the Schedule 1 to this Notice, and to temporarily impose either 50 mph, 40 mph or 30 mph speed limits on the lengths of the A4059 trunk road described in the Schedule 2 to this Notice.
Alternative routes to the road closures are also described in Schedule 1.
It is expected that the temporary restrictions, which will be signed accordingly, will come into force at 06:00 hours on 1 October 2025 and operate intermittently overnight (20:00 hours – 06:00 hours) for a maximum period of 18 months.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at
https://gov.wales/road-orders
C WYNN, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
Temporary Prohibition of Vehicles, Cyclists & Pedestrians and Alternative routes
1. The length of the eastbound A4059 trunk road that extends between Rhigos Roundabout and Hirwaun Roundabout, starting from its junction with the circulatory carriageway to its junction with the main eastbound carriageway.
2. The length of the westbound A4059 trunk road that extends between Hirwaun Roundabout and Rhigos Roundabout, starting from its junction with the circulatory carriageway to its junction with the main eastbound carriageway.
3. Traffic affected by the closure of the A4059 eastbound should proceed north along the A4059 to Rhigos Road Junction, turn onto Rhigos Road, proceed easterly along Brecon Road to the Hirwaun Roundabout, and rejoin the trunk road. Vice versa for traffic affected by the westbound closure.
SCHEDULE 2
Temporary Speed Limit
1. The length of the eastbound A4059 trunk road that extends between Rhigos Roundabout and Hirwaun Roundabout, starting from its junction with the circulatory carriageway to its junction with the main eastbound carriageway.
2. The length of the westbound A4059 trunk road that extends between Hirwaun Roundabout and Rhigos Roundabout, starting from its junction with the circulatory carriageway to its junction with the main eastbound carriageway.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: