Dolgellau To South Of Birkenhead Trunk Road - Public Exhibitions Of Draft Order Proposals
What is happening?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
CEFNFFORDD DOLGELLAU I FAN I’R DE O BENBEDW (YR A494)
DISODLI PONT DROS AFON DYFRDWY (GWELLIANT CYFNEWIDFA QUEENSFERRY I GARDEN CITY)
ARDDANGOSFEYDD CYHOEDDUS O GYNIGION Y GORCHYMYN DRAFFT
HYSBYSIR DRWY HYN bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnal arddangosfeydd cyhoeddus o’r Gorchmynion drafft ar gyfer y cynllun a enwir uchod. Bydd dwy arddangosfa gyhoeddus o’r Gorchmynion drafft, planiau cysylltiedig a dogfennau ategol yn cael eu cynnal ar 22 Hydref 2025 yn Nhŷ Calon, Campws Queensferry, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA o 10:00 am tan 6:00 pm ac ar 29 Hydref 2025 yn Eglwys Sant Andrew/Hwb Gymunedol Sant Andrew, Sealand Avenue, Garden City, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 2HN o 10:00 am tan 6:00 pm.
Bydd copïau o’r Gorchmynion drafft ynghyd â’u dogfennau cysylltiedig ar gael i’w harchwilio yn yr Arddangosfeydd.
Dylai unrhyw bersonau a hoffai i’w barn am y cynigion gael ei hystyried ysgrifennu at y Gangen Orchmynion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy e-bost i Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru gan ddyfynnu cyfeirnodau qA2280938 and qA2282120 erbyn 11 Tachwedd 2025.
Sylwer: Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau mewn ymateb i’r Gorchmynion drafft, neu wneud sylw ar y Datganiad Amgylcheddol a/neu’r Datganiad i Hysbysu Asesiad Priodol, bydd y tîm prosiect yn ystyried eich gohebiaeth ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses hon caniateir i ni drosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni a’ch data personol.
Ni fyddwn, fodd bynnag, yn datgelu eich manylion personol ond pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn ein galluogi i ymdrin â’r materion a godwyd. Pan fo cynllun cefnffordd yn dod yn destun Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus (YLlC), caiff pob gohebiaeth ei chopïo i Arolygydd yr Ymchwiliad ac fe’i cedwir yn y Llyfrgell YLlC lle y bydd ar gael i’r cyhoedd. Os nad ydych yn dymuno i ddata personol penodol gael ei anfon ymlaen at drydydd parti, dylech nodi pam pan fyddwch yn cyflwyno eich gohebiaeth a bydd Gweinidogion Cymru yn copïo’r sylwadau i’r trydydd parti priodol gyda’r enw a’r cyfeiriad wedi eu dileu. Os bydd YLlC yn cael ei gynnal, bydd yr Arolygydd yn gweld y sylwadau ond efallai y bydd yn rhoi llai o sylw iddynt o ganlyniad i hyn.
C WYNN, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales
THE DOLGELLAU TO SOUTH OF BIRKENHEAD TRUNK ROAD (A494)
RIVER DEE BRIDGE REPLACEMENT (QUEENSFERRY INTERCHANGE TO GARDEN CITY IMPROVEMENT)
PUBLIC EXHIBITIONS OF DRAFT ORDER PROPOSALS
NOTICE IS HEREBY GIVEN that the Welsh Ministers propose to hold public exhibitions of the draft Orders for the above scheme. Two public exhibitions of the draft Orders, associated plans and supporting documents will be held on 22 October 2025 at Ty Calon, Queensferry Campus, Chester Road West, Queensferry, Deeside, CH5 1SA from 10:00 am until 6:00 pm and on 29 October 2025 at the St Andrew’s Church/St Andrew’s Community Hub, Sealand Avenue, Garden City, Deeside, Flintshire CH5 2HN between 10:00 am and 6:00 pm.
Copies of the draft Orders together with their associated documents will be available for inspection at the Exhibitions.
Any persons who wish to have their views on the proposals considered should write to the Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or by email to TransportOrdersBranch@gov.wales quoting references qA2280938 and qA2282120 by 11 November 2025.
Please note: Should you wish to object, support or make representations in response to the draft Orders or comment on the Environmental Statement and/or the Statement to Inform an Appropriate Assessment, your correspondence will be considered by the project team and we may need to consult with people and organisations outside of the Welsh Government.
As part of this process we may pass information to them, including information you have given us and your personal data. We will however, only disclose your personal details where it is necessary to do so to enable us to deal with the issues raised. Where a trunk road scheme becomes the subject of a Public Local Inquiry (PLI), all correspondence is copied to the Inspector of the Inquiry and is kept in the PLI Library and is publicly available.
If you do not wish for certain personal data to be forwarded to third parties, you should state why when submitting your correspondence and the Welsh Ministers will copy the representations to the appropriate third parties with the name and address removed and if there is to be a PLI, the representations will be seen by the Inspector who may give them less weight as a result.
C WYNN, Transport, Welsh Government
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: